– Senedd Cymru am 6:44 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Eitem 8 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth), a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i wneud y cynnig—Jeremy Miles.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Rwy'n falch o gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) Llywodraeth y DU. Er bod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn ymwneud â Bil newydd, mae'r cynnwys yn gyfarwydd, gan ei fod i raddau helaeth yn dyblygu darpariaethau casglu data a rhannu gwybodaeth fasnach o fewn y Bil Masnach. Gosodais femorandwm cydsyniad atodol yn ymwneud â'r darpariaethau hynny ym mis Tachwedd. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad diweddar ar y Bil Masnach a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am eu gwaith craffu parhaus a gwerthfawr iawn.
Gosodwyd y ddeddfwriaeth annibynnol newydd hon gan Lywodraeth y DU ddoe, gan fod y Bil Masnach bellach yn annhebygol o basio neu gael Cydsyniad Brenhinol tan ddechrau 2021. Mae'r Bil wedi cael ei drafod yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw. Nod Llywodraeth y DU yw i'r Bil gael ei basio yn Nhŷ'r Arglwyddi yfory, fel y gall dderbyn Cydsyniad Brenhinol yn fuan wedi hynny.
Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau a fyddai'n galluogi Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i rannu data gyda chyrff cyhoeddus neu breifat er mwyn iddynt allu cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus sy'n ymwneud â masnach. Mae hefyd yn darparu porth cyfreithiol i sefydliadau'r sector cyhoeddus rannu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â masnach gyda Llywodraeth y DU. Byddai'n crynhoi gwybodaeth am lifoedd masnach ar draws ffiniau, rhywbeth sy'n hollbwysig, ni waeth a yw'r DU yn sicrhau cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd ai peidio, gan y gallai fod tarfu ar y ffin yn y naill senario neu'r llall. Bydd y darpariaethau hyn yn galluogi Canolfan Gweithredu'r Ffin Llywodraeth y DU i reoli a monitro tarfu ar ffiniau'r DU. Y bwriad yw i'r Bil ddarparu mecanwaith pontio hyd nes y caiff y Bil Masnach ei hun ei basio.
Mae'r memorandwm a osodwyd gerbron y Senedd yn gynharach heddiw yn nodi'r darpariaethau y ceisir cydsyniad ar eu cyfer. Mae cymalau 2 a 3 o'r Bil yn cynnwys darpariaeth sydd o fewn cymhwysedd y Senedd, ac er nad ydynt yn ddadleuol, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r Senedd eu hystyried, a rhoi cydsyniad. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymdrin â'r darpariaethau yn y Bil DU hwn, gan fod y Bil yn ymdrin â materion datganoledig a materion nad ydynt wedi'u datganoli. Deddfu drwy Fil ar gyfer y DU yw'r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf effeithiol a chymesur ar gyfer creu trefniadau rhannu data mewn perthynas â masnach. Felly, rwy'n gwneud y cynnig a gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. Fel yr eglurodd y Cwnsler Cyffredinol, mae'r Bil yn darparu mesurau rhannu data sy'n ofynnol wrth i'r DU baratoi ar gyfer ei pherthynas newydd â'r Undeb Ewropeaidd. Cafodd y darpariaethau hyn eu cynnwys yn flaenorol yn Rhan 3 o Fil Masnach y DU, fel yr amlinellwyd. Fodd bynnag, fel y gwyddom, mae taith y Bil drwy Senedd y DU wedi'i hoedi ac mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno'r Bil, sy'n cynnwys yr un wybodaeth ddatgelu ag a gynhwyswyd yn flaenorol yn y Bil Masnach.
Adroddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Llywodraeth Cymru, sef memorandwm Rhif 2 ar y Bil Masnach, ar 4 Rhagfyr 2020. Roeddem yn cytuno â barn Llywodraeth Cymru fod cymalau 9 a 10 o'r Bil hwnnw, sef cymalau 2 a 3 newydd y Bil rydym yn ei ystyried heddiw, yn galw am gydsyniad y Senedd.
Yn benodol mewn perthynas â'r pŵer i wneud rheoliadau yng nghymal 2(9) o'r Bil, pŵer Harri VIII yw hwn gan ei fod yn galluogi i reoliadau gael eu defnyddio i ddiwygio'r rhestr o awdurdodau cyhoeddus penodedig yng nghymal 2(3). Bydd rheoliadau o'r fath yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. At hynny, bydd angen memorandwm cydsyniad offeryn statudol yn unol â Rheol Sefydlog 30A os bydd Gweinidog y Goron yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â Chymru drwy ddiwygio'r rhestr o awdurdodau cyhoeddus yng nghymal 2(3) i gynnwys awdurdodau na chawsant eu cadw'n ôl.
Nodaf resymau Llywodraeth Cymru dros wneud y darpariaethau perthnasol ar gyfer Cymru yn y Bil. Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn dweud:
Rydym wedi ceisio'r sicrwydd canlynol gan Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau y gwelir manteision yng Nghymru.
Mae paragraff 11 o'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn nodi:
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod wedi cael digon o sicrwydd gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i'r ceisiadau hyn ac y byddant yn gymwys i'r Bil fel roeddent i'r Bil Masnach. I gadarnhau hyn, caiff yr ymrwymiadau eu hailddatgan, naill ai yn nau Dŷ'r Senedd neu mewn llythyr Gweinidogol.
