Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Wel, Prif Weinidog, dangosodd arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd y bore yma bod y gefnogaeth wedi gostwng o 66 y cant i 45 y cant, gyda 47 y cant bellach yn gwrthwynebu. Ac rwy'n meddwl tybed a allech chi ddod o hyd i fwy o gefnogaeth i'ch polisi pe byddech chi'n gweithio gyda'r wrthblaid yn hytrach na'u galw yn warthus, ac yn croesawu ymweliad brenhinol i ddiolch i weithwyr allweddol yn hytrach na'u galw yn rhwygol. Yn hytrach, rydych chi, a dyfynnaf o'ch datganiad:
yn nodi sut a phryd y bydd Cymru yn symud rhwng lefelau rhybudd gyda mesurau Cymru gyfan. Mae'n rhaid i ni wneud yr un fath yn Abertawe ag yn Ynys Môn cyn belled â'i fod yn wahanol i Loegr.
Prif Weinidog, oni fyddai'n well i ni fod â dull unedig y DU?