Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Mae e'n iawn bod trafodaethau gyda fferylliaeth gymunedol wedi bod yn mynd rhagddynt dros y misoedd diwethaf. Gwnaed cynnig pellach gan Lywodraeth Cymru rai wythnosau yn ôl. Mae'r Gweinidog iechyd yn cael cyfarfod â Fferylliaeth Gymunedol Cymru ddydd Iau yr wythnos hon, pryd y bydd y trafodaethau hynny yn parhau.