Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn a chredaf ei bod yn bwysig inni barhau i geisio casglu tystiolaeth ar y defnydd o faglau yng Nghymru lle gallwn. Ond yn amlwg, mae angen gofynion clir, rwy'n meddwl, ar gyfer cofnodi ac adrodd, er mwyn cwblhau ein sylfaen dystiolaeth. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cyhoeddi'r Papur Gwyn amaethyddol heddiw, a bydd hwnnw'n paratoi'r ffordd ar gyfer Bil amaethyddol i Gymru yn chweched tymor y Senedd. Bydd hwnnw'n cynnwys darpariaethau i roi pwerau deddfwriaethol i Weinidogion Cymru reoleiddio pob agwedd ar werthu a defnyddio maglau, ac yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y gellid ei ystyried hefyd yn y ddeddfwriaeth honno.