– Senedd Cymru am 7:01 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r pleidleisiau cyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar brydau ysgol am ddim. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, tri yn ymatal, 38 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Y bleidlais nesaf, felly, yw gwelliant 1, ac os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Gwelliant 1, felly. Pleidlais ar welliant 1 yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, pump yn ymatal, 18 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn, a gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol.
Felly, pleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM7521 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma’r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau ysgol;
b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy’n hunanynysu neu’n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;
c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;
d) wedi sicrhau mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;
e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;
f) wedi ymrwymo i adolygu’r trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim pan fydd data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ar gael fis Ebrill 2021.
Y cynnig wedi'i ddiwygio, agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, pump yn ymatal, 18 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Y bleidlais nesaf, a'r olaf, ar y cynnnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, wyth yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.
Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio.