– Senedd Cymru am 4:14 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 wedi'u llunio i ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy sicrhau nad yw tenantiaid yn cael eu troi allan a'u gwneud yn ddigartref dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Yn y cyfnod cyn y Nadolig a'r cyfnod yn syth wedi hynny, mae'r rhai sy'n wynebu cael eu troi allan mewn llawer mwy o berygl o gael eu gwneud yn ddigartref. Mae hi'n aml yn llawer anoddach cael gafael ar wasanaethau, cyngor a chymorth. Yn yr un modd, mae'r llety amgen sydd ar gael yn debygol o fod yn gyfyngedig yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae rhywun sy'n ddigartref yn cael ei roi mewn mwy o berygl o ddal COVID-19 a'i drosglwyddo i eraill. Felly, ni allwn ni ganiatáu sefyllfa lle mae troi allan yn arwain at ddigartrefedd, sydd, yn ei dro, yn cynyddu'r risg i bobl ddigartref ac iechyd y cyhoedd yn ehangach. O ystyried y sefyllfa yr ydym ni yn ei hwynebu ar hyn o bryd yng nghyswllt y feirws, mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu'n gyflym i atal hyn.
Mae'r rheoliadau hyn yn atal, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, swyddogion gorfodi'r Uchel Lys neu feilïaid rhag mynd i dŷ annedd at ddibenion gweithredu gwrit neu warant o feddiant, gweithredu gwrit neu warant adfer, neu gyflwyno hysbysiad troi allan. Mae'r amgylchiadau penodol yn cynnwys, er enghraifft, pan wneir cais yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol. Daw'r rheoliadau i ben ar 11 Ionawr 2021. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn flaenorol drwy ganllawiau ei bod yn bwriadu atal troi allan ledled Cymru a Lloegr rhwng 11 Rhagfyr ac 11 Ionawr. Mae'r rheoliadau hyn yn darparu sail statudol i'r canllawiau hynny mewn cysylltiad â Chymru.
Yn ddelfrydol, byddwn wedi hoffi i'm swyddogion fod wedi cael cyfle i ymgysylltu â rhanddeiliaid cyn gwneud y rheoliadau, fodd bynnag, ni hysbysodd Llywodraeth y DU ni o'r ffaith eu bod wedi llunio rheoliadau tebyg oedd yn berthnasol i Loegr tan ar ôl iddyn nhw ddod i rym ar 17 Tachwedd. Felly, bu'n rhaid inni wneud y rheoliadau mewn cysylltiad â Chymru ar gryn dipyn o frys. Fodd bynnag, hysbyswyd rhanddeiliaid o'r cyhoeddiad cynharach gan Lywodraeth y DU y cai troi allan ei atal o 11 Rhagfyr i 11 Ionawr. Cymeradwyaf y cynnig cymeradwyo i'r Aelodau.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n gwybod y cyflwynwyd y rheoliadau hyn ddydd Iau diwethaf ac y daethant i rym ddydd Gwener. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau yn ein cyfarfod fore ddoe ac mae ein hadroddiad wedi'i gyflwyno gerbron y Senedd i fod yn sail i ddadl y prynhawn yma. Mae ein hadroddiad yn cynnwys un pwynt technegol a thri phwynt o ran rhinweddau. Mae'r pwynt adrodd technegol yn amlygu'r hyn a ystyriwn yn ddarpariaeth ddiangen yn y rheoliadau yn rheoliad 3(2). Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru egluro pam y mae angen y ddarpariaeth arbed hon.
Mae ein pwynt cyntaf o ran rhinweddau yn ymwneud â materion hawliau dynol. Mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys hawliau landlord o dan erthygl 1, protocol 1 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Er bod y memorandwm esboniadol yn nodi y caiff y rheoliadau hyn eu llunio mewn ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus, nid yw'n cyfeirio'n benodol at y ffaith bod y rheoliadau hyn yn ymwneud â hawliau dynol a sut y maen nhw'n barnu bod y darpariaethau yn gyfiawn ac yn gymesur yng nghyd-destun hawliau dynol tenantiaid a landlordiaid. Rydym ni wedi gofyn i'r Llywodraeth roi'r cyfiawnhad hwn.
