– Senedd Cymru am 2:48 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf i sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Yn union ar ôl y datganiad busnes hwn, byddaf i'n ceisio atal y Rheolau Sefydlog er mwyn inni drafod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020, Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Safleoedd Ysgolion ac Adeiladau Sefydliadau Addysg Bellach) (Cymru) 2020, a'r cyfyngiadau coronafeirws newydd. Rwyf i hefyd wedi ychwanegu datganiad llafar ar ddiwedd y cyfnod pontio. Er mwyn darparu ar gyfer yr ychwanegiadau hyn, mae'r datganiad ar gyhoeddi'r polisi cenedlaethol ar drosglwyddo a defnyddio'r Gymraeg mewn teuluoedd wedi'i ohirio. Yn olaf, mae'r cynnig i gytuno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach hefyd wedi'i ohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Ar 3 Rhagfyr, cyhoeddodd yr arbenigwr troseddau a chyfiawnder Crest Advisory adroddiad ar linellau cyffuriau a phlant sy'n derbyn gofal. Yn seiliedig ar yr adroddiad hwnnw, galwais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i blant sy'n derbyn gofal yng ngogledd Cymru. Gan ddefnyddio data'r heddlu a chyfweliadau rhanddeiliaid yng ngogledd Cymru a Glannau Mersi a gafodd eu dewis i adlewyrchu camfanteisio ar ddau ben llinell gyffuriau, darganfuwyd bod bron pob gweithgaredd llinell gyffuriau hysbys yn y gogledd yn dechrau yng Nglannau Mersi, bod y llinellau'n teithio i ogledd Cymru, yn gyntaf dros ffin Cymru i awdurdodau lleol Sir y Fflint a Wrecsam, ac yn ail i drefi arfordirol, gan gynnwys y Rhyl, Bae Colwyn, Abergele, Llandudno a Bangor; ac er bod plant sy'n derbyn gofal yn cael eu cymryd i ofal awdurdod lleol i wella eu lles, mae yna orgynrychiolaeth o'r plant hynny sy'n cael eu hecsbloetio ar linellau cyffuriau troseddol, ac felly maen nhw ymhell o gael eu diogelu'n effeithiol; ac mae plant sy'n cael eu rhoi mewn cartrefi gofal preswyl a lleoliadau heb eu rheoleiddio mewn mwy o berygl o fynd ar goll, gyda 31 y cant o ddigwyddiadau pobl yn mynd ar goll yn y gogledd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn cael eu hadrodd o wasanaethau gofal; ac er bod plant sy'n derbyn gofal yn cael eu cynrychioli'n anghymesur mewn rhwydweithiau llinellau cyffuriau, nid ydynt yn cael eu hadnabod yn systematig gan yr heddlu nac awdurdodau lleol. Rwy'n credu bod hwn yn fater brys, yn fater pwysig, ac yn un na ddylid ei anwybyddu oherwydd COVID, ac rwy'n galw am ddatganiad brys yn unol â hynny.
Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am godi'r hyn sy'n fater gwirioneddol bwysig. Mae unrhyw awgrym o gamfanteisio ar blant sy'n derbyn gofal yn amlwg yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei gymryd o ddifrif, ac mae mater llinellau cyffuriau'n un sy'n peri pryder enfawr ac sy'n her wirioneddol, i'r gwasanaethau cymdeithasol yn lleol ac i'r heddlu. Rwy'n gwybod y bydd Mark Isherwood yn codi'r mater hwn gyda Heddlu Gogledd Cymru, ond rwy'n gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo hefyd o ran yr hyn y gall gwasanaethau cymdeithasol ei wneud i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal sydd yn eu gofal yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl a'u bod yn cael eu haddysgu ynghylch peryglon llinellau cyffuriau a'u hamddiffyn rhag unigolion a fyddai'n ceisio manteisio arnyn nhw. Felly, byddwn i'n hapus iawn i ddod o hyd i gyfle iddo gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hynny.
Hoffwn i ddweud fy mod i'n rhannu pryderon Mark Isherwood, ac nid plant sy'n derbyn gofal yn unig sy'n cael eu targedu gan linellau cyffuriau. Rwy'n ofni bod hynny'n wir am lawer o bobl ifanc eraill sy'n agored i niwed hefyd. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad gan y Llywodraeth ar y mater hwnnw.
