– Senedd Cymru am 7:04 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Rŷn ni'n symud ymlaen, felly, i'r ddwy ddadl fer sydd gyda ni'r prynhawn yma. Mae'r ddadl fer gyntaf wedi'i gohirio o 9 Rhagfyr, ac mae'r ddadl fer yna i'w chyflwyno gan Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Mae'n bleser cyflwyno'r gyntaf o'r dadleuon byr heno. Gallaf weld y Siambr yn llawn o gyrff sydd am wrando ar y ddadl wirioneddol bwysig hon, ac mae'n ddadl bwysig, a bod yn deg, oherwydd mae'n dibynnu ar y llythyr a anfonwyd gan wahanol gyrff llywodraethu a phobl sydd â diddordeb mewn gweld cefnogwyr yn dychwelyd at chwaraeon, yn amrywio o Gymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Clwb Criced Morgannwg, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Rygbi Dreigiau Casnewydd, Gleision Caerdydd, Scarlets, Gweilch, Cyrsiau Rasio Ceffylau Ffos Las a Chas-gwent, Cwrs Rasio Ceffylau Bangor Is-coed, Clwb Pêl-droed Wrecsam a Devils Caerdydd, i enwi ond rhai ohonynt. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fy mod yn cofnodi hyn yng Nghofnod y Cynulliad. Rwy'n sylweddoli bod y digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau COVID wedi newid heddiw o'r adeg pan oedd fy nadl i'w rhoi gyntaf yr wythnos diwethaf. Ond rwy'n credu bod y cwestiynau a ofynnir yn y llythyr hwn yn bwysig ac yn haeddu atebion gan y Gweinidog, oherwydd mae'r llythyr wedi'i gyfeirio at y Prif Weinidog. Ond rwy'n siŵr, erbyn hyn gobeithio, gan fod y llythyr wedi'i anfon ar 7 Rhagfyr, ei fod wedi dod o hyd i'w ffordd at y Gweinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon yma yng Nghymru, ac y bydd ef yn gallu mynd i'r afael â'r pwyntiau a nodir yn y llythyr.
Felly, mae'r llythyr yn dechrau drwy ddweud,
Annwyl Brif Weinidog,
Rydym yn ysgrifennu fel swyddogion gweithredol ac uwch gynrychiolwyr rygbi, criced, rasio ceffylau a phêl-droed—y chwaraeon stadiwm elît yng Nghymru.
Mae chwaraeon yn rhan sylfaenol o fywyd Cymru. Mae'n rhoi ein cenedl ar y llwyfan byd-eang ac yn rhoi ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth i gymunedau ledled Cymru. Rydym yn rhan o ddiwydiant sy'n cyflogi miloedd o bobl ledled y wlad, mae ein cyfraniad i economi, cyflogaeth a lles Cymru yn sylweddol, ond mae hyn bellach mewn perygl.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei dull o ddychwelyd cefnogwyr i'n meysydd chwaraeon gan gadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol drwy dderbyn cynlluniau'r Awdurdod Diogelwch Meysydd Chwaraeon presennol— a byddaf yn cyfeirio ato fel 'SGSA' yn nes ymlaen— canllawiau a elwir yn "SGO2", ac i dynnu'r amrywiad "SG02W" y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdano yn ôl.
Ddydd Llun 30 Tachwedd, cynhaliwyd cyfarfod wyneb yn wyneb a rhithwir yn Stadiwm Dinas Caerdydd i ystyried y dull o ddychwelyd cefnogwyr i'n stadia gan gadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol. Roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, rhanbarthau Cymru, criced Morgannwg, rasio ceffylau a chlybiau pêl-droed proffesiynol Cymru yn bresennol yn ogystal â SGSA, Cynghrair Bêl-droed Lloegr a'r grŵp cynghori ar ddiogelwch.
Nododd y cyfarfod gyhoeddiad arweiniad SGSA a elwir yn SG02, sy'n seiliedig yn gyffredinol ar fesurau lliniaru pellter cymdeithasol metr a mwy. Cyhoeddwyd arweiniad SGO2 yn dilyn ymgynghori helaeth, ac roedd yn sail i'r cynllunio manwl ar gyfer dychwelyd cefnogwyr i stadia Lloegr o 2 Rhagfyr, ac yn wir cafodd ei ganmol yn eang ac mae'r SGSA wedi'i rannu gyda gwledydd ledled y byd.
Gan fabwysiadu ymagwedd fwy gofalus, gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r SGSA baratoi fersiwn o SG02 yn seiliedig ar bellter cymdeithasol o ddau fetr. Mae drafft (SG02W) wedi'i dderbyn a'i ddosbarthu, ond heb ei gyhoeddi. Rydym ni fel grŵp o gyrff llywodraethu cenedlaethol ac uwch glybiau yn annog tynnu'r drafft hwn yn ôl a bod Llywodraeth Cymru hefyd yn croesawu fersiwn uchel ei pharch SG02 ac yna'n caniatáu i ddigwyddiadau prawf gael eu cynnal gan ddefnyddio'r arweiniad hwn, a chynnal digwyddiadau cyn gynted â phosibl.
