18. & 19. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:02 pm ar 15 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 7:02, 15 Rhagfyr 2020

O'i weithredu a'i gefnogi'n iawn, fe allai'r cwricwlwm newydd roi'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae gwaith y pwyllgor wedi bod yn hollbwysig wrth geisio adnabod unrhyw rwystrau ac unrhyw ganlyniadau anfwriadol allai ddeillio o'r Bil, ac mae'r ffaith ein bod ni wedi llunio 66 o argymhellion yn dangos bod ein craffu wedi datgelu nifer o faterion sy'n codi consérn, a hoffwn innau ddiolch i bawb sydd wedi bod yn ein helpu ni efo'r broses hon.

Un o'r ystyriaethau pwysig sydd angen i'r Llywodraeth a'r Senedd eu hystyried ydy sut i sicrhau cwricwlwm cenedlaethol cyson ledled Cymru. Mae yna awydd cyffredinol ymhlith pobl ifanc i ddysgu am yr un pethau. Mae angen manylion am sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod cwricwla ysgolion unigol yn briodol, yn gytbwys, ac yn arwain at gysondeb. Mae hefyd angen bod yn hollol glir na fydd y cwricwlwm newydd yn arwain at waethygu anfantais ac anghydraddoldeb. 

Dwi'n parhau i ddadlau bod y Bil ei hun yn anghyson o ran yr hyn sy'n cael ei gynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd ddim yn cael ei gynnwys. Dwi'n cytuno efo'r elfennau mandadol sydd yna. Maen nhw'n bwysig. Ond, yn fy marn i, mae yna ddau faes arall cyn bwysiced, a dwi'n cytuno'n llwyr efo'r pwyllgor y dylid cynnwys iechyd meddwl a lles fel cyfeiriad penodol ar wyneb y Bil, ac yn edrych ymlaen i weld beth sydd gan y Gweinidog i'w gynnig.

Dwi'n credu hefyd y dylid rhoi'r un statws i stori Cymru, sef hanes a storïau Cymru yn eu holl amrywiaeth, yn cynnwys hanes pobl ddu a phobl o liw. Fe ddylid cyfeirio yn benodol at stori Cymru ar wyneb y Bil hefyd, am yr un rhesymau yn union ag y mae'r lleill yn cael eu cynnwys: er mwyn rhoi amlygrwydd i'r maes a'r angen i'w dysgu; er mwyn sicrhau ei bwysigrwydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol; er mwyn peidio ag osgoi materion allai gael eu hystyried yn anodd neu yn rhai nad oes gan athrawon ddigon o wybodaeth yn eu cylch. 

Dwi am oedi mymryn efo stori Cymru a'r angen i hyn fod yn fandadol. Mae'r pwyslais ar Cynefin, sef hanes lleol, yn wych o beth, ond mae angen i'r stori genedlaethol gael statws hefyd, a'r unig ffordd i wneud hynny ydy ei chynnwys ar wyneb y Bil. Mae yna adnoddau newydd ar gyfer hanes Cymru a hanes BAME ar eu ffordd, sydd yn wych o beth, ond mae'n rhaid cael y mandad. A cham gwag anferth, yn fy marn i, oedd peidio â chynnwys un uned benodol ar stori Cymru fel rhan o'r dyniaethau, a'r unig ffordd, bellach, i wneud iawn am hynny ydy cynnwys cyfeiriad penodol ar wyneb y Bil. 

Pa wlad fyddai'n hepgor ei stori ei hun o'i chwricwlwm addysg? Mae'n rhaid iddi fod ar wyneb y Bil, neu mae perig y bydd rhai o ddinasyddion y dyfodol yn cael eu hamddifadu o wybodaeth am eu gorffennol. Mae dysgu am Gymru a'i phobl yn ganolog i'r broses o helpu dysgwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o'u hunaniaeth genedlaethol eu hunain, ond hefyd am hunaniaethau eraill—y rhai sydd yn cyffwrdd â'i gilydd ac yn lluosog ac yn perthyn i'w gilydd. Mae hyn yn allweddol i annog empathi, ymwybyddiaeth gymdeithasol a hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol gan ddysgwyr, dinasyddiaeth sydd yn feddwl agored ac sydd yn sensitif yn gymdeithasol a diwylliannol. Dwi yn gobeithio y byddaf i'n gallu'ch perswadio chi am hyn wrth i'r Bil yma fynd ar ei daith.

I droi, rŵan, at ran o'r Bil sy'n delio â'r Gymraeg a'r Saesneg, dwi'n falch bod y Gweinidog yn dod â gwelliant yng Nghyfnod 2 i ddelio â'r problemau sydd yn codi efo'r polisi trochi yn y Gymraeg. Ond dwi yn credu bod yna gyfle i gryfhau agweddau eraill—er enghraifft, categorïau iaith ysgolion a'r broses o weithredu'r continwwm ar gyfer dysgu Cymraeg. A dwi yn credu bod angen diwygio'r Bil i'w gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod statudol ar gyfer addysgu a dysgu'r Gymraeg o dan y cwricwlwm. Dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog wedi'i ddweud heddiw, ond mi fyddaf i'n parhau efo'r neges honno.

Mae yna eraill wedi, yn barod, canolbwyntio ar agweddau eraill o'r Bil. Mae'n siomedig nad ydy'r canllawiau ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg ar gael inni graffu arnyn nhw a thawelu ofnau. Mae'r pwyllgor yn nodi hefyd fod angen lansio ymgyrch i chwalu'r mythiau sydd am addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond mi oedd y pwyllgor yn unfrydol dros gynnwys yr agwedd yma—addysg cydberthynas a rhywioldeb—fel rhan orfodol o'r Bil. 

I gloi, mae yna lawer o bryderon am weithredu'r cwricwlwm newydd. Mae'n rhaid cael y cyllid a'r hyfforddiant sydd eu hangen i gefnogi'r broses. Heb hynny, ac o gofio heriau COVID, fe allai'r cwbwl fynd o chwith a does yna neb ohonom ni am weld hynny'n digwydd. Ac, wrth i'r Bil fynd ar ei daith, rŵan, drwy'r Senedd, mae angen meddwl am y gweithredu yn ogystal â'r hyn sydd yn y Bil.