Roeddwn i eisiau codi mater arall, sef bod pobl Cymru yn hael iawn yn rhoi i elusennau drwy gydol y flwyddyn, ond maen nhw'n arbennig o hael adeg y Nadolig. Ac mae angen imi godi'r ffaith ei fod, yn anffodus, hefyd yn denu sylw troseddwyr, sydd naill ai'n esgus bod yn cynrychioli elusen neu'n sefydlu eu hunain fel ffug elusennau. Collwyd £350,000 yn ystod y cyfnod Nadolig diwethaf i droseddwyr. Hoffwn dynnu sylw at y ffaith ei bod yn bwysig iawn nad yw pobl yn rhoi eu manylion personol i unrhyw alwadau digymell dros y ffôn, yn enwedig eu manylion ariannol, a bod angen iddyn nhw chwilio am rif yr elusen ar bob elusen gofrestredig ddilys ac, os ydyn nhw'n casglu ar y stryd, ble mae'r bathodyn sy'n dangos eu bod yn wirioneddol gasglu dros yr elusen honno. O ystyried bod hyd yn oed symiau bach iawn sy'n mynd ar goll yn achosi trallod enfawr i'r unigolion sy'n rhoi, hyd yn oed os mai ychydig iawn o arian sydd ganddyn nhw, tybed beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i dynnu sylw at y broblem hon yn ogystal â chefnogi'r camau gan y Comisiwn Elusennau i chwalu'r drosedd erchyll, erchyll hon.
Mae'n wir yn dymor ewyllys da ac, fel y mae Jenny Rathbone yn ei ddweud, mae pobl Cymru yn grŵp anhygoel o bobl o ran yr haelioni y maen nhw'n ei ddangos i'w cymdogion ac i ddieithriaid, ac rydym ni wedi gweld cymaint o hynny drwy'r pandemig coronafeirws. Ar hyn o bryd mae'r Comisiwn Elusennau yn cynnal ymgyrch bwysig iawn sy'n rhoi cyngor i bobl ar sut y gallan nhw roi yn ddiogel y Nadolig hwn ac i sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu hecsbloetio gan bobl a fyddai'n dymuno cymryd eu manylion ariannol, ac yn y blaen, neu i'w hannog i roi i elusen nad yw'n elusen ddilys. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, un o'r pethau hawsaf y gall pobl ei wneud yw edrych ar rif cofrestredig yr elusen i sicrhau bod y lle maen nhw'n darparu eu cymorth elusennol yn un sy'n ddilys ac na fydd yn camfanteisio ar eu natur hael. Felly, diolch i Jenny Rathbone am gynnig y cyfle i dynnu sylw at yr ymgyrch arbennig o bwysig honno gan y Comisiwn Elusennau.
O ystyried yr anghytundeb llwyr mewn tri maes allweddol yn nhrafodaethau Brexit, a gawn ni ddatganiad am y cyfaddawdau y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i'w gwneud i osgoi sefyllfa 'heb gytundeb'? A fyddai'n cyfaddawdu o ran ein pysgodfeydd—sydd, gyda llaw, ar hyn o bryd yn cael eu dihysbyddu gan longau enfawr yn tynnu rhwydi hyd at 250 tunnell o bysgod y dydd, â chanlyniadau amgylcheddol trychinebus—neu a fyddai'n cyfaddawdu ar y cae chwarae gwastad honedig, fel y'i gelwir, sy'n golygu, wrth gwrs, y byddai Llywodraeth y DU, ymhlith ymyriadau economaidd hanfodol eraill, yn parhau i fod yn gyfyngedig iawn oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol, gan ein rhwystro ni rhag helpu ein diwydiannau dur yn y ffordd y byddem yn ei dymuno? Neu a fyddai'n cyfaddawdu drwy gadw at oruchafiaeth Llys Cyfiawnder Ewrop dros gyfraith y DU, sef rhywbeth yr oedd y bobl a bleidleisiodd o blaid Brexit yn ei wrthwynebu?
[Anhyglyw.]—Llywodraeth y DU a'r UE i ddod i'r cytundeb hwnnw ymysg ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn drwy'r amser am y math o Brexit y byddem ni wedi hoffi ei weld—un a fyddai wedi rhoi'r cyfle gorau posibl i ddiogelu swyddi pobl a'u bywoliaeth. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd llwybr gwahanol iawn ac wedi rhoi ffordd anodd iawn o'n blaenau. Felly, mae'n amlwg bod y rheini'n gwestiynau y bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU eu hateb wrth iddyn nhw geisio symud ymlaen, ac rydym ni'n gobeithio'n fawr eu bod yn taro bargen ac nad ydym ni'n wynebu Brexit 'dim cytundeb' ddiwedd y mis hwn, a fydd, fel yr ydym ni i gyd yn sylweddoli, yn drychinebus.
