Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Fe fydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid y rheoliadau yma. Dwi'n credu y gellid bod wedi cymryd y penderfyniad i gau'r ysgolion uwchradd yn gynt, oherwydd yr hyn oedd wedi cael ei amlinellu gan y gell cyngor technegol ar 3 Rhagfyr, ond yn hytrach, mi wnaeth y Gweinidog ddisgwyl tan i'r prif swyddog meddygol orchymyn, mwy neu lai, fod angen i hyn ddigwydd, ac mae hynny wedi creu problemau.
Dwi'n credu y dylid bod wedi creu darpariaeth ar safle'r ysgol ar gyfer plant o deuluoedd sydd yn methu, neu'n methu fforddio trefnu gofal plant, hynny yw ar gyfer y plant iau yn yr ysgol uwchradd, yn enwedig efo cyn lleied o rybudd i deuluoedd bod yr ysgolion yn cau. Mae'r penderfyniad hwyr yn y dydd wedi creu llu o broblemau, ac mewn sawl achos, nain a thaid sy'n gorfod helpu, ac felly maen nhw eu hunain yn rhoi eu hunain mewn sefyllfa beryglus o ddal y feirws o bosibl. I lawer o bobl, does yna ddim dewis ond cario ymlaen i weithio a dibynnu ar deulu oedrannus i helpu, neu adael y plant eu hunain ac, yn glir, dydy hynny ddim yn sefyllfa dderbyniol. Felly, mi fyddai darpariaeth ar eu cyfer nhw, ar gyfer y teuluoedd hynny sydd yn methu trefnu gofal plant wythnos yma, wedi bod yn gam i'r cyfeiriad cywir, dwi'n credu.
Dwi'n parhau i fod yn bryderus iawn am y bwlch digidol. Fel mae'r BBC a Chomisiynydd Plant Cymru wedi'i ganfod, mae yna blant yn parhau i fod heb liniaduron; maen nhw yn ceisio cael mynediad at eu haddysg drwy beiriannau gemau, drwy Xboxes neu drwy ffonau symudol. Mae yna blant sy'n disgyn drwy'r rhwyd, ac er bod y Gweinidog yn teimlo bod y sefyllfa dan reolaeth, ddim dyna'r darlun sydd yn dod drwodd i mi drwy'r gwaith sydd yn cael ei gyfeirio ataf fi drwy waith achos ac yn y blaen. Ac felly, dyna pam mae Plaid Cymru yn galw am sefydlu cofrestr genedlaethol ar gyfer cadw trac o bwy sydd â chyfarpar digidol a phwy sydd efo'r cysylltedd band-eang, er mwyn wedyn medru darparu'r adnoddau ychwanegol rheini fel bod angen.
Yn olaf, yn sgil yr holl amharu ar addysg sydd wedi bod yn digwydd rŵan ers mis Mawrth, dwi yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi eu cynlluniau addysgol ôl-COVID yn fuan yn y flwyddyn newydd, a chyhoeddi sut maen nhw'n mynd i'w gweithredu nhw, a pha adnoddau ychwanegol fydd ar gael i ysgolion. Mi fydd angen ymdrech enfawr i gefnogi'n plant a'n pobl ifanc ni efo'u haddysg a'u lles meddyliol; mae angen hynny rŵan, ond mi fydd angen hynny am fisoedd, os nad blynyddoedd, i ddod, a gorau po gynted y cawn ni weld cynlluniau ar gyfer y cyfnod nesaf, a chraffu arnyn nhw yn adeiladol o'r meinciau cefn. Dwi'n awyddus iawn i gefnogi'r broses honno. Diolch.