Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
A gawn ni egluro un neu ddau o bethau ar gofnod, felly? Nid yw'r fargen barod i'r ffwrn yn ddim byd tebyg i'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio, ac rwy'n siŵr y bydd Prif Weinidog y DU yn hynod ddiolchgar iddo am ddarllen allan mor ffyddlon y sbwriel sydd, yn amlwg, wedi cael ei ddosbarthu yn San Steffan i geisio newid y ddirnadaeth o ran hynny. Ac o ran y rhestr o bwerau y mae ef yn ei chwifio yn ei law, ni fu unrhyw ddadl o gwbl mai o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd y caiff pwerau eu dychwelyd i'r fan hon. Mae e'n gwybod yn iawn fod y pwynt yr oedd yn ei wneud yn y ddadl pan ddaethom wyneb yn wyneb y tro diwethaf ar draws y Siambr yn ymwneud â Bil y farchnad fewnol, ac fe ofynnais iddo fy nghyfeirio i at yr adran yn y Bil hwnnw sy'n rhoi unrhyw bwerau newydd i Gymru, ac rwy'n nodi o'i gyfraniad diwethaf na fanteisiodd ef ar y cyfle i wneud hynny.
Fe ofynnodd imi a oedd yn well gennyf i'r cytundeb sydd, i bob golwg, yn cael ei negodi, neu fod heb gytundeb; rwyf i o'r farn fod fy natganiad i yn ei gyfanrwydd yn rhoi'r ateb iddo i'r cwestiwn hwnnw. Mae'n gywir i ddweud na allwn ragweld y cytundeb sydd ar y bwrdd eto; rwy'n siŵr y byddai ef yn cytuno â mi y dylem gael golwg arno, fel Llywodraeth a gaiff ei heffeithio yn sylweddol, ar ran pobl Cymru. Ond mae'n iawn i ddweud nad yw'r manylion gennym. Rydym wedi bod yn eglur iawn: trafodaethau gan Lywodraeth y DU fu'r rhain, ac nid yw'r Llywodraethau datganoledig wedi cael rhan ynddynt yr wyf i'n siŵr y byddai Aelodau'r Senedd hon, yn gyffredinol, yn teimlo eu bod yn ei theilyngu. Mae fy nisgrifiad i o hwn fel cytundeb cyfyng yn seiliedig ar yr uchelgais mwyaf sydd gan Lywodraeth y DU i'r berthynas. Hyd yn oed pe bai hwnnw'n cael ei gyflawni yn ei gyfanrwydd ar y cam hwn, cytundeb cyfyng fyddai. Felly, fe allwn ni gymryd hynny'n ganiataol, rwy'n credu.
Mae ef, yn ei gwestiwn, yn ymhél â mater sofraniaeth. Mae'n gwestiwn pwysig, ond yn ei hanfod mae hynny'n rhithiol yng nghyd-destun trafodaethau masnach rhyngwladol, oherwydd er mwyn cael mantais mae'n rhaid i rywun ildio rhywbeth er mwyn sicrhau unrhyw fath o gytundeb—dyna yw natur negodi. Felly, mae disgrifio hon yn frwydr am sofraniaeth yn hollol gyfeiliornus. Mae'n sôn am Ganada, ac yn sôn am amryw o wledydd eraill; os yw'n dymuno bod gennym ni yr un lefel o fasnach gyda'r UE â'r hyn sydd gan y gwledydd hynny, fe fyddai hynny'n golygu lleihad sylweddol yn ein gallu ni i fasnachu â'r Undeb Ewropeaidd—fe fyddai'n ostyngiad sylweddol.
Fe ofynnodd imi am gyfleoedd, ac eto i gyd fe ofynnodd imi ddilyn yr egwyddorion fel y gwnaeth Canada a gwledydd eraill. Mae'r ddau bwynt hynny'n gwbl groes i'w gilydd, ac rwy'n credu bod yn rhaid bod yr Aelod yn ymwybodol o hynny. O ran cyfleoedd o gytundebau eraill, mae yna gyfleoedd, ac rydym yn dilyn eu trywydd. Ond hyd yn oed ar eu mwyaf uchelgeisiol, cyfran fechan o'r effaith ar ein CMC ni yw'r cyfleoedd hynny, o'u cymharu â pherthynas fasnachu dda â'r Undeb Ewropeaidd, a dyna pam rydym ni wedi rhoi hynny ar frig ein rhestr ni o flaenoriaethau.
Yn olaf, mae e'n dweud, 'A fyddwn ni'n ffynnu y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd?' Bydd y Llywodraeth hon yn awyddus i Gymru allu ffynnu ym mha berthynas bynnag sydd gennym ni ag unrhyw ran o'r byd, ond mae'n rhaid ystyried y dystiolaeth a pheidio â herio sefyllfa wirioneddol ein trefniadau presennol ni, ac ystyried sut y gallwn ni adeiladu ar y rhain, ac nid eu tanseilio nhw. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yn y Llywodraeth yn y fan hon, a dyna'r hyn yr ydym ni'n dymuno i Lywodraeth y DU ei wneud ar ein rhan ni.