Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Llywydd, hyd y gwn i, nid yw Abertawe nac Ynys Môn yn Lloegr. Rwyf i wedi edrych ar yr arolwg y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Gofynnwyd i bleidleiswyr yng Nghymru pa un a oedd yn well ganddyn nhw'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru neu'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Lloegr. Dywedodd 53 y cant o bobl eu bod nhw'n ffafrio'r dull a fabwysiadwyd yng Nghymru, roedd yn well gan 15 y cant y dull y mae'r Aelod yn ei gefnogi yn barhaus yn y fan yma.