Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Nawr, mae ffigurau diweddar yn dweud wrthym fod tai gwael yn costio tua £95 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru yn ystod y pum mlynedd gyntaf o gostau triniaeth ac yn costio dros £1 biliwn y flwyddyn i'r gymdeithas yng Nghymru. Nawr, ni allwn fforddio colli golwg ar hynny oherwydd, yn amlwg, ceir prawf fod buddsoddi mewn tai o ansawdd da yn gwneud elw ar fuddsoddiad mewn buddion iechyd. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni yn ei phrosiectau tai wrth symud ymlaen, a pha gamau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â chostau iechyd o ganlyniad i dai gwael yng Nghymru, ac yn Sir Benfro yn enwedig?