Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolch i'r Gweinidog am gynnig y rheoliadau'r prynhawn yma. I'r rhai sy'n gwylio ein trafodion ni'r prynhawn yma, efallai y byddan nhw'n ei gweld hi'n rhyfedd braidd—ac mae hon yn ddadl a gawsom ni sawl gwaith yn y Siambr hon—ein bod ni'n pleidleisio i roi gorfodaeth, neu roi grym, i'r rheoliadau sydd wedi bodoli ers bron pythefnos erbyn hyn, ac a gaiff eu hadolygu ddydd Gwener, yn ôl yr hyn a ddeallaf, o dan weithdrefnau arferol Llywodraeth Cymru.
Mae ein safbwynt hirsefydlog ni ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig yn golygu y byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn eitem 5, sy'n effeithio ar y sector lletygarwch. Rydym ni'n nodi bod y cyfyngiadau teithio y mae Llywodraeth Cymru wedi eu haddasu yn ystod y cyfnod yn caniatáu teithio i Loegr i ardaloedd haen 2 a haen 1, lle gallai trigolion Cymru fwynhau lletygarwch ac yna deithio'n ôl i Gymru—rhywbeth na fyddwn i'n ei argymell, ond mae'n cael ei ganiatáu yn yr argymhellion. Ac rydym ni'n anghytuno bod y cyfyngiadau hyn yn cwmpasu Cymru gyfan, o ystyried y gwahanol gyfraddau o'r feirws ledled y wlad, yn enwedig yn y gogledd-orllewin, lle byddai rhai o'r lleoliadau lletygarwch hyn yn gallu parhau i fasnachu pe byddai'r rheolau'n caniatáu hynny. Felly, fe fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn hynny. Rydym ni'n nodi hefyd bod llawer o'r lletygarwch y mae pobl yn ei fwynhau mewn safleoedd trwyddedig wedi symud i leoliadau preifat, ac mae tystiolaeth gynharach wedi dangos bod y lleoliadau preifat hynny'n golygu bod pobl yn osgoi'r rheolau ac mae cyfraddau uwch o drosglwyddiad.
Eitem 6: rydym ni o'r farn fod hwn yn fesur synhwyrol a rhagofalus, gan ostwng y cyfnod ynysu o 14 diwrnod i 10 diwrnod, ac rydym ni'n credu bod y dystiolaeth yn cefnogi hyn. Serch hynny, mae problem wirioneddol o ran pobl yn cadw at y rheolau ynysu. Mewn rhai achosion, dim ond 20 y cant o'r boblogaeth mewn gwirionedd sy'n cytuno i hunanynysu, ac fe fyddai'n dda iawn gennyf glywed ymateb y Gweinidog ynghylch pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eu defnyddio wrth gyfathrebu i sicrhau bod mwy o bobl yn cadw at wrth reolau hunanynysu. Rwy'n nodi'r stori sy'n cylchredeg heddiw am Drafnidiaeth Cymru, sef busnes sy'n eiddo i'r Llywodraeth, yn dweud wrth rai aelodau o'i staff i ddiffodd yr ap profi, olrhain a diogelu fel y gall y busnes barhau i weithredu. Felly, fe fyddwn i'n croesawu clywed y Gweinidog yn dweud rhywbeth am y cyfarwyddyd penodol hwnnw gan un o gwmnïau Llywodraeth Cymru i'w weithwyr ei hun.
Fe fyddwn ni'n atal pleidlais ar eitem 7. Er y gallwn ni ddeall y teimladau y tu ôl i rai o'r cyfarwyddiadau hyn ar eitem 7, credwn, unwaith eto, gan ei fod yn ddull sy'n cwmpasu Cymru gyfan, fod rhywfaint o'r dystiolaeth yn dangos y gallai rhai ardaloedd ganiatáu i rai o'r atyniadau hyn barhau i ddarparu cyfleusterau lletygarwch mewn digwyddiadau awyr agored, parciau sglefrio a thrampolinau lle mae cyfraddau'r feirws yn isel. Yn hytrach na dull ar gyfer Cymru gyfan, credwn y byddai'n llawer gwell cael dull mwy lleol o ymdrin â'r agwedd benodol hon, a dyna pam y byddwn yn ymatal, oherwydd mae'n amlwg bod y digwyddiadau hyn a drefnwyd yn cynnal asesiadau risg. A bydd pobl yn amlwg yn parhau i deithio i rai ardaloedd o Gymru, ac os gellir eu lletya mewn amgylchedd diogel, rydym ni o'r farn y gallai fod yn synhwyrol caniatáu i rai o'r atyniadau hyn barhau. Felly dyna pam, fel Ceidwadwyr Cymreig, y byddwn ni'n ymatal ar eitem 7.
Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn sôn am amrywiolyn newydd y feirws, yr N501, nad yw'r cyfyngiadau hyn yn dylanwadu arno, ond fe allai effeithio ar gyfyngiadau a gaiff eu cyflwyno eto. Rwy'n nodi nad ydym wedi rhoi sylw ar lawr y Siambr i'r amrywiolyn newydd hwn o'r feirws, sydd yn y pen draw wedi cael effaith ar ein dealltwriaeth o'r feirws ledled y DU. Nid mater i Gymru yn unig yw hwn, ac felly da o beth fyddai iddo roi rhywfaint o wybodaeth inni, ar ddiwedd ei grynhoad ef o'r cyfyngiadau hyn, am sut y bydd yn rhaid addasu'r cyfyngiadau o bosibl i ddarparu ar gyfer yr amrywiolyn newydd, sydd, yn ôl yr hyn a ddeallwn ni, yn amlwg yn helpu i gyflymu'r broses o ymledu'r feirws mewn cymunedau, nid yng Nghymru yn unig, ond mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.