Rwy'n gobeithio'n fawr y cawn ni ryw fath o gytundeb ar ddiwedd hyn, er gwaethaf yr unfed awr ar ddeg, felly byddai unrhyw fewnbwn y gall Llywodraeth Cymru ei gael i'r broses honno, rwy'n siŵr, yn fuddiol.
Os caf i godi dau fater gyda chi, Trefnydd, yn gyntaf, y mater y codais i gyda'r Prif Weinidog yn gynharach: a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar fynd i'r afael â materion capasiti yn y GIG, o gofio'r nifer cynyddol o achosion sydd bellach yn ymwneud â COVID-19? Rwy'n cyfeirio'r Gweinidog iechyd at y sefyllfa yn Ysbyty Athrofaol newydd y Faenor yn y de-ddwyrain. Rwy'n credu bod hwnnw eisoes yn llawn o ran achosion COVID, ac mae cleifion yn cael gwybod i beidio â mynd yno oni bai bod gwir angen iddyn nhw wneud hynny â chyflyrau eraill. Mae hynny'n amlwg yn peri pryder, felly a allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran yr hyn y mae modd ei wneud i geisio lliniaru'r sefyllfa yno?
Yn ail ac yn olaf mae'r mater a gafodd ei godi gan Jenny Rathbone a fy nghyd-Aelod Mark Isherwood ar blant sydd â phrofiad o ofal, a'r mater penodol a gododd ef yn y gogledd. Cefais i fy atgoffa fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o'r gwaith a wnaethom ni'n gynharach yn nhymor y Cynulliad hwn ar blant â phrofiad o ofal. Cymerwyd llawer iawn o dystiolaeth gan y bobl ifanc eu hunain a oedd wedi bod drwy'r system ofal, a chafodd materion eu codi, yn arbennig ynghylch lleoliadau. Tybed, wrth i amser fynd heibio ers rhan gyntaf yr ymchwiliad hwnnw, a allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am yr hyn sydd wedi'i wneud i weithredu'r argymhellion a gyflwynwyd gennym bryd hynny. Diolch.
Diolch am godi'r ddau fater hynny. Rwy'n credu bod y Gweinidog iechyd wedi darparu datganiad ysgrifenedig sy'n nodi rhai o'r camau y bydd sefydliadau'r GIG yn eu cymryd yn ystod y gaeaf i ryddhau rhywfaint o'r capasiti hwnnw er mwyn ymateb i heriau pandemig COVID—er enghraifft, peidio â pharhau â chymaint o lawdriniaeth ddewisol, ac yn y blaen. Dewisiadau anodd wrth gwrs i'r GIG, oherwydd mae'n anochel y byddan nhw'n cael effaith ganlyniadol ar unigolion. A dyna pam mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i ddilyn y rheolau ac i wneud cymaint ag y gallwn i atal lledaeniad y coronafeirws.
Ac o ran plant sy'n derbyn gofal, gallaf weld bod diddordeb mawr ar draws y pleidiau am ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i blant sy'n derbyn gofal, felly fe fyddaf yn siarad â'r Gweinidog i archwilio a oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf sy'n mynd y tu hwnt i fater llinellau cyffuriau yn unig ac sy'n edrych yn ehangach ar y materion sy'n effeithio ar blant sy'n derbyn gofal.
A gaf i ofyn am ddadl gan y Llywodraeth ar bolisi rhanbarthol yng Nghymru? Ac er na all undebwyr Cymru nodi anghenion y gwahanol rannau o Gymru, hoffwn gael dadl i drafod sut y gallwn ni wella'r economi yng ngwahanol ranbarthau Cymru, sydd wedi'u nodi gan y pedwar cytundeb economaidd yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. A gaf i ofyn am y datganiadau canlynol, y gallai fod angen eu hysgrifennu oherwydd diffyg amser: un ar y cynnydd i gyfraith Lucy y mae Llywodraeth Cymru wedi addo ei chyflawni y tymor hwn, ac un ar ddefnydd gwell o borthladd Abertawe ar gyfer masnach ag Iwerddon, gan gysylltu â Cork?
Diolch i Mike Hedges am godi'r materion hynny. Rwy'n gwybod bod gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gwestiynau yfory, ac mae nifer o gyfleoedd yno i godi cwestiynau ynglŷn â lles anifeiliaid, felly gallai hynny fod yn gyfle i gael diweddariad cyflym iawn ar y dull o ymdrin â chyfraith Lucy.
