Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Rwy'n ddiolchgar am gael cymryd rhan yn y ddadl hon, a byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau yn bennaf ar welliant 9 o'n heiddo, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth. Rydym yn ddiolchgar bod y Llywodraeth wedi derbyn y gwelliant hwnnw. Mae hwn, wrth gwrs, yn gyfnod eithriadol o anodd. Mae cyfyngiadau'n anochel i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Efallai y bydd angen, fel y mae Lynne Neagle newydd ei ddweud, i ni hyd yn oed gyfyngu ymhellach dros y Nadolig, efallai i ddwy aelwyd a chynnwys y rhai hynny sy'n byw ar eu pennau eu hunain am resymau tosturiol. Mae bywydau pobl yn holl bwysig.
Ond mae angen i ni edrych ymlaen. Mae dechrau'r rhaglen frechu, wrth gwrs, yn rhoi pob rheswm inni obeithio. Byddwn, fel cenedl, fel cymuned o gymunedau, yn goroesi'r argyfwng ofnadwy hwn, a byddwn yn gwneud hynny orau, mae'r cyfle gorau gennym ni i adeiladu'n ôl nid yn unig yn well ond yn dda iawn, os byddwn yn gweithio gyda'n gilydd gymaint ag y gallwn ni. Mae'r Llywodraeth yn canolbwyntio'n briodol ar hyn o bryd ar yr argyfwng iechyd cyhoeddus sydd gennym ni nawr ac, a bod yn deg, ar geisio lliniaru'r effaith ddifrifol anochel ar swyddi a busnesau. Mae ein gwelliant yn galw arnyn nhw i weithio'n agosach, yn enwedig gyda'r sectorau hynny sydd wedi'u taro galetaf—lletygarwch, lleoliadau chwaraeon a sefydliadau diwylliannol—i ddatblygu canllawiau manylach sy'n nodi'r camau y bydd angen eu cymryd i alluogi'r sectorau hynny i agor yn ddiogel pan fydd yr amser yn iawn. Rhaid imi bwysleisio eto, Llywydd, nad wyf yn sôn am nawr; rwy'n edrych yma ar y tymor canolig. Dywed y Llywodraeth eu bod yn cynnal trafodaethau cyson â'r sectorau hyn, ond nid dyna a ddywed y busnesau a'r sefydliadau hyn wrthym. Gall ddibynnu, wrth gwrs, gyda phwy mewn gwahanol sectorau y mae'r Llywodraeth yn ymgynghori â nhw ar hyn o bryd. Yn naturiol, nid yw'n bosibl i'r Llywodraeth siarad â phob busnes, lleoliad cerddoriaeth neu glwb chwaraeon unigol, ond byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych o'r newydd i sicrhau bod eu hymgynghoriadau, gan edrych ymlaen at y tymor canolig, mor eang ac mor gynhwysfawr â phosibl. Fel y dywedodd Adam Price a Rhun ap Iorwerth, croesawn y cynllun newydd hwn, ond, o ran edrych ymlaen at y tymor canolig, mae angen gwneud rhagor o waith.
Mae ein gwelliannau'n awgrymu bod y Llywodraeth yn hwyluso ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol y Llywodraeth. Y cynghorwyr gwyddonol, wrth gwrs, sydd yn y sefyllfa orau i roi cyngor ar y peryglon i iechyd. Y sectorau sy'n gwybod orau sut maen nhw'n gweithredu, ac maen nhw wedi hen arfer â gweithio mewn amgylcheddau rheoleiddio cymhleth o ran iechyd a diogelwch. Siawns nad yw'n gwneud synnwyr i ganiatáu cyfathrebu uniongyrchol i wella dealltwriaeth y sector o'r risgiau a dealltwriaeth y gwyddonwyr o'r agweddau ymarferol. O gofio bod y Llywodraeth yn derbyn y gwelliant hwn, sydd i'w groesawu, edrychaf ymlaen, yn y flwyddyn newydd, at yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau uniongyrchol rhwng cynghorwyr gwyddonol o dan yr adrannau yr wyf wedi sôn amdanyn nhw.
Llywydd, ni fuom ni erioed ym Mhlaid Cymru mor awyddus i Lywodraeth Cymru lwyddo fel y gellir diogelu bywydau a bywoliaethau. Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n adeiladol—craffu, gwneud awgrymiadau adeiladol, cefnogi lle y gallwn ni, gan wrthwynebu lle mae'n rhaid inni. Credaf mai dyma y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl gennym ni. Cymeradwyaf welliannau Plaid Cymru i'r Senedd hon.