Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolchaf i Paul Davies am y cwestiwn pwysig yna, ac, wrth gwrs, mae colli cyllid wedi taro'r elusennau meddygol hynny yn arbennig, yn wir, mae'n rhaid i ni ddweud pob elusen, ond y rhai lle cafwyd ymateb hollbwysig efallai—Marie Curie. Rydym ni'n meddwl am gynifer o'r elusennau meddygol hynny sy'n aml yn dod yma er mwyn lansio, er enghraifft, yr ymgyrch cennin Pedr. Mae'r gronfa frys, wrth gwrs, wedi darparu bron i £7 miliwn, gan alluogi 156 o sefydliadau i gynorthwyo gwirfoddolwyr a buddiolwyr, a disodlwyd honno erbyn hyn, wrth gwrs, gan y gronfa adfer gwasanaethau gwirfoddol, oherwydd mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n cynnal y sefydliadau hynny, hyd yn oed gyda'u colled incwm. Ond byddaf hefyd yn edrych ar yr effaith benodol ar elusennau meddygol ac yn adrodd yn ôl i'r Senedd ar y sector penodol hwnnw yn ein trydydd sector a sefydliadau elusennol.FootnoteLink