O ran datblygu economaidd rhanbarthol a dull rhanbarthol o gefnogi economïau lleol, rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn frwd iawn dros y dull gweithredu hwnnw, ac rwy'n gwybod y bydd yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr am ei syniadau ynghylch hynny maes o law hefyd. Yna, roedd y materion eraill, rwy'n credu, yn ymwneud â'r porthladdoedd, a byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi yn ysgrifenedig o ran y mater penodol hwnnw hefyd.
Gweinidog, a gaf i ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar nifer o faterion sy'n ymwneud â llifogydd? Yn gyntaf, yn amlwg, rwy'n falch iawn o'ch llwyddiant yn sicrhau £31 miliwn gan Lywodraeth y DU, sydd yn sicr yn daliad rhannol tuag at beth o'r arian a gafodd ei addo ar gyfer y difrod llifogydd eithriadol sydd gennym. Wrth gwrs, roedd hyn yn dilyn ymgyrch gref gan Aelodau Llafur y Senedd yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr, ychydig yn ehangach, ac Aelodau Seneddol lleol hefyd. Bu'n rhaid inni lusgo Llywodraeth y DU yn erbyn ei hewyllys i wneud y taliad cyntaf hwn. A gawn ni ddatganiad i ymdrin â'r trafodaethau eraill y bydd angen eu cynnal nawr ar weddill yr arian difrod llifogydd a gafodd ei addo, ac ar y gwaith sydd ei angen o ran tipiau glo? Yn ail, a wnaiff y datganiad hwnnw hefyd ymdrin â'r mater o gefnogi mesurau atal llifogydd domestig yn ardal Rhondda Cynon Taf, yn enwedig yn ardal Pontypridd, Taf Elái, yr wyf yn deall bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei drafod ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru?
Diolch i Mick Antoniw am y cwestiwn hwnnw. Roeddwn i'n falch iawn o allu sicrhau £31 miliwn yn ystod y flwyddyn o gronfa wrth gefn Llywodraeth y DU er mwyn ein helpu i ymateb i effeithiau llifogydd yn etholaeth Mick Antoniw ac eraill. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i'r Aelodau Seneddol a hefyd i Aelodau'r Senedd, gan gynnwys Mick Antoniw, sydd wedi cymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o ymgyrchu dros gyflwyno'r arian ychwanegol hwnnw i'w hetholaethau. Yn anffodus, nid oedd yr ymateb ar gyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gadarnhaol, sy'n golygu bod gan Lywodraeth Cymru rai penderfyniadau anodd eu gwneud o ran dyrannu cyllid yno.
Ond o ran mater ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru a'r prosiectau cadernid llifogydd i eiddo, rwy'n deall eu bod yn debygol o gael eu cyflawni y flwyddyn nesaf ac rydym ni'n aros am gais nawr gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y prosiectau hyn, yn dilyn ceisiadau llwyddiannus gan awdurdodau lleol. Eleni, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi darparu cyllid grant o 100 y cant ar gyfer atgyweiriadau brys i asedau llifogydd wedi'u difrodi ledled Cymru, sef cyfanswm o £5 miliwn. Mae'r Gweinidog hefyd wedi hyrwyddo'r defnydd o gadernid llifogydd i eiddo, megis llifddorau, er enghraifft, i helpu cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd. Mae eisoes wedi darparu dros £1 miliwn o gymorth ar gyfer mesurau o'r fath, a fydd o fudd i hyd at 594 o wahanol gartrefi.
Gweinidog, a fyddai'n bosibl cael datganiad ynghylch effaith penderfyniad ofnadwy Llywodraeth y DU i atal tariffau ar fewnforion awyrofod yr Unol Daleithiau ym mis Ionawr 2021? Mae'r penderfyniad hwn yn ei hanfod yn gwahaniaethu yn erbyn Airbus a phob busnes unigol yn eu cadwyn gyflenwi, ac mae yn erbyn adenydd Cymru ac o blaid adenydd sydd wedi'u cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau. A allwch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr, Gweinidog, ynghylch unrhyw sgyrsiau yr ydych chi wedi'u cael yn eich swydd fel Gweinidog cyllid â Thrysorlys y DU ar y diwydiant awyrofod yng Nghymru? A fyddech chi'n ymrwymo i gyfarfod â mi ac Airbus i helpu i gynorthwyo'r sgyrsiau hyn yn y dyfodol?
