Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Yn anffodus, rydym yn dod i ddiwedd 2020 yn wynebu pennod anodd arall yn stori'r frwydr ddi-baid yn erbyn y feirws ofnadwy hwn. Mae gan y coronafeirws afael gref ar ein cymunedau, ac mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael trafferth oherwydd maint y pandemig. Rydym yn dal i weld nifer fawr o bobl yn mynd yn sâl ac, yn anffodus, llawer o farwolaethau. A phwy a ŵyr beth ddaw yn sgil y math newydd hwn o'r feirws. Mae'n argyfwng ymarferol, economaidd ac emosiynol, ac rwy'n cydymdeimlo â'r holl deuluoedd hynny sydd wedi colli anwyliaid, â'r busnesau sy'n ei chael hi'n anodd cadw eu drysau ar agor, â'r bobl sydd wedi colli eu swyddi, ac â'r bobl sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl yn y dyddiau anodd iawn hyn. Hoffwn hefyd ddiolch ar goedd i'r holl weithwyr hynny ar y rheng flaen y gallaf ond dychmygu yr her y maen nhw'n ei hwynebu bob dydd wrth fynd i'r afael â'r pwysau cynyddol.
Ond a gaf i ddiolch hefyd i chi a'ch Cabinet, Prif Weinidog, am y penderfyniadau anodd yr ydych chi wedi'u hwynebu a'u gwneud eleni, yn aml yn wyneb beirniadaeth gas, annheg a phersonol? Fel y gwyddoch chi, rwy'n dilyn pêl-droed, ac fel cefnogwr ar y terasau, rwy'n gwybod pa mor hawdd yw gweiddi beirniadaeth o'r fan honno, ond nid yw byth mor hawdd sicrhau llwyddiant ar y cae chwarae ei hun. Ond mae'r camau yr ydych chi wedi'u cymryd wedi'u cymryd i geisio achub bywydau ac amddiffyn pobl Cymru gystal ag y gallwch chi, ac rwy'n diolch ichi am hynny.
Fel eraill yn y Siambr hon, rwyf wedi bod yn bresennol mewn nifer o sesiynau briffio dros yr wythnosau diwethaf gyda'r byrddau iechyd, cynghorau a gwasanaethau'r heddlu sy'n gweithredu yn fy etholaeth i. Mae'r sesiynau briffio'n llwm ac mae'r sefyllfa sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd yn ddifrifol. Y briff diweddaraf y bûm i ynddo ddydd Gwener yr wythnos diwethaf oedd un bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Nid yn unig yr oedd e'n sobreiddio rhywun; roedd yn peri gofid. Roedd cael sefyllfa mor enbyd wedi'i hamlinellu mor glir o ran yr hyn sy'n digwydd yn fy nghymuned yn rhywbeth na feddyliais erioed y byddai'n rhaid imi wrando arno. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, Dirprwy Lywydd, ond pan sefais i yn etholiad 2016, roedd oherwydd fy mod eisiau helpu i wella bywydau'r bobl ym Merthyr Tudful a Thredelerch. Ac eto, heddiw, rwy'n wynebu'r realiti o 170 o achosion COVID fesul 100,000 o'r boblogaeth, a chyfradd profion positif o bron i 30 y cant ym Merthyr Tudful yn unig, a nifer y cleifion COVID mewn unedau gofal dwys yr wythnos diwethaf yn fwy na nifer y gwelyau gofal dwys sydd ar gael yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ar gyfer COVID. Felly, yr hyn sy'n amlwg yw bod ein GIG yn cyrraedd y pwynt hwnnw yr oeddem ni, mewn gwirionedd, wedi gobeithio ei osgoi, felly mae'n rhaid i ni weithredu; nid yw gwneud dim yn ddewis. Mae un o'r ddau fwrdd iechyd yn fy etholaeth i eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn gorfod atal rhai gwasanaethau nad ydynt yn rhai arferol, ac nid wyf yn amau na fydd y bwrdd iechyd arall yn dilyn ei esiampl. Bydd hynny ynddo'i hun yn dod â phroblemau pellach yn y dyfodol, ond pa ddewis sydd ganddyn nhw? Mae'r lleisiau ar y rheng flaen yn dweud wrthym eu bod ar fin diffygio.
Dirprwy Lywydd, yn fy etholaeth i, mae'n ymddangos bod y cynllun profi torfol yn awgrymu y gallai dros 3.5 y cant o'r boblogaeth fod yn gludwyr asymptomatig o'r feirws. O ganlyniad, mae'r partneriaid sy'n cyflwyno'r cynllun profi hwn wedi penderfynu ymestyn y rhaglen brofi am wythnos arall, a chroesawaf y penderfyniad hwnnw. Rwy'n sicr yn gobeithio y gallwn wneud mwy o'r profion hyn, ac mae'n sicr yn arf pwysig i nodi achosion a chael gwell cyfle i leihau lledaeniad y feirws a nodi'r hyn sy'n digwydd yn ein cymunedau hyd nes inni weld manteision y brechiad.
Felly, beth yw fy nghasgliad o hyn i gyd? Wel, rwyf o'r farn, mewn argyfwng pandemig, mai'r ffordd orau y gallaf ddiwallu anghenion fy etholwyr yw cefnogi'r holl gamau gweithredu a all leihau'r cyfraddau heintio. Drwy wneud hynny, efallai y byddwn yn adfer y sefyllfa ryw gymaint mewn modd sy'n caniatáu i bobl a'n systemau ymdopi. Dim ond drwy ostwng y cyfraddau heintio hynny y bydd pobl yn gallu gweld normalrwydd yn dychwelyd i'w bywydau. Dim ond drwy ostwng y cyfraddau heintio hynny y bydd llawer o'r busnesau bach hynny sydd wedi bod yn cael trafferthion mor ofnadwy—yn enwedig yn y sectorau lletygarwch a thwristiaeth—yn cael y cyfle i wella.
Ni fydd yr hyn y mae angen inni ei wneud yn boblogaidd ymhlith pawb. Yn aml, nid y penderfyniadau poblogaidd yw'r penderfyniadau cywir, ond nawr yn fwy nag erioed, rhaid gwneud y penderfyniadau cywir hynny. Dyna pam rydym ni wedi gweld Llywodraethau cyfrifol ledled y byd yn gwneud penderfyniadau anodd iawn i ymdrin â hyn. Mewn llawer o'r gwledydd hynny, mae'r cyfyngiadau symud wedi bod yn llym ac yn ddi-oed oherwydd eu bod nhw, fel Llywodraeth Cymru, yn deall pa mor ddifrifol yw hyn.
Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd, yn sicr nid wyf yn rhan o hyn er mwyn bod yn boblogaidd. Byddaf yn gwneud yr hyn y mae'n rhaid i mi ei wneud i helpu Llywodraeth Cymru ac eraill i achub bywydau. Felly, mae fy neges i Lywodraeth Cymru yn glir: cymerwch yr holl gamau angenrheidiol a allwch chi i helpu ein gweithwyr rheng flaen i ymdopi â'r misoedd i ddod. Cymerwch yr holl gamau angenrheidiol a allwch chi i helpu ein cymunedau i wella o'r feirws hwn, a chymerwch yr holl gamau angenrheidiol a allwch chi i helpu ein busnesau i wella, fel bod gan bobl swyddi a bywoliaeth i ddychwelyd atynt pan fydd hyn i gyd ar ben. Ac ar gyfer y camau hynny, Prif Weinidog, cewch fy nghefnogaeth lawn.