Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am yr ymateb yna. Nawr, fel y gwyddoch, mae pandemig COVID-19 wedi taro llawer o elusennau ledled Cymru yn galed iawn, iawn ac wedi cael effaith enfawr ar eu ffrydiau ariannu. Nawr, mae hyn yn arbennig o bwysig i elusennau ymchwil meddygol, ac mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu y gallai'r pandemig roi ymchwil feddygol yn ôl gymaint â 10 mlynedd. A allwch chi ddweud wrthym ni beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith COVID-19 ar elusennau meddygol yn arbennig? A pha gymorth pellach allwch chi ei gynnig i'r sector i sicrhau y bydd gwaith ymchwil meddygol sy'n achub bywydau yn parhau i gael ei ariannu yma yng Nghymru?