Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Weinidog, mae cynlluniau ar y gweill yn Swydd Amwythig i ddatblygu cynllun atal llifogydd ar hyd Afon Hafren i ddiogelu Amwythig a'r ardaloedd cyfagos rhag llifogydd. Nawr, gwn fod y Cynghorydd Lucy Roberts, sy'n cynrychioli ward Llandrinio, sydd ar ochr Cymru i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, wedi bod yn awyddus iawn i sefydlu cysylltiadau a hefyd i gynrychioli barn trigolion ar ochr Cymru. Os ydych yn ymwybodol o'r cynllun hwn, a yw Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwbl fodlon na fydd y cynlluniau hyn yn niweidiol i ganolbarth Cymru ac i fy etholwyr oherwydd, wrth gwrs, rydym i fyny'r afon o ran hynny? Ac os nad ydych yn ymwybodol o'r cynllun penodol hwn, tybed a wnewch chi ofyn i'ch swyddogion edrych ar y cynllun ar eich rhan, ac ymateb er mwyn rhoi'r sicrwydd hwnnw i ni.