Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

– Senedd Cymru am 3:07 pm ar 15 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:07, 15 Rhagfyr 2020

Yr eitem nesaf felly yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro, a gwneud hynny i alluogi dadleuon ar eitemau 7, 8 a 9. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig hwnnw. 

Cynnig NDM7527 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7522, NNDM7525, NNDM7526 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid atal Rheolau Sefydlog dros dro i alluogi dadleuon ar eitemau 7, 8 a 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Na, dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, ac felly mae'r cynnig yn cael ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.