Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon i amlinellu prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gysylltiedig â'r Bil cwricwlwm ac asesu. Rwyf eisiau dechrau drwy ddweud bod ein pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn.
Roedd y dystiolaeth a gawsom yn ei gwneud yn glir bod angen gwelliannau i'r cwricwlwm i alluogi ein plant i fyw bywydau hapus, llwyddiannus a chyfoethog, ac i'w helpu i wneud cyfraniad llawn i gymdeithas Cymru a thu hwnt. Mae'r alwad am newid gan blant a phobl ifanc eu hunain wedi gwneud argraff arbennig arnom ni. Maen nhw eisiau gweld cwricwlwm newydd sy'n eu galluogi i ddatblygu'r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw i ddechrau eu taith i fod yn oedolion. Felly, rydym ni'n croesawu'r pwyslais ar sgiliau bywyd a pharatoi ar gyfer bod yn oedolyn sy'n rhedeg drwy'r cwricwlwm newydd i Gymru. At hynny, rydym yn cytuno â Llywodraeth Cymru nad yw'r cwricwlwm presennol yn addas ar gyfer Cymru fodern. Mae'r cyfle y mae'r Bil hwn yn ei gynnig i ysgolion lunio eu cwricwlwm eu hunain, yn seiliedig ar anghenion disgyblion, yn feiddgar ac yn uchelgeisiol. Mae ganddo'r potensial i wneud gwahaniaeth sylweddol os caiff ei weithredu'n llwyddiannus.
Serch hynny, bydd Aelodau sydd wedi gweld ein hadroddiad manwl a'n 66 argymhelliad yn gwybod bod gennyf fwy i'w ddweud am y Bil hwn a'r fframwaith deddfwriaethol y mae'n bwriadu ei greu. Fel pwyllgor, rydym ni'n glir, er ein bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, fod materion i fynd i'r afael â nhw o hyd. Mae ein pryderon ynghylch ymarferoldeb sut y caiff y cwricwlwm hwn ei gyflwyno'n effeithiol, a oes digon o amser i hyfforddi staff i'w gyflawni, yn enwedig yng nghyd-destun COVID-19, ac a yw Llywodraeth Cymru yn ddigon clir ynghylch sut y bydd yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cyfrannu at godi safonau yn ogystal â darparu'r un cyfleoedd a phrofiadau o'u haddysg.
Gyda dim ond wyth munud, ni allaf drafod pob elfen o'n hadroddiad, felly fe wnaf roi amlinelliad byr o'r prif faterion a rhai o'r atebion yr hoffem ni eu gweld. Ond cyn i mi fanylu ar hynny, hoffwn oedi i ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith craffu. Dyma'r Cyfnod 1 cyntaf i gael ei gynnal mewn cyd-destun cwbl rithiol. Yn bwysicach na hynny, dyma'r Cyfnod 1 cyntaf i gael ei gynnal mewn pandemig byd-eang. Rydym ni'n hynod ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu barn a'u harbenigedd gyda ni yn ystod y misoedd diwethaf. Gwyddom fod cynifer ohonyn nhw wedi bod ar y rheng flaen, yn rheoli effaith y coronafeirws, ac yn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn parhau i dderbyn gofal, cymorth ac addysg yng Nghymru. Felly, hoffwn ddiolch o galon iddyn nhw am ein helpu i sicrhau, er gwaethaf heriau'r pandemig, fod ein gwaith craffu wedi bod mor gadarn ac mor gynhwysfawr ag y mae unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth sylfaenol yn gofyn amdano.
Hoffwn ddiolch hefyd i'n clerc, Llinos Madeley, ein hymchwilydd, Michael Dauncey, yn ogystal â Lisa Salkeld a Rhiannon Lewis o'r tîm cyfreithiol am eu holl waith caled ar y Cyfnod 1 hwn. Rwyf wedi dweud o'r blaen fod y pwyllgor yn lwcus i fod â thîm mor wych yn ein cefnogi, ac mae'r adroddiad hwn yn dystiolaeth bellach o hynny.