Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Ddwy flynedd a hanner yn ôl, gwnaeth ein pwyllgor ein hymrwymiad i'r maes hwn yn glir. Galwasom am sicrwydd fod iechyd a lles emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol ddatganedig i Lywodraeth Cymru. Galwasom am newid sylweddol ar frys yn y cymorth a ddarperir i'n plant a'n pobl ifanc, gan ddadlau bod y ddarpariaeth wedi bod yn rhy gyfyngedig yn rhy hir. Galwasom am weithredu llym ym mhen ataliol gwasanaethau, i atal llif problemau iechyd meddwl yn gynharach, ac i atal problemau rhag gwaethygu mewn modd gofidus—a hynny'n ddiangen mewn llawer o achosion. Dywedasom fod angen dull ysgol gyfan, fel rhan o ddull system gyfan, i gefnogi iechyd meddwl a llesiant ein plant a'n pobl ifanc. Gwnaethom yn glir nad ydym yn barod i ganiatáu i'r mater pwysig hwn gael ei drosglwyddo mewn adroddiad etifeddiaeth, unwaith eto, i bwyllgor olynol yn y chweched Senedd. Nid yw cyrraedd diwedd y Senedd hon gyda chasgliadau 'mae angen gwneud mwy' wedi bod yn opsiwn i ni. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn disgwyl—ac yn haeddu—gwell na hynny.
Felly, sut rydym wedi ceisio cyflawni ein haddewid i'r Siambr hon ac i'n plant a'n pobl ifanc y byddem yn gweithredu? Rydym wedi dilyn ein 28 argymhelliad gwreiddiol, yn rheolaidd ac yn fforensig, dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf. Fe'n cefnogwyd yn y gwaith hwn gan weithwyr proffesiynol ymroddedig, rhieni a gofalwyr, plant a phobl ifanc a'r trydydd sector. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt, ac i gofnodi fy edmygedd ohonynt. Hebddynt, ni fyddai ein gwaith craffu wedi bod yn bosibl. Yn seiliedig ar eu barn a'u profiadau, gallasom gynhyrchu ein hadroddiad dilynol. Fel rhan o'r gwaith hwn, fe wnaethant asesu cynnydd yn erbyn pob un o'n hargymhellion, ac amlinellu lle roedd angen cymryd camau gweithredu cyn diwedd y Senedd hon. Gwn fod aelodau eraill y pwyllgor yn bwriadu siarad am feysydd penodol, felly fe ganolbwyntiaf yn bennaf ar y prif faterion y gwnaethant ein helpu i'w nodi.
Yn gyntaf oll, er bod newidiadau'n dechrau digwydd, ac er bod pobl yn ymroddedig iawn i wella'r sefyllfa, mae plant a phobl ifanc yn dal i'w chael yn anodd dod o hyd i'r cymorth emosiynol a'r cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnynt. Dywedwyd wrthym nad yw newid yn digwydd yn ddigon cyflym. Mae pobl yn cydnabod ei bod yn anodd, a bod y pandemig wedi rhoi pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ond credwn fod effaith COVID yn gwneud cynnydd yn fwy hanfodol nag erioed. Mae difrod cyfochrog y pandemig hwn i'n plant a'n pobl ifanc yn golygu bod cyflymder a chamau gweithredu yn y maes hwn yn bwysicach fyth.
Yn ail, rydym angen sicrhau mai newid system gyfan yw ein ffocws. Rydym yn cymeradwyo'r gwaith sydd wedi'i wneud i ddarparu dull ysgol gyfan, a'r gwaith sylweddol sydd ar y gweill i ddarparu cymorth cynnar a gwell cefnogaeth. Mae'r cynnydd i'w weld a cheir tystiolaeth ohono, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Ond rydym wedi'i gwneud yn glir na fydd dull ysgol gyfan yn unig yn sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen ar ein plant a'n pobl ifanc. O'r dechrau, rydym wedi dweud bod dull system gyfan yn hanfodol i wireddu ein huchelgeisiau yn y maes hwn. Ni all ysgolion wneud hyn ar eu pen eu hunain. Ar y sail honno, gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru ehangu cwmpas y grŵp gorchwyl a gorffen cyd-weinidogol, fel bod ei gylch gwaith yn cwmpasu dull system gyfan.
Rwy'n falch o weld bod y Gweinidogion wedi rhoi'r argymhelliad hwnnw ar waith a bod cylch gwaith y grŵp wedi'i ehangu o ganlyniad i'n galwad. Ond ni all ein gwaith ddod i ben yn y fan honno. Er bod cynnydd mewn perthynas ag addysg yn rhoi sicrwydd i ni, rydym yn llawer llai hyderus fod cyflymder y newid ym maes iechyd a llywodraeth leol—gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol—yn ddigonol. Mae'n amlwg i ni, ar yr ochr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, nad yw'r cynnydd wedi bod yn ddigonol, ac rydym yn pryderu'n fawr am hyn.
Er ein bod yn croesawu'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â chymorth cynnar a chymorth estynedig, mae'n hanfodol fod hyn yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl. Mae'n amlwg o'r gwaith rydym wedi'i wneud bod llawer o'r plant a'r bobl ifanc sydd mewn gofal argyfwng, neu mewn lleoliadau haen 4 arbenigol, yn rhai a ddisgrifiwn fel y 'canol coll' mewn gwirionedd. Plant a phobl ifanc yw'r rhain na fyddent wedi dirywio pe baent wedi cael cymorth a chefnogaeth gynnar. Nid yw hyn yn ddigon da.
At hynny, rydym yn pryderu'n benodol am yr hyn a ystyriwn yn ddiffyg cynnydd o ran cefnogi plant a phobl ifanc o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed—CAMHS—i symud i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion. Mae ymateb y Llywodraeth yn dweud wrthym fod ei chanllawiau pontio'n cael eu hadolygu, ond o'n gwaith ni, mae'n amlwg nad yw'r canllawiau hyn erioed wedi cael eu gweithredu'n briodol. Credwn fod hyn yn dal i fod yn ormod o waith ar y gweill, sy'n peri pryder o ystyried bod dwy flynedd wedi bod ers i'n hadroddiad dynnu sylw at bryderon sylweddol ynglŷn â hyn.
Yn ogystal, mae gofal argyfwng a haen 4 yn parhau i fod yn faes sy'n peri pryder gwirioneddol. Rydym wedi cael adroddiadau am broblemau sylweddol o ran capasiti'r gweithlu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a gwyddom fod problemau wedi parhau yn ystod y pandemig o ran gosod plant a phobl ifanc mewn lleoliadau cleifion mewnol priodol. Mae ein hadroddiad yn glir fod angen gwneud mwy o waith i fynd i'r afael â'r ystod o anghenion gofal cymhleth ac anghenion llety diogel sydd gan ein plant a'n pobl ifanc.
Rydym yn parhau i fod heb ein hargyhoeddi gan ymateb Llywodraeth Cymru fod y cynnydd rydym eisiau ei weld yn cael ei wneud, a bod angen cysylltu polisi ac ymarfer yn haen 4 y system. Ar y sail honno, galwaf heddiw ar y Gweinidog i sefydlu mecanwaith ffurfiol i gynllunio'r gwaith hwn, ac i ddod â'r holl bobl berthnasol at ei gilydd i gyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnom ar draws y pen arbenigol hwn o gymorth.
Rydym hefyd wedi tynnu sylw'n gyson at ein pryder nad yw rhai ffrydiau gwaith, gan gynnwys maes hanfodol cymorth arbenigol, bellach yn rhan o gylch gwaith y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, ac mae cysylltu â'r rhaglen honno'n gwbl hanfodol.
Mae'r prif fater olaf yr hoffwn dynnu sylw ato'n ymwneud â sut rydym yn trin ein plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed, yn enwedig y rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae David Melding wedi hyrwyddo eu hachos ers blynyddoedd lawer. Yn fwyaf diweddar, mae wedi gwneud hynny fel cadeirydd grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. Ni allaf adael i'r ddadl hon ddod i ben heb nodi ei gyfraniad i achos plant a phobl ifanc. Mae llawer o resymau y byddwn yn gweld colli David yn y lle hwn, ond fel Cadeirydd y pwyllgor plant, gallaf yn sicr weld y bwlch mawr y bydd yn ei adael ar ôl yn ein maes diddordeb.
O ran gweithrediad 'Cadernid Meddwl', rhoddwyd rôl bwysig i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. Wrth edrych i'r dyfodol, bydd y cydgysylltiad rhwng y grŵp gorchwyl a gorffen cyd-weinidogol, y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, a grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant yn hollbwysig. Ni allwn fforddio gadael i unrhyw un o'n plant a'n pobl ifanc gwympo drwy'r bylchau rhwng y grwpiau hyn. I'n plant sy'n derbyn gofal, mae hyn hyd yn oed yn fwy hanfodol; mae'n ddyletswydd arnom i beidio â'u siomi. Ar y sail honno, byddwn yn croesawu arwydd gan y Gweinidog sut y bydd hi, fel y Gweinidog iechyd meddwl newydd, yn sicrhau y bydd y strwythurau sydd wedi'u creu yn parhau i weithio gyda'i gilydd. Fel y dywed ein hadroddiad dilynol, mae ymrwymiad ac arweiniad parhaus gan Lywodraeth Cymru ac arweinwyr sector yn hanfodol i yrru'r agenda hon yn ei blaen a hwyluso'r cydweithio sydd mor angenrheidiol.
Wrth gloi fy sylwadau agoriadol, hoffwn gydnabod gwaith swyddogion a Gweinidogion mewn ymateb i'n hargymhellion 'Cadernid Meddwl'. Er nad wyf yn ymddiheuro am ein dyfalbarhad a'n penderfyniad, rwy'n cydnabod yr ymdrech a'r gwaith y mae'n ei gynhyrchu. Mae craffu adeiladol a chydweithio â'r Weithrediaeth i gyflawni canlyniadau yn ganolog i system bwyllgorau dda ac effeithiol. Mae datblygu dull ysgol gyfan llwyddiannus o ymdrin ag iechyd emosiynol a meddyliol yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn effeithiol. Mae'r addewid a wnaeth y Gweinidog Addysg ddoe i gynnwys iechyd emosiynol a meddyliol ar wyneb Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn gwneud yr un peth.
Rwy'n gobeithio y gall ein gwaith barhau i sicrhau canlyniadau pendant ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc rhwng nawr a'r etholiad. Fel Cadeirydd, rwy'n ymrwymo i wneud popeth yn fy ngallu i ysgogi cynnydd yn y maes hollbwysig hwn yn ystod y misoedd sy'n weddill o'r Senedd hon.
Roeddwn eisiau cloi drwy ailadrodd yr hyn a ddywedais pan siaradais â Senedd Ieuenctid Cymru yn ddiweddar. Ar ôl araith ar 'Cadernid Meddwl', lle roeddwn wedi pwysleisio pa mor ganolog oedd lleisiau pobl ifanc i'n hadroddiad, dywedais wrthynt sut roedd cynrychiolydd wedi dod ataf a gofyn imi beth fyddai'r bobl ifanc a fu farw drwy hunanladdiad yn ei ddweud pe baent yno y diwrnod hwnnw. Mae hynny wedi aros gyda mi. Yn anad dim, lleisiau'r bobl ifanc nad ydynt gyda ni mwyach a ddylai yrru ein ffocws di-baid ar ddarparu'r cymorth emosiynol a'r cymorth iechyd meddwl y mae ein plant a'n pobl ifanc ei angen ac yn ei haeddu. Diolch.