1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Rhagfyr 2020.
5. Pa gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i fusnesau yng Nghanol De Cymru yn ystod pandemig COVID-19? OQ56071
Mae cymorth busnes i'r rhanbarth yn cynnwys £137.6 miliwn i dros 10,000 o fusnesau drwy gynllun grant ardrethi busnes annomestig COVID-19 a thros £66 miliwn trwy dri cham cyntaf y gronfa cadernid economaidd.
Diolch am yr ymateb yna. Mae amrywiaeth o etholwyr sy'n fferyllwyr cymunedol wedi cysylltu â mi ac rwy'n gofyn pa bwynt y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyrraedd yn ei thrafodaethau â Fferylliaeth Gymunedol Cymru—trafodaethau sydd wedi bod yn cael eu cynnal am rai misoedd bellach—ynghylch digolledu'r sector hwn am y costau ariannol yr aeth iddyn nhw pan fu'n rhaid i fferyllwyr dalu am eu cyfarpar diogelu personol eu hunain ar ddechrau'r pandemig. Mae'r fferyllwyr cymunedol yng Nghymru wedi bod yn glod i ni o ran y ffordd maen nhw wedi ymateb i'r pandemig hwn a ni yw'r unig ranbarth yn y DU erbyn hyn lle nad yw'r sector hwn wedi cael ei ddigolledu am y costau yr aeth iddyn nhw. Addawyd datganiad i ni ar hyn gan y Trefnydd cyn gynted ag y byddai'r canlyniad yn hysbys, felly dim ond gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ydw i.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Mae e'n iawn bod trafodaethau gyda fferylliaeth gymunedol wedi bod yn mynd rhagddynt dros y misoedd diwethaf. Gwnaed cynnig pellach gan Lywodraeth Cymru rai wythnosau yn ôl. Mae'r Gweinidog iechyd yn cael cyfarfod â Fferylliaeth Gymunedol Cymru ddydd Iau yr wythnos hon, pryd y bydd y trafodaethau hynny yn parhau.
Prif Weinidog, diben cynllun grant rhwystrau Busnes Cymru yw blaenoriaethu'r rhai y mae COVID-19 yn effeithio fwyaf arnyn nhw, fel menywod, pobl anabl, pobl o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant, ac i roi rhywfaint o gymorth ariannol i'r bobl hynny a fydd eisiau sefydlu busnes yn ystod y misoedd nesaf. Tybed pryd y bydd y cynllun hwn yn cael ei werthuso, oherwydd rwy'n credu bod hyrwyddo menter mewn grwpiau sydd, efallai, wedi ei chael hi'n anodd cael mynediad yn draddodiadol yn fenter wirioneddol deilwng.
Diolchaf i David Melding am y ffordd y disgrifiodd y fenter, a'i diben yw gwneud yn union yr hyn y mae ef wedi ei ddisgrifio. Ei diben yw ceisio gwneud yn siŵr nad yw'r ddawn, yr ymrwymiad a'r synnwyr o fentergarwch sy'n sicr i'w canfod yn y cymunedau hynny, ac ymhlith y bobl ifanc hynny, yn cael eu rhwystro gan effaith y feirws. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni weithio yn galetach i wneud yn siŵr bod y cymorth ar gael iddyn nhw—cymorth o ran y cyngor sydd ei angen arnyn nhw a'r mentora y gallai fod ei angen arnyn nhw, ond weithiau mewn arian sychion sydd ei angen arnyn nhw er mwyn gallu symud eu syniadau ar gyfer busnesau newydd ymlaen.
Rwy'n credu y bydd yn bwysig caniatáu i'r cynllun fynd rhagddo ac i werthuso yn rhannol wrth i ni fynd ymlaen, ond nid atal yr uchelgeisiau sydd gennym ni ohono trwy geisio ei oedi yn rhy fuan er mwyn asesu ei effeithiolrwydd. O dan yr amgylchiadau eithriadol presennol, roeddwn i eisiau gweld y cynllun hwnnw yn bwrw ymlaen. Roeddwn i eisiau cymryd ychydig o risgiau hyd yn oed, mewn ffordd y mae Llywodraethau yn ei chael hi'n anodd weithiau. Oherwydd os ydych chi'n ymdrin â phobl sydd â syniadau newydd ac sydd eisiau rhoi cynnig ar rywbeth na roddwyd cynnig arno o'r blaen, os nad ydych chi'n barod weithiau i gefnogi person ifanc neu gefnogi rhywun sydd wedi cael y syniad hwnnw, gan gydnabod na fydd yr holl syniadau hynny yn llwyddo, yna ni fydd y cynllun yn cael ei roi ar waith. Dyna'r ysbryd yr hoffwn i'r cynllun gael ei ddatblygu ynddo.
Prif Weinidog, mae busnesau yn fy etholaeth i yn ddiolchgar iawn bod Llywodraeth Cymru wedi eu cefnogi drwy gydol pandemig y coronafeirws, gyda'r pecyn mwyaf hael o gymorth busnes yn unrhyw le yn y DU, gan gynnwys y cyfraniad diweddaraf o £340 miliwn i gynorthwyo busnesau lletygarwch, twristiaeth a busnesau eraill y mae'r cyfyngiadau diweddaraf wedi effeithio arnyn nhw. Pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o sut y mae'r cymorth busnes yng Nghymru yn cymharu â'r hyn a gynigir mewn rhannau eraill o'r DU?
Llywydd, diolchaf i Vikki Howells am hynna. Mae hi'n iawn i ddweud mai ein cynllun cymorth busnes yng Nghymru, yn ein barn ni, yw'r mwyaf hael sydd ar gael i unrhyw fusnes mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n falch o adrodd y prynhawn yma, Llywydd, yn dilyn cwestiynau ar y llawr dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, bod y cymorth yr ydym ni'n ei gynnig i fusnesau lletygarwch sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau y bu'n rhaid eu cyflwyno tua 10 diwrnod yn ôl—bod yr arian hwnnw wedi dechrau mynd i bocedi'r busnesau hynny erbyn hyn.
Mae cannoedd o fusnesau wedi cael y cymorth hwnnw erbyn hyn. Mae miliynau o bunnoedd wedi eu talu iddyn nhw. Mae hynny ar adeg pan nad yw 14 o'n 22 awdurdod lleol wedi gwneud datganiadau ar y cymorth a ddarparwyd eto. Felly, nid yn unig y mae'r cymorth yn hael, ond mae'r cymorth yn cyrraedd y mannau lle'r oeddem ni angen iddo fynd. Cyfeiriodd Vikki Howells at y £340 miliwn yr ydym ni'n ei ddarparu i gynorthwyo'r busnesau hynny, ac ni allaf ond ei gyferbynnu â'r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi darparu £40 miliwn i holl dafarndai gwlyb Lloegr yr effeithiwyd arnyn nhw gan y cyfyngiadau y bu'n rhaid iddyn nhw eu cyflwyno yno.