Part of the debate – Senedd Cymru am 6:56 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i gyd-aelodau'r pwyllgor a'n clercod a'n hymchwilwyr sydd dan bwysau, y Gweinidog a'i swyddogion ac, wrth gwrs, i'n tystion? A gaf i annog pawb i ddarllen yr adroddiad hwn yn llawn i weld pa mor drylwyr yr ydym ni wedi archwilio hyn, nid dim ond ailwampio'r system ond y pwysau amser newydd a achoswyd gan COVID, a'r elfennau gorfodol dadleuol yn y cwricwlwm newydd? Mae'n grynhoad o lawer iawn o dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gafwyd drwy ymgynghoriad a hysbysebwyd yn dda, gan gynnwys gyda phlant a phobl ifanc.
Ac rwyf i eisiau pwysleisio'r pwynt olaf hwnnw: ymrwymodd y Senedd Cymru hon mewn deddfwriaeth a gyflwynwyd dros ddegawd yn ôl i roi sylw dyledus i hawliau plant yn y broses o ddeddfu neu lunio polisïau, ac mae cydbwyso'r rhain gyda hawliau rhieni wedi bod yn her i'n pwyllgor mewn gwirionedd, yn ogystal â'r pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad, yn amlwg.
Mae'r dystiolaeth, wrth gwrs, wedi bod ymhell o fod yn un ffordd, ond yr hyn sydd wedi bod yn gwbl amlwg yw y gallai ein cwricwlwm presennol fod cymaint yn well o ran helpu athrawon a rhieni i arwain ein plant i fod yn oedolion mewn byd modern gyda heriau newydd a hefyd hen rai, ac efallai eu paratoi ar ei gyfer mewn modd na wnaeth y rhan fwyaf ohonom ni yn ei brofi.
Nawr, er fy mod i'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, rwy'n dal i fod yn amheus ynglŷn â pha un a all gyflawni'r nodau fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd. Fy nghŵyn oesol i am Filiau Caws o'r Swistir—mae cymaint yn cael ei adael i ganllawiau neu godau a, hebddynt, mae'r Gweinidog yn gofyn i ni am lawer o ymddiriedaeth, ac nid yw fy nghefnogaeth yn y Cyfnod hwn yn gwarantu fy nghefnogaeth ymhellach ymlaen, oherwydd fy mod i'n rhannu rhai o bryderon Lynne ynghylch cyflwyno'r agweddau ymarferol. Ond yn y Cyfnod hwn, rwy'n sicr yn cefnogi'r Bil.
Rwy'n ddiolchgar bod y Gweinidog eisoes wedi cytuno i fynd i'r afael â'r mater o addysgu Saesneg o dan saith oed ac iechyd meddwl, ac rwy'n awyddus i glywed ychydig mwy, mewn gwirionedd, am yr ymateb i'n pryderon ynghylch addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Bydd yn ofynnol i ysgolion eraill, fel y gwyddoch chi efallai, ystyried y cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg y cytunwyd arno'n lleol, tra bod yn rhaid i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir addysgu yn unol â'r cwricwlwm hwnnw, rhwymedigaeth lawer cryfach, neu ddarparu'r cwricwlwm hwnnw ar wahân ar gais. Rwy'n credu bod honno'n rhwymedigaeth sy'n gwahaniaethu yn erbyn ysgolion ffydd.
Dylai pob ysgol fod yn ddarostyngedig i'r gofyniad i 'roi sylw', a dylid dileu'r hawl i ofyn am gwricwlwm cyfochrog fel un diangen neu o leiaf gyfyngedig. Ni welais unrhyw dystiolaeth ddarbwyllol bod y cwricwlwm addysg grefyddol presennol y cytunwyd arno'n lleol yn cael ei addysgu mewn ffordd nad yw'n blwraliaethol, ac felly rwyf hefyd yn gwrthod y ddadl bod y cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg newydd yn sicr o fod yn groes i weithredoedd ymddiriedolaeth neu ddaliadau crefyddol ysgol ffydd. Mae'r ysgolion hynny eisoes yn diwallu anghenion plant o bob math o grefyddau a dim un, ond fe wnaf y pwynt hwn: ysgolion ffydd, rydych chi wedi dweud wrthym ni y gallwch fod yn eang ac yn gytbwys, y gallwch chi wneud hynny. Byddwch chi'n dal i fod yn rhan o'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg lleol. Ni fydd feto risg seciwlar. Os oes gennych chi yr un gofyniad cydymffurfio i 'roi sylw' â phob ysgol arall, yna ni ddylai fod angen i chi edrych y tu ôl i'ch gweithredoedd. Dylech chi allu cyflwyno cwricwlwm enwadol sy'n ystyried cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg lleol.
Gweinidog, mae arnaf i ofn y byddaf yn dal i chwilio am welliant, neu yn cyflwyno fy un fy hun, i ganiatáu i'r dyddiad dechrau ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm gael ei gyflwyno bob yn dipyn. Rwy'n gwybod, Gweinidog, eich bod yn poeni y bydd rhai ysgolion yn gadael pethau tan y funud olaf, waeth pryd y bydd y funud olaf honno, ond rwy'n poeni'n wirioneddol am athrawon na fydd yn barod, oherwydd COVID neu ddiffyg arweiniad, ond sydd wir eisiau gwneud hyn yn dda.
Rwy'n gwerthfawrogi'r cadarnhad y cawn ni fel Aelodau rywfaint o oruchwyliaeth o'r codau addysg cydberthynas a rhywioldeb, rhywfaint o ganllawiau o bosibl—yn sicr mwy nag y mae'r Bil yn ei awgrymu ar hyn o bryd—ond nid ydym ni'n eu gweld nhw ar hyn o bryd. Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb yn arbennig rai elfennau dadleuol, ac mae athrawon yn gobeithio cael cyfarwyddyd clir iawn. Ac nid wyf yn synnu, oherwydd, er gwaethaf y ffaith fod plant hŷn wedi bod yn eithaf pendant eu bod eisiau i hyn fod ar y cwricwlwm, mae rhai pryderon dealladwy iawn ar ran rhieni ynglŷn â beth yn union a addysgir i blant pan fyddan nhw'n iau, ac ar ran athrawon nad ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi'u hyfforddi'n ddigon da ar hyn o bryd i addysgu ac ymateb i blant. Bydd rhiant-lywodraethwyr yn unigolion allweddol wrth gymeradwyo cwricwlwm ysgol; gadewch i ni gofio'r swyddogaeth hollbwysig hon. Ond mae arnaf ofn nad yw Llywodraeth Cymru wedi helpu i reoli'r pryderon hyn yn arbennig o dda wrth ddatblygu'r Bil hwn.
Mae gan fy ngrŵp i bleidlais rydd ar hyn, gyda llaw, ond fy mhrofiad i yw gweithio ym maes trais domestig a chyfraith teulu cyn dod yn Aelod o'r Senedd hon. Ceir enghreifftiau pan fo amddiffyn plant wedi methu'n llwyr sy'n fy ngwneud i'n sicr bod angen hyn arnom ni yn y Bil, ond mae gwybodaeth wedi bod yn lledaenu ac yn newid, gan adael rhieni ddim yn gwybod beth i'w gredu, a gellid bod wedi osgoi llawer o hynny pe byddai gennym ni god addysg cydberthynas a rhywioldeb drafft, ar ôl bron i bum mlynedd o baratoi, i'w ystyried ochr yn ochr â'r Bil, ac felly mae angen gweithredu ar frys ar argymhelliad 24. Mae llawer mwy i'w ddweud, Llywydd, ond rwy'n sylweddoli bod fy amser ar ben. Diolch.