Rydym yn dweud hyn oherwydd er bod SG02 yn cyfyngu'r nifer ddisgwyliedig o gefnogwyr i rhwng 25% a 35% o'r capasiti yn dibynnu ar faint tyrfaoedd a chynlluniau stadiwm. Byddai'r fersiwn Gymreig yn lleihau'r capasiti ymhellach i lefel o dan 10% sydd i bob pwrpas yn cau ein busnesau i'r cyhoedd am gyfnod amhenodol.
Yn y cyfarfod, roedd pob sefydliad chwaraeon wedi'i siomi'n fawr gan y diffyg ymgynghori ymlaen llaw ac roedd y safbwynt diysgog a fabwysiadwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfarfod yn peri pryder mawr i ni.
Mae'r sefyllfa'n ddifrifol; mae'r diffyg cynllun clir ar gyfer dychwelyd gwylwyr yng Nghymru yn creu risg wirioneddol o fethdaliad i'n chwaraeon. Rydym yn rheoli stadia a reoleiddir yn drwyadl, stadia sy'n cael eu goruchwylio gan yr SGSA sy'n cyhoeddi ein trwyddedau a'n tystysgrifau Diogelwch ar y cyd â'n Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch (yn cynnwys awdurdodau lleol, rheoli adeiladu a'r gwasanaethau brys).
Rydym yn parchu'r angen i ddychwelyd pan fydd yn ddiogel i wneud hynny— sy'n bwynt allweddol yn fy marn i— ac yn cydnabod yr angen i ddilyn y wyddoniaeth— eto, pwynt allweddol arall— ond yn tynnu sylw at amharodrwydd Llywodraeth Cymru i edrych ar "ateb wedi'i reoli a'i saernïo" nad yw'n bresennol yn y sectorau manwerthu, adeiladu, trafnidiaeth neu letygarwch. Bydd SG02W yn rhwystr sylweddol nad yw'n cynnig ateb pragmatig na chynaliadwy i ni ac er mwyn symud ymlaen credwn ei bod hi'n hanfodol cael dull tryloyw a chydweithredol o fynd ati gyda Llywodraeth Cymru ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bydd hyn yn sicrhau ein bod ar y cyd yn gallu cynhyrchu cynllun clir ar gyfer digwyddiadau peilot ystyrlon ac yn dychwelyd cefnogwyr yn ddiogel i feysydd a digwyddiadau chwaraeon. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol iawn fod cefnogwyr chwaraeon Cymru yn gwylio'r hyn sy'n digwydd dros y ffin.
Ni fydd yr alwad i ddychwelyd cefnogwyr i gefnogi eu clybiau a thimau cenedlaethol ond yn parhau i gynyddu wrth i'r cyrff llywodraethu a chlybiau chwaraeon ddioddef heb gyfarwyddyd na chynllun hyfyw mewn cyfnod pan fo'u cyllid yn dadfeilio o'u blaenau.
I genedl sy'n fach o ran maint, mae Cymru'n gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl yn y byd chwaraeon; rydym am weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein pobl, clybiau, busnesau a dyfodol chwaraeon yng Nghymru yn goroesi.
Felly, fel y nodwyd gennym ar ddechrau'r llythyr hwn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i dynnu SG02W yn ôl ac yn croesawu canllawiau cyhoeddedig SGSA, sef SG02, yn ymrwymo i dryloywder ar y wyddoniaeth a dull cydweithredol rhwng y cyrff chwaraeon, uwch glybiau, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn darparu cynllun clir ar gyfer digwyddiadau peilot ystyrlon a dychwelyd cefnogwyr yn ddiogel i feysydd chwaraeon.
Nawr, rwy'n sylweddoli bod y llythyr wedi'i ysgrifennu cyn y newidiadau i'r rheoliadau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog heddiw. Ond yn sicr, rywbryd yn y dyfodol, gobeithio y gwelwn ddychwelyd at elfen o normalrwydd—boed yn normal newydd neu'r normal blaenorol roeddem yn ei gymryd yn ganiataol. Ond mae'n hanfodol fod clybiau fel y rhai y soniais amdanynt ar ddechrau fy nghyflwyniad—ac yn wir, clybiau ar lawr gwlad—yn deall sut y gall y pyramid chwaraeon sy'n creu'r teulu chwaraeon yng Nghymru ddechrau gweld cefnogwyr yn dychwelyd i gefnogi'r clybiau sydd mor hoff ac annwyl ganddynt, yn ogystal â mathau eraill o chwaraeon, fel rasio ceffylau a Devils Caerdydd.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ymateb i'r llythyr agored hwn—mae'n llythyr agored sydd ar gael i'r cyhoedd—oherwydd mae wedi bod yn nwylo Llywodraeth Cymru ers peth amser bellach, a rhoi ymateb llawn, fel y gallwn ddeall a oes unrhyw symudiad gan Lywodraeth Cymru i ymateb a hwyluso mesurau o'r fath pan fydd y wyddoniaeth yn caniatáu a phan fydd rheoliadau'n caniatáu yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Andrew, a wnaethoch chi ildio peth o'ch amser?
