Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Gwnaf ddelio efo'r rheoliadau yn eu tro. Eitem 5 yn gyntaf, yr eitem sydd wedi bod yn destun y mwyaf o drafod, mae'n siŵr. Yn wir, roedd hi'n destun dadl yma yn y Senedd yr wythnos diwethaf, ac oherwydd hynny mi gadwaf fy sylwadau i'n fyr. Mae fy safbwynt i a Phlaid Cymru ar y record yn barod ar hwn, ac mi wnaf siarad yn ehangach am ein safbwynt ni ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran y pandemig yn y ddadl ar gyfyngiadau coronafeirws newydd o dan eitem 17 y prynhawn yma.
Dydy ein safbwynt ni ddim wedi newid ar y rheoliadau cyntaf yma. Mi wnaethom ni ymatal wythnos yn ôl, nid oherwydd ein bod ni'n gwrthwynebu cyfyngiadau—rydyn ni'n gallu gweld difrifoldeb yr achosion mewn rhannau sylweddol o Gymru, ac mi wnes i hi'n glir ein bod ni'n gefnogol i gymryd camau dwys i ymateb i hynny ac i geisio atal lledaeniad pellach—ond diffyg lojic rhai elfennau a oedd yn ein pryderu ni bryd hynny, y gwaharddiad llwyr ar alcohol a'r ffaith bod llefydd fel bwytai yn gorfod cau yn gynnar iawn gyda'r nos, lle mae'r dystiolaeth am rôl llefydd felly yn lledaeniad y feirws yn ddigon prin. Ein consyrn ni, yn syml iawn—ac mae hyn yn berthnasol i bob un rheoliad yr ydym ni yn ei drafod—os ydy pobl yn methu gweld rhesymeg y camau sy'n cael eu cymryd, bydd hynny'n tanseilio ymddiriedaeth yn y Llywodraeth a'r gallu wedyn i ddelio efo'r pandemig. Ac mae'r rhesymeg, wrth gwrs, yn cael ei chwestiynu fwyaf mewn ardaloedd sydd â niferoedd cymharol isel o achosion. Ni all yr un ardal ystyried ei bod hi'n ddiogel, wrth reswm, ond mae'n ychwanegu at y ddadl hefyd am amrywio'r ymateb o ardal i ardal. Mi gawn ni drafod mwy ar hynny yn nes ymlaen heddiw hefyd.
At eitem 6, mi gefnogwn ni honno. Mae'r dystiolaeth i'w gweld yn ddigon cryf i ni ar gyfiawnhad gostwng y cyfnod hunanynysu ar ôl teithio dramor o 14 i 10 diwrnod. Mae yna gyfiawnhad amlwg hefyd dros ganiatáu i blentyn sy'n hunanynysu symud rhwng cartrefi dau riant, er enghraifft.
At eitem 7, mi gefnogwn ni—a dwi'n nodi bod y Ceidwadwyr wedi dweud y byddan nhw'n ymatal—mi gefnogwn ni hyn oherwydd mae angen y rheoliadau yma er mwyn cyflwyno newidiadau sydd yn berffaith resymol i fi: yr angen, er bod neb eisiau bod yn y sefyllfa yma, i gau atyniadau dan do, sinemâu ac ati, galerïau, amgueddfeydd ac yn y blaen.
Mae gen i gonsyrn ynglŷn â rhai atyniadau awyr agored lle dwi'n meddwl bod y dystiolaeth dros awyr iach a'i rôl o yn ymateb i'r pandemig yma yn gryf iawn erbyn hyn. Mae gen i e-bost, yn digwydd bod mae o'm hetholaeth i, ond mae'n gynrychioladol o beth sy'n digwydd mewn etholaethau eraill hefyd, dwi'n gwybod. Busnes sydd yn rhedeg tripiau cwch yn Ynys Môn oedd wedi gwerthu nifer uchel o docynnau, fel mae'n digwydd, ar gyfer tripiau dros y Nadolig. Maen nhw bellach yn gorfod talu'r arian hwnnw yn ôl. Maen nhw'n dweud, 'Ydyn, rydym ni'n chwarae'n rhan', ac maen nhw'n sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa, fel mae pob un ohonom ni, ond unwaith eto yn gwneud y pwynt bod angen cefnogaeth uwch, mwy dwys yn ariannol i fusnesau, bod angen mwy o rybudd, mwy o wybodaeth ynglŷn â'r hyn sydd yn digwydd. Mae'r perchennog busnes yma yn dweud bod yna lawer o fusnesau mae o'n siarad â nhw sydd yn dal ddim yn gwybod bod yna orchymyn arnyn nhw i gau. Felly, mae'r neges yma sydd yn codi dro ar ôl tro drwy gyfnod y pandemig: 'Mae yna ddiffyg eglurder yn yr achos yma. Pam bod angen i ni gau? Siawns ein bod ni wedi gwneud popeth, ond rydym ni'n derbyn bod yn rhaid; plîs wnewch chi wneud yn siŵr bod y cyfathrebu yn well ar bob cyfle?'
Fel dwi'n dweud, mae yna rannau o'r rheoliadau, wrth gwrs, sydd yn bwysig, felly mi fyddwn ni'n cefnogi ond efo'r apêl yna unwaith eto ar Lywodraeth: mae'n rhaid cael y cyfathrebu'n eglur ar hyn.