Mae ein hail bwynt o ran rhinweddau yn nodi na fu ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau. Er ein bod yn derbyn nad oes gofyniad statudol i ymgynghori, rydym ni wedi gofyn i'r Llywodraeth gadarnhau a fu iddi allu ymgysylltu mewn unrhyw fodd â rhanddeiliaid perthnasol cyn gwneud y rheoliadau hyn. Mae ein trydydd pwynt o ran rhinweddau yn nodi nad yw'r Llywodraeth wedi paratoi asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y rheoliadau hyn. Ond rydym ni wedi cydnabod bod y memorandwm esboniadol yn rhoi crynodeb o effaith bosibl y rheoliadau hyn, sy'n darparu asesiad ansoddol o'u heffaith. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Dim ond rhai sylwadau byr sydd gen i.
O dan y rheoliadau, Gweinidog, dim ond tan 11 Ionawr y caiff troi allan ei atal, fel yr ydych chi wedi ei nodi. Wrth gwrs, mae hyn i'w groesawu, ond fe wyddom ni i gyd hefyd, erbyn canol mis Ionawr, y gallem ni fod mewn sefyllfa waeth fyth gyda'r pandemig nag yr ydym ni nawr. Ac yn realistig, ni fydd effaith brechu i'w gweld tan ymhell i'r gwanwyn yn y sefyllfa orau. Felly, does dim dwywaith, ni allwn ni weld troi allan am resymau iechyd y cyhoedd am gyfnod llawer hirach. Felly, byddwn ni ym Mhlaid Cymru yn pleidleisio o blaid y rheoliadau hyn heno, ond a gaf i ofyn i'r Gweinidog pam nad yw'r Llywodraeth ond yn parhau i gynyddu'r cyfnod sy'n amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag cael eu troi allan fesul ychydig wythnosau'n raddol, yn hytrach na gwarantu'r gefnogaeth honno gyhyd ag y bo angen? Oes rheswm technegol pam mai fel hyn y mae hi? Siawns nad yw troi unrhyw un allan yn ystod pandemig yn ddigydwybod. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi o ran y sylw yna, felly byddwn yn croesawu ei sylwadau dim ond ynglŷn â hynny, os gwelwch yn dda. Diolch.
Diolch. Nid oes gennyf Unrhyw Aelodau eraill sydd wedi gofyn a gânt wneud unrhyw ymyriad. Felly, galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl—Julie James.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r ddau Aelod sydd wedi siarad yn ystod y ddadl. Nid wyf yn ymddiheuro am gyflwyno deddfwriaeth ar unrhyw adeg sy'n ceisio gwarchod pobl rhag dod yn ddigartref. Ond, mae'n hollbwysig, ar sail iechyd y cyhoedd, ein bod yn atal digartrefedd yn ystod y cyfnod hwn o'r pandemig sy'n arbennig o allweddol. Dros gyfnod y Nadolig, bydd y rheoliadau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni'r nod hwnnw.
Sylweddolaf iddyn nhw gael eu llunio, ac y daethant i rym, ar fyr rybudd, gan ddefnyddio gweithdrefn frys, a bod hynny wedi cyfyngu ar y gwaith o graffu arnynt. Ond, mae hyn, wrth gwrs, oherwydd eu bod yn ymateb i sefyllfa frys. Pe na baen nhw wedi dod i rym bron ar unwaith, ni fydden nhw wedi cael yr effaith a ddymunir. Rwy'n derbyn y sylw y mae Delyth Jewell yn ei wneud hefyd. Rydym ni yn adolygu'r rheoliadau'n gyson. Byddwn, wrth gwrs, yn ceisio eu hadnewyddu os oes angen hynny, os cyfyngir ymhellach ar fynediad at wasanaethau digartrefedd ac yn y blaen ar ôl 11 Ionawr. Felly, anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig.
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.