Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolch, Dirprwy Weinidog, ac rwy'n cydnabod y cymorth hwnnw ac yn ei groesawu'n fawr. Rwyf i wedi siarad yn ddiweddar gyda Cymorth i Fenywod Rhondda Cynon Taf, sy'n dweud wrthyf na allan nhw gael profion COVID-19 ar y safle i staff na phreswylwyr llochesi, sy'n achosi problemau iddyn nhw ac yn effeithio ar eu gallu i helpu pobl mewn angen. A allwch chi godi hyn gyda chyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru, fel y gellir trin llochesi i fenywod yn yr un modd â chartrefi gofal efallai, at ddibenion profion COVID?