Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Dirprwy Weinidog, canfu adroddiad gan y Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol y llynedd, a amlygwyd gan Cymorth i Fenywod Cymru, i ddioddefwyr trais domestig mewn ardaloedd gwledig, ac rwy'n mynd i ddyfynnu'n uniongyrchol yn y fan yma, bod 'rhwystrau i weithredu' yn llawer mwy cymhleth a llesteiriol mewn ardaloedd gwledig nag mewn ardaloedd trefol; mae'n ymddangos yn debygol mewn ardaloedd gwledig nad yw dioddefwyr yn gwybod ble i fynd i gael y math o gymorth sydd ei angen; mae'n fwy anodd ei gydgysylltu neu gael gafael arno ac mae'r ofn y bydd unrhyw gysylltiad yn cael ei ddarganfod yn uwch.
O gofio bod llai o oroeswyr mewn lleoliadau gwledig yn datgelu, mae'n amlwg y bydd angen i wasanaethau fod yn seiliedig ar angen yn hytrach na galw, ac mae'n gofyn am strategaeth fwriadol i sicrhau nad yw ymchwil, data a dadansoddi yn cael eu hystumio tuag at y gofynion trefol a'u bod nhw'n gwbl gynhwysol o'n cymunedau gwledig. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed, Dirprwy Weinidog, a allech chi amlinellu pa gamau y mae eich Llywodraeth wedi eu cymryd i unioni'r duedd drefol hon, ac i sicrhau bod anghenion dioddefwyr trais domestig gwledig yn cael sylw llawn hefyd.