Maglau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:15, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae defnyddio maglau yn weithred farbaraidd ac nid oes lle iddi mewn Cymru fodern ddi-greulondeb. Mae'r cod ymarfer yn caniatáu i'r fasnach anfoesol mewn ffwr llwynogod barhau, ac nid yw'n gwneud dim i atal dioddefaint aruthrol i anifeiliaid a dargedir ac anifeiliaid nad ydynt wedi'u targedu. Mae'r RSPCA yn ymdrin yn rheolaidd â moch daear a chathod anwes sydd wedi treulio dyddiau wedi'u dal mewn maglau. Weinidog, a ydych yn cytuno nad yw'r cod yn ymarferol ac nad oes modd ei blismona, a bod angen ei ddileu o blaid gwaharddiad llwyr ar yr anwarineb hwn yng Nghymru?