Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Rydym ni yng nghanol argyfwng rhyngwladol. Mae pob Llywodraeth ledled y byd yn gwneud yr hyn a allant, y gorau y gallan nhw i ymdrin â'r feirws, na welwyd ei debyg ers dros 100 mlynedd yn Ewrop a thu hwnt. Mae cyfraddau marwolaethau a heintiau'n codi ac yn gostwng—hyd yn oed yn y DU, ychydig yn ôl, gogledd Iwerddon oedd ar y brig, yna rhannau o Loegr a nawr Cymru. Nid ras yw hon, serch hynny, Llywydd, oherwydd mae'r gwleidyddion i gyd, mi gredaf, yn ceisio gwneud y gorau gallant o dan yr amgylchiadau.
Cafwyd beirniadaeth yr wythnos diwethaf mai dim ond wythnos o rybudd oedd wedi'i roi i dafarndai yng Nghymru cyn y byddai'n rhaid iddyn nhw gau. Yn Llundain yr wythnos hon, rhoddwyd 48 awr o rybudd. Nawr, gallwn ddweud yn hawdd, 'Wel, onid yw hynny'n dangos rhywfaint o safonau dwbl?' Ond nid wyf yn mynd i wneud hynny oherwydd dyma pa mor anodd yw gwneud rhagfynegiadau. Dyma pa mor anodd yw hi i Lywodraethau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a thu hwnt wneud penderfyniadau i amddiffyn pobl pan fydd y feirws yn newid ei ymddygiad mor gyflym. Mae'n anodd i fusnesau; does dim dwywaith am hynny. Mae yna fusnesau sy'n meddwl, 'A fyddaf yn goroesi? A fyddaf yn dal yma y flwyddyn nesaf?' Mae busnesau a fydd, er gwaethaf y gefnogaeth gan y Llywodraeth, yn meddwl tybed a oes ganddyn nhw ddyfodol. Ond twyllo ein hunain fyddai credu y gallwn ni fynd yn ôl i normalrwydd ac anwybyddu'r ffaith bod y feirws yma. Ac rwyf wedi clywed y ddadl honno.
Mae rhai wedi defnyddio enghraifft Sweden. Dydyn nhw ddim yn gwneud hynny nawr, nac ydyn, Llywydd? Mae rhai yn sôn am imiwnedd torfol. Gadewch imi ddweud wrthyn nhw beth yw ystyr 'imiwnedd torfol': mae'n golygu naill ai (a) eich bod yn brechu pawb, neu (b) eich bod yn caniatáu i'r feirws redeg yn wyllt drwy'r gymuned, gan lorio'r gwan, yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed nes i chi gael yr imiwnedd hwnnw. Nid dyngarwch yw hynny, yn fy marn i, Llywydd. Ni allwn ni esgus nad yw'r feirws hwn yn bodoli.
Clywais Gareth Bennett, a ddywedodd yn y bôn fod ymdrechion Llywodraeth Cymru yn gynllwyn crypto-genedlaetholgar. Dyna a ddywedodd, i bob pwrpas, ac yna dywedodd ei fod yn mynnu parch gan Siambr nad yw'n dymuno ei gweld yma yn y lle cyntaf. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth. Nid yw hyn yn ymwneud â 'gwnaeth Lloegr hyn, gwnaeth Cymru'r llall. Gadewch i ni gystadlu â'n gilydd, gadewch i ni feirniadu ein gilydd.' Nid dyma sydd dan sylw. Mae pob rhan o'r DU yn gwneud y gorau o dan yr amgylchiadau i amddiffyn ei phobl. Rwy'n cefnogi Llywodraeth Cymru yn yr hyn y mae'n ei wneud. Rwy'n cefnogi Llywodraeth y DU yn yr hyn y mae'n ei wneud yn Lloegr, oherwydd rwy'n gwybod eu bod yn gwneud y gorau gallant.
Clywais Caroline Jones yn siarad. Roedd yn ymddangos ei bod yn dweud na ddylem ni gael dull gweithredu rhanbarthol, ond y dylem ni gael un dull gweithredu ledled y DU gyfan. Un gyfres o reolau ar draws y DU gyfan, waeth ble yr ydych chi, p'un a ydych yn Warrenpoint ar y ffin â Gweriniaeth Iwerddon, neu yn yr Hebrides Allanol neu, yn wir, yn Llundain. Dyna'r argraff a gawsom ni o'r ddadl. Nid dyna realiti'r sefyllfa.
Rydym ni yng Nghymru yn wynebu'r argyfwng hwn gyda'n gilydd. Gwelwn olau ym mhen draw'r twnnel, gwyddom ble mae'r daith yn dod i ben: mae yna frechlyn. Y cwestiwn yw faint yn rhagor o bobl ydym ni'n barod i'w colli ar y ffordd. Wyth deg mlynedd yn ôl, Llywydd, yn Ewrop gyfan ac yn y wlad hon, fe wynebodd cenhedlaeth lefel o amddifadedd am chwe blynedd mewn rhyfel na allwn ei ddychmygu o gwbl. Nid oedden nhw'n gwybod beth oedd y dyfodol. Roedden nhw'n dioddef dogni, ond roedden nhw'n dyfalbarhau er gwaethaf popeth. A ydym yn dweud, am ychydig fisoedd, nes i'r brechlyn gyrraedd, na allwn ni ymdopi ag ychydig o gyfyngiadau? Oherwydd os ydym yn dweud hynny, yna nid ydym yn gymwys i ddilyn ôl eu traed.
Mae yna bobl sy'n credu bod y feirws hwn yn dwyll. Mae yna bobl sydd wedi cael profion cadarnhaol sydd wedyn yn mynd i'r gwaith a heintio pobl eraill. Y cwestiwn i ni fel cymdeithas yw hyn: bydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych yn ôl arnom ni a byddant yn dweud, 'Pa mor effeithiol oedd y bobl hyn wrth ymdrin â'r feirws hwn?' Mae angen inni allu edrych ym myw eu llygaid. Nid yw'r feirws yn poeni am wleidyddiaeth, nid yw'n poeni am Brexit, nid yw'n poeni ble yn y DU y mae, nid yw'n poeni am yr UE, ac mae'n rhaid i ni gofio bod cydweithredu'n allweddol i sicrhau bod mwy o bobl yn byw, bod dyfodol i fwy o bobl, a bod mwy o fywydau'n cael eu hachub. Ac ar y sail honno, Llywydd, rhoddaf fy nghefnogaeth i Lywodraeth Cymru, rhoddaf fy nghefnogaeth i Lywodraeth y DU, ac i bob llywodraeth ledled y byd sy'n ceisio sicrhau bod eu poblogaethau'n cael eu diogelu yn y dyfodol. Ni waeth beth yw ein gwleidyddiaeth, ni waeth beth yw ein pleidiau, dyna'n sicr yw ein hegwyddor arweiniol.