Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Wel, rwy'n gobeithio na fydd yr Aelod gweld gormod o hyder yn fy natganiad, oherwydd yn anffodus, mae'r profiad o geisio cael gwybodaeth am y meddylfryd sy'n sail i'r gronfa ffyniant gyffredin wedi bod yn un anodd. Fel Llywodraeth, fel y mae ei gwestiwn yn ei gydnabod rwy’n credu, rydym wedi ceisio dyfeisio trefniadau olynol mewn cydweithrediad â phobl yng Nghymru, ac o ganlyniad i hynny, o gofio pa mor bwysig ydynt, mae sylfaen eang o gefnogaeth i'r dull rydym yn ei hyrwyddo. Yn bersonol, pan fydd Llywodraeth y DU yn gallu darllen a dadansoddi'r darpariaethau a'r argymhellion yn y fframwaith hwnnw, credaf y byddant yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i gynigion na fyddent eisiau eu cefnogi ynddo a bod yn onest oherwydd bod eu ffocws ar annog busnesau cynhyrchiol, cefnogi cyflogaeth, ac yn y blaen, a gwn fod y pethau hynny ar eu rhestr hwy o flaenoriaethau hefyd. Felly, byddwn yn dweud y dylai Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni, hyd yn oed ar yr awr hwyr hon, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod yr addewidion a wnaed i bobl Cymru yn cael eu cadw, o ran sut y caiff yr arian ei wario, ond hefyd, yn hollbwysig, o ran beth yw'r arian hwnnw. Wrth i ni sefyll yma heddiw, mae'r addewidion hynny wedi'u torri, ond nid yw'n rhy hwyr i gymryd cam yn ôl a rhoi trefniadau ar waith sy'n bodloni'r ymrwymiadau a wnaed i bobl Cymru.