Ar ôl amlinellu ymrwymiadau a roddwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Hydref, dywed y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ym mharagraff 13:
Credwn fod y sicrwydd a roddwyd yn flaenorol yn ddigonol, wedi iddo gael ei ailddatgan.
Nawr, yn ein hadroddiadau ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol sy'n ymwneud â'r Bil Masnach presennol, rydym wedi mynegi pryderon am y diffyg eglurder ynghylch yr ymrwymiadau hyn ar lawr y Senedd ac wedi gofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Cwnsler Cyffredinol egluro pa drafodaethau a gafodd gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr ymrwymiadau ar lawr y Senedd fel y maent yn berthnasol i'r Bil rydym yn ei ystyried heddiw. Yn ogystal, a all ddweud hefyd a yw'n disgwyl i'r ymrwymiadau gael eu gwneud yn Senedd y DU wrth iddi ystyried y Bil neu drwy lythyr yn ddiweddarach? Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o bryderon y pwyllgor ynglŷn â'r defnydd mynych o wahanol fathau o gytundebau rhynglywodraethol, boed yn femoranda dealltwriaeth neu'n ymrwymiadau a wneir ar lawr y Senedd. Felly, rydym yn dal i fod yn bryderus ynghylch y defnydd cynyddol o gytundebau o'r fath nad ydynt yn rhwymol, ond hefyd ynglŷn ag effaith gyfunol y nifer o'r rhain, gan eu bod yn cymhlethu ac yn ein barn ni, yn effeithio ar eglurder ac uniondeb y setliad datganoli. Diolch, Lywydd.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Nawr, rydym yn sôn am gydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth), nid y Bil Masnach llawn ei hun, oherwydd, fel y clywsom gan y Cwnsler Cyffredinol, mae digwyddiadau wedi'n goddiweddyd ac mae amserlen benodol gyda diwedd y flwyddyn yn agosáu, sy'n golygu ein bod yn trafod Bil yma sy'n dechnegol ei natur i raddau helaeth, fel y clywsom gan y Cwnsler Cyffredinol a Chadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth. Nawr, fel aelod o'r ddau bwyllgor—y pwyllgor deddfwriaeth a'r pwyllgor materion allanol—rwy'n ddiolchgar i'r ddau bwyllgor am eu rhan yn y trafodaethau ar y Bil Masnach ac yn amlwg ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar gyfer y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) heddiw.
Nawr, fel y nodwyd gan Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth yn ei ddadansoddiad manwl, dadansoddiad rwy'n ei rannu yn wir, mae'r Bil penodol hwn yn ymwneud yn unig â datgelu gwybodaeth a rhannu gwybodaeth yn rhydd rhwng Llywodraethau, ond yn amlwg, fel y crybwyllwyd, mae darpariaethau'r Bil hwn yn dibynnu'n rhannol o leiaf ar sicrwydd a roddir i Lywodraeth Cymru gan addewidion ar lawr y Senedd yn San Steffan. Nawr, rwy'n dal yn feirniadol iawn o addewidion o'r fath ar lawr y Senedd, fel yr amlinellais yr wythnos diwethaf yn nadl y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Marchnad fewnol. Rwyf wedi'i ddweud sawl gwaith: confensiwn Sewel, mae'n ymddangos ei fod yn cael ei anghofio; nid yw cytundebau rhynglywodraethol yn gyfreithiol rwymol, maent yn amhosibl eu gorfodi, ac addewidion ar lawr y Senedd hyd yn oed yn fwy felly. Nid yw'n ddim mwy na Gweinidog yn codi yn San Steffan ac yn gwneud addewid. Byddwn yn dadlau, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, ei bod yn gwbl amhosibl eu gorfodi. Fe'i dywedwyd unwaith, mae hefyd—rydym yn ddibynnol, neu mae Llywodraeth Cymru'n ddibynnol, ar Weinidogion yn San Steffan yn ailadrodd yr addewid a wnaed ar lawr y Senedd, ac edrychwn ymlaen at gadarnhad o hynny. Ond yn gyffredinol, mae addewidion ar lawr y Senedd yn gwbl amhosibl eu gorfodi, yn dibynnu ar ymddiriedaeth mewn Llywodraeth mewn gwlad arall. Felly, o ganlyniad, bydd Plaid Cymru yn ymatal ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Diolch, Lywydd.
Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r cyfranwyr i'r ddadl. Gaf i jest dweud fy mod i, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r drafodaeth ynglŷn â'r math yna o sicrwydd, ond maen nhw wedi caniatau inni allu creu sicrwydd ein hunain fod yr addewidion sydd wedi cael eu rhoi yn bwrpasol yn y cyd-destun hwn? A gaf i jest cadarnhau bod y sicrwydd sydd wedi cael ei roi yng nghyd-destun y mesurau cyfartal yn y Bil cynharach wedi cael eu hailadrodd yn y Senedd yng nghyd-destun y Bil hwn? Felly, yn sgil hynny, dwi ddim yn gweld unrhyw rwystr i ofyn i'r Senedd i roi cydsyniad i'r Bil. Rydym ni'n ateb galw pwysig wrth wneud hynny, hynny yw, galluogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu ein ffiniau ni yn fwy effeithiol, ac mae hynny'n mynd i fod yn bwysig yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb ai peidio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe fyddaf i'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Nawr fe fyddwn ni ar fin cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac fe fyddaf i'n cymryd toriad byr, felly, er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais. Toriad byr nawr.