Naddo, ni chefais gais i wneud hynny.
Diolch. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb. Dafydd Elis-Thomas.
Diolch y fawr, Llywydd gweithredol. A gaf i yn gyntaf ddiolch a chydnabod cyfraniad Andrew R.T. Davies i'r ddadl hon, a hefyd os caf i ddweud, i'r gymdogaeth dda—ac mae o'n enwog amdani—ym Mro Morgannwg? Ond, efallai na fydd o ddim yn cytuno â llawer pellach sydd gen i i'w ddweud, oherwydd y neges gyntaf y mae'n rhaid imi ei hailosod ar ran Llywodraeth Cymru yw mai'r ystyriaeth gyntaf inni fel Llywodraeth gyfrifol yw iechyd cyhoeddus.
Mae'r ffaith bod y ddadl yma wedi gorfod digwydd heddiw, yn hytrach nag yn gynt, yn dangos mor beryglus ydy hi inni gymryd penderfyniadau ynglŷn ag iechyd cyhoeddus ar newidiadau tymor byr. Oherwydd erbyn heno mae sefyllfa iechyd cyhoeddus Cymru yn gyfan gwbl ddifrifol. Felly, dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n briodol inni ddatgan unrhyw fath o addewidion am amser pryd y gallem ni newid y sefyllfa.
Nawr, yn amlwg, rydw i yr un mor awyddus ag y mae Andrew R.T. Davies i weld cynulleidfa o gefnogwyr yn dod yn ôl i chwaraeon. Rydw i yn derbyn bod cynulleidfa o gefnogwyr yn hanfodol i chwaraeon allu bod yn fwynhad. Ond, mae'r un ddadl yn codi ynglŷn â chynulleidfaoedd mewn perfformiadau mewn meysydd eraill sydd yn gyfrifoldeb imi, yn y celfyddydau, er enghraifft. Ac er ein bod ni am weld cefnogwyr yn dod yn ôl, mae'n rhaid i hynny ddigwydd yn ddiogel.
Rydym ni, wrth gwrs, yn cymharu ein sefyllfa gyda beth sy'n digwydd yn Lloegr, beth sy'n digwydd yn yr Alban, a beth sydd wedi digwydd, yn druenus iawn, yn Llundain ac yn ne-ddwyrain Lloegr yn ystod y dyddiau diwethaf. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n ei gwneud yn glir bod gan Lywodraeth Cymru yr ewyllys gadarn i ganiatáu i chwaraeon ddod yn ôl. Dwi'n derbyn y cyfan y mae Andrew R.T. Davies wedi'i ddweud ynglŷn â phwysigrwydd clybiau chwaraeon a'r refeniw sy'n dod o glybiau chwaraeon, yn enwedig ym maes pêl-droed, ar lefel gymunedol yn ogystal ag ar lefel genedlaethol.
Mi oeddem ni wedi cychwyn gyda nifer o gynlluniau ar gyfer digwyddiadau prawf a fyddai wedi bod yn cynnwys cefnogwyr, ond bu'n rhaid inni ohirio hynny. Ond, fe rof i sicrwydd fel hyn: mae fy swyddogion i sy'n ymwneud â chwaraeon ac sy'n ymwneud yn benodol â iechyd cyhoeddus o fewn y Llywodraeth, maen nhw'n trafod yn gyson gyda'r holl gymdeithasau pêl-droed, cymdeithasau rygbi, cymdeithasau criced, cymdeithasau chwaraeon. Ac rydyn ni'n gweithio'n arbennig o agos gyda Chwaraeon Cymru, yn ogystal â'r cyrff llywodraethu cenedlaethol.
Fe gyhoeddais i yn ddiweddar gronfa chwaraeon a hamdden oedd yn werth £14 miliwn ar gyfer 2020-21 i helpu'r sector, a dwi'n derbyn nad yw hyn yn ddigon i ddelio â'r sefyllfa. Ond mae'r gronfa adfer chwaraeon a hamdden yn cael ei gweinyddu ar ran Llywodraeth Cymru gan Chwaraeon Cymru fel ein prif bartner yn y maes yma, ac mae'r gwaith hwnnw yn parhau. Ac rydw i'n awyddus i roi sicrwydd, felly, i Andrew R.T. Davies fod Llywodraeth Cymru yn barod iawn i drafod yn gyson gyda'r sefydliadau chwaraeon, ond mae'n rhaid i'r flaenoriaeth gyntaf fod yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus.