Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch, Paul. Rydym wedi bod yn gyson yn ein neges mai tai cymdeithasol yw ein prif flaenoriaeth. Ein nod yw adeiladu cartrefi cymdeithasol gwell, mwy ohonynt, a hynny’n gyflymach. Rwy'n wirioneddol falch o'n buddsoddiad mwyaf erioed o £2 biliwn mewn tai i gefnogi ein darpariaeth o dros 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad—mae'n ddrwg gennyf, tymor y Senedd. Mae'n ddrwg gennyf.