Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad. Fel rydyn ni'n gwybod, gyda dyddiau yn unig i fynd, mae'r trafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn parhau. Os oes cytundeb yn cael ei gyflwyno gerbron Senedd San Steffan, bydd Plaid Cymru'n ystyried yr addewidion a gafodd eu rhoi yn 2016 a 2019. Fe wnaeth Boris Johnson addo na fydd Cymru'n derbyn ceiniog yn llai, y byddwn yn derbyn yr un buddion, ac y bydd ein ffermwyr yn gallu gwerthu i'r Undeb Ewropeaidd fel o'r blaen. A fydd y cytundeb yn cyflawni? Bydd angen i ni weld manylion y cytundeb, ond mae Plaid Cymru yn glir ein bod ni'n methu â chefnogi cytundeb sydd yn niweidiol i bobl a busnesau Cymru. 'Ffwrn-barod'—oven-ready—a'r 'cytundeb rhwyddaf yn y byd', dyna beth a oedd wedi cael ei addo, ond nid dyna beth sydd wedi digwydd. Cytundeb neu ddim cytundeb—does dim digon o amser ar ôl i alluogi busnesau Cymru, a hyd yn oed Llywodraeth Cymru, i baratoi yn llawn ar gyfer pa bynnag amgylchiadau y byddwn yn ffeindio ein hunain ynddynt ar 1 Ionawr. Mae llinellau coch Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers 2017 o adael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn golygu bod tarfu yn anochel, beth bynnag a ddaw o'r cytundeb.
Felly, allaf i ofyn: beth ydi rôl Llywodraeth Cymru wedi bod yn hyn i gyd, yntau ydych chi fel Llywodraeth wedi cael eich anwybyddu unwaith eto gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig? Allwch chi gadarnhau beth ydy'r sefyllfa ddiweddaraf gyda storio cyffuriau yn sgil COVID a Brexit? Ac ydych chi fel Llywodraeth yn disgwyl oedi i feddyginiaethau—hynny yw, delays—yn ein porthladdoedd, sydd angen dod o Ewrop ar just-in-time basis? Dwi'n gwybod beth ydych chi'n ei ddweud ynglŷn â stocpeilio, ond nid yw'n bosib stocpeilio rhai meddyginiaethau achos maen nhw dim ond yn para rhai oriau. Felly, ydych chi'n pryderu ynglŷn ag oedi rhai meddyginiaethau allweddol, fel radioisotopes i'n gwlad? Ydych chi, ymhellach, Weinidog, yn pryderu hyd yn oed os oes cytundeb y bydd cyfnod o amser ble, i bob pwrpas, y byddwn ni mewn sefyllfa o ddim cytundeb oherwydd natur hwyr y trafodaethau? Ac i gloi, dwi'n cydnabod bod pobl yn gweithio rownd y cloc ar y trefniadau posib, a hyn i gyd yng nghanol pandemig angeuol—mae'r sefyllfa yn heriol tu hwnt. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.