Diolch i Jack Sargeant am godi'r mater hwn. O ran anghydfod Airbus-Boeing, ein dealltwriaeth ni yw y bydd Llywodraeth y DU, ar ôl diwedd y cyfnod pontio, yn atal ein tariffau ad-daliadol yn erbyn yr Unol Daleithiau, a gafodd eu gosod ym mis Tachwedd fel rhan o sefyllfa'r UE gyfan. Cafodd y tariffau hyn eu gosod ym mis Tachwedd fel rhan o'r dyfarniad a roddodd Sefydliad Masnach y Byd i'r UE. Rydym yn pryderu bod Llywodraeth y DU wedi gwneud y cynnig hwn heb gael unrhyw gynnig tebyg gan yr Unol Daleithiau i ostwng ei thariffau yn ein herbyn ni, ac rydym yn rhannu uchelgais Llywodraeth y DU i gyrraedd setliad wedi'i negodi cyn gynted ag y bo modd ar yr anghydfod hirdymor hwn, ond byddwn yn gofyn am rywfaint o eglurhad nawr ar y dull hwn. Ac yn amlwg, fel y mae Jack Sargeant wedi dweud droeon, bydd Brexit 'dim cytundeb' yn niweidiol iawn i ddiwydiant awyrofod y DU ac i'w etholwyr ef sy'n cael eu cyflogi yn y sector hwnnw. Felly, mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn sicrhau'r cytundeb masnach cynhwysfawr hwnnw gyda'r UE, gyda mynediad di-dariff i farchnadoedd yr UE. Wrth gwrs, byddwn i'n hapus iawn i gwrdd â Jack Sargeant i drafod hyn ymhellach.
Trefnydd, tybed a gawn ni ddatganiad—a byddai datganiad ysgrifenedig yn gwneud y tro—yn egluro pa drefniadau ar ôl cyfnod y Nadolig fydd ar gyfer slotiau blaenoriaeth i bobl a oedd gynt yn gwarchod, sydd wedi cael blaenoriaeth gan fanwerthwyr, a yw'r rheini'n mynd i barhau neu beidio. Nawr, y rheswm rwy'n gofyn hyn yw fy mod yn gwybod bod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn cyfarfod yn rheolaidd â Chonsortiwm Manwerthu Cymru ac â'r archfarchnadoedd mawr, ac rwyf wedi cael rhai galwadau ffôn pryderus gan etholwyr lle mae'r manwerthwyr wedi dweud wrthyn nhw y bydd y slotiau blaenoriaeth hynny'n diflannu o 2 Ionawr ymlaen, ac nad oes eu hangen mwyach. Wel, mewn gwirionedd, os ydym ni'n mynd i gael mesurau llymach o bosibl ar ôl y Nadolig, fel rhywun y mae un etholwr, sydd â diabetes ac asthma, ac sy'n poeni'n fawr am fynd allan yn gorfforol i siopa, wedi sgwennu ataf eisiau gwybod sut y gall ef fod yn flaenoriaeth o hyd wrth siopa. Mae e'n talu am y siopa hwn; ac mae eisiau gwneud yn siŵr fod ganddo flaenoriaeth fel cwsmer sy'n agored i niwed. Felly, a gawn ni ddatganiad ar hynny cyn gynted ag y bo modd, gobeithio cyn toriad y Nadolig?
Diolch i Huw Irranca-Davies am godi'r mater pwysig hwn, ac rwy'n credu y dylem gofnodi ein diolch i'r holl fanwerthwyr sydd wedi bod yn cynnal slotiau blaenoriaeth ar gyfer pobl sy'n gwarchod ar adeg anodd iawn ac, wrth gwrs, mae llawer o bwysau ar y slotiau cyflenwi hynny yr adeg hon o'r flwyddyn. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y slotiau hynny'n dal i gael eu blaenoriaethu ar gyfer pobl sy'n gwarchod a phobl sy'n agored i niwed. Mae'r Gweinidog, fel y dywed Huw Irranca-Davies, yn cyfarfod yn rheolaidd â Chonsortiwm Manwerthu Cymru a hefyd â'r archfarchnadoedd. Rwy'n gwybod bod trafodaeth wedi bod gydag un o'r archfarchnadoedd mawr y bore yma, ac nid oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i roi terfyn ar y slotiau blaenoriaeth i'r bobl hynny sydd wedi cael eu cynghori i warchod, neu sydd fel arall yn agored i niwed. Felly, rwy'n credu bod hynny'n arwydd cadarnhaol a byddwn i'n gobeithio y byddai'r holl archfarchnadoedd eraill yn dilyn eu harweiniad nhw.
Diolch i'r Trefnydd.