Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Lywydd, diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei ddealltwriaeth o'r amgylchiadau sydd wedi arwain at y cyhoeddiad heddiw ac am y cwestiynau manwl y mae wedi'u gofyn. Ein bwriad yw y bydd y rhain yn gyfyngiadau ar gyfer Cymru gyfan, er gwaethaf y ffaith bod amrywiad yn lefel y coronafeirws mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’r coronafeirws yn codi ym mhob rhan o'n gwlad, ac mae'n rhaid inni gymryd y camau a fydd yn diogelu pob rhan o'n gwlad, a dyna pam y byddwn yn gwneud hyn ar sail Cymru gyfan. Ond fel y cydnabu Paul Davies, mae’r ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Llun yn nodi llwybr y gellid ei gydnabod drwy wahanol lefelau o gyfyngiadau pe bai rhai rhannau o Gymru yn dangos mewn ffordd ddibynadwy a chynaliadwy eu bod ar ran wahanol o’r sbectrwm i rannau eraill o Gymru. Nid ydym yn y sefyllfa honno yma heddiw. Ond rwyf wedi rhoi ymrwymiad heddiw y byddwn yn adolygu'r cyfyngiadau lefel 3, lefel 4 dair wythnos ar ôl iddynt gael eu cyflwyno, a bydd hynny'n rhoi cyfle i ni weld a yw'r gwahaniaeth dibynadwy, cynaliadwy hwnnw wedi'i gyflawni.
O ran trefniadau teithio, nid yw'r trefniadau teithio ar gyfer pum niwrnod cyfnod y Nadolig yn newid. Bydd y cyngor i bobl yn cael ei gryfhau heddiw yn y datganiad ar y cyd y byddwn yn ei gyhoeddi gan y pedair Llywodraeth, yn annog pobl i deithio pan fo angen yn unig, ac yn arbennig, i beidio â theithio o ardaloedd lle ceir nifer uchel o achosion i ardaloedd lle ceir nifer isel o achosion, ac rwy'n llwyr gefnogi’r cyngor hwnnw, a fydd yn cael ei nodi yn ddiweddarach y prynhawn yma.
O ran cyllid, byddwn yn darparu lefel uwch o gyllid y tu hwnt i'r £340 miliwn rydym eisoes wedi'i gyhoeddi. Byddwn yn sicrhau bod manylion ynglŷn â hynny ar gael cyn diwedd yr wythnos hon. Byddwn yn ceisio gwneud cymaint â phosibl o ddefnydd o'r dulliau sefydledig o roi cymorth gan Lywodraeth Cymru i'r busnesau sydd ei angen gan fod defnyddio mecanweithiau sefydledig yn golygu y gallwn wneud hynny’n gyflym. A dywedais wrth y Senedd ddoe, yn y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd yn wreiddiol pan wnaed newidiadau i letygarwch, mae miliynau o bunnoedd eisoes wedi'u rhoi i fusnesau yr effeithir arnynt, ac rwy'n ddiolchgar iawn yn wir i'n cymheiriaid yn yr awdurdodau lleol am y cymorth y maent yn ei roi gyda hynny.
Fe fuom yn trafod ddoe a gwnaeth arweinydd yr wrthblaid nifer o bwyntiau pwysig am iechyd meddwl, Lywydd. Nid wyf am eu hailadrodd yma, ar wahân i ddweud, o ran cydbwysedd y niwed sydd y tu ôl i'r holl benderfyniadau a wnawn fel Llywodraeth, fod yr effaith ar iechyd meddwl a lles pobl bob amser yn rhan ymwybodol o'r cyfrifiad a wnawn, ac rydym yn parhau i wneud hynny, a bydd y gwasanaethau a ddarparwn i helpu pobl gydag effaith y newidiadau ar eu lles meddyliol ar gael yn y cyfnod ar ôl y Nadolig.
Mae trafodaethau’n parhau, wrth gwrs, ynglŷn â dechrau’r tymor addysg nesaf. Trafodais y mater hwn fy hun gyda’r Gweinidog Addysg ddoe, ac mae’n parhau i ymgysylltu’n uniongyrchol ag awdurdodau addysg lleol, undebau llafur, rhieni ac eraill. Mae sicrhau nad yw plant ar eu colled o ran addysg yn parhau i fod yn flaenoriaeth hollbwysig i Lywodraeth Cymru, a dyna sut y byddwn yn mynd ati ar ddechrau'r tymor ysgol nesaf.
Yn olaf, gan gytuno â'r hyn a ddywedodd Paul Davies ynglŷn â phwysigrwydd cynnig rhywfaint o obaith i bobl, hyd yn oed yn y cyfnod anodd iawn hwn, bydd brechu’n parhau fel y cynlluniwyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau lefel 4. Rhoddwyd y brechlynnau cyntaf i breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru heddiw. Er gwaethaf yr heriau tymor byr sylweddol iawn sy'n ein hwynebu, mae'r rhagolygon ar gyfer y flwyddyn nesaf yn wahanol, ac mae cyfathrebu hynny i'n cyd-ddinasyddion yn parhau i fod yn rhan o'r ffordd y byddwn yn helpu pobl i ymdopi â'r anawsterau y gwyddom eu bod yn cael eu hwynebu ym mywydau unigolion yn sgil lledaeniad y feirws yng Nghymru.