Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolchaf i Russell George am hynna. Wrth gwrs, mae gan Fachynlleth le arbennig iawn yn hanes Cymru a bydd y Llywydd wedi clywed yr hyn a ddywedodd Russell George am y Senedd ei hun yn gwneud defnydd o'r lleoliad hanesyddol hwnnw. Pan fydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i groesawu ymwelwyr i Gymru, rydym ni'n aml yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cynnal y cyfarfodydd hynny mewn rhannau o Gymru sy'n arddangos popeth sydd gan Gymru i'w gynnig, ac mae hynny'n sicr yn cynnwys y canolbarth, Llywydd. Pan welais y cwestiwn hwn dros y penwythnos, fe'm hatgoffwyd ei bod flwyddyn yn ôl bron yn union—bydd yn flwyddyn i'r wythnos nesaf—pan oeddwn i'n mynd ar daith i'r gogledd, dim ond yn bersonol, a manteisiais ar y cyfle i alw yn nau o safleoedd treftadaeth pwysig y canolbarth, sef Abaty Cwm Hir, yr oeddwn i'n ymweld ag ef, mae gen i gywilydd dweud, am y tro cyntaf erioed, a Gregynog, yr wyf i wedi bod yno droeon, a dim ond dwy enghraifft yw'r rheini o'r hyn sydd gennym ni yn y canolbarth.
Gwn y bydd gan Russell George ddiddordeb mewn gwybod, oherwydd mae wedi bod yn gefnogwr brwd o gamlas Maldwyn, bod Llywodraeth Cymru newydd ddyfarnu £250,000 i Glandŵr Cymru i ganiatáu i'r gwaith ardderchog hwnnw sy'n cael ei wneud i adfer y gamlas barhau. A, Llywydd, wythnos yn ôl, cymerais ran mewn digwyddiad prin y dyddiau hyn y tu allan i adeiladau'r Senedd a'r Llywodraeth yn amgueddfa Sain Ffagan yng Nghaerdydd, ynghyd â llysgennad Japan, gan blannu coed ceirios yno i nodi'r cyfeillgarwch rhwng Japan a Chymru. Bydd gan y canolbarth gyfran sylweddol iawn o'r 1,000 o goed ceirios a fydd yn cael eu plannu eleni i nodi'r cyfeillgarwch hwnnw. Felly, yn union fel yr ydym ni'n dathlu ac yn nodi'r hanes maith sydd gennym ni, felly hefyd yr ydym ni'n gwneud hanes ein hunain bob dydd. Bydd y coed ceirios hynny, a fydd yn cael eu plannu yn y canolbarth ac ym mhob rhan arall o Gymru eleni, yno ymhell ar ôl i lawer ohonom ni fod yno i'w gweld, mae'n debyg, a byddan nhw'n dod yn rhan o dreftadaeth gyfoethog Cymru ar gyfer y dyfodol.