Llifogydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:18, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Ydi, yn bendant. Fe fyddwch yn ymwybodol mai ein strategaeth yw diogelu cartrefi a busnesau, a bywydau pobl felly, oherwydd gwyddom fod llifogydd yn ddigwyddiad hollol ddinistriol. Ond mae'n ymwneud â mwy na'r ffigurau mawr, fel y dywedwch. Mae'n ymwneud ag unigolion hefyd. Yn sicr, rwy'n cytuno. Yn bendant, gwelsom y gwaith partneriaeth rydych yn cyfeirio ato yn amlwg iawn yn ystod y llifogydd ym mis Chwefror, yn enwedig yn y Rhondda, er enghraifft. Felly, byddwn yn annog yr holl sefydliadau a enwyd gennych i ddod at ei gilydd gyda chi i weld beth y gallwn ei wneud, a byddaf yn hapus iawn i fod yn rhan o hynny hefyd.