Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Prif Weinidog, mae busnesau yn fy etholaeth i yn ddiolchgar iawn bod Llywodraeth Cymru wedi eu cefnogi drwy gydol pandemig y coronafeirws, gyda'r pecyn mwyaf hael o gymorth busnes yn unrhyw le yn y DU, gan gynnwys y cyfraniad diweddaraf o £340 miliwn i gynorthwyo busnesau lletygarwch, twristiaeth a busnesau eraill y mae'r cyfyngiadau diweddaraf wedi effeithio arnyn nhw. Pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o sut y mae'r cymorth busnes yng Nghymru yn cymharu â'r hyn a gynigir mewn rhannau eraill o'r DU?