Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch yn fawr iawn, Lynne. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr hyn a ddywedoch chi am grŵp cynghori'r Gweinidog. Rhaid imi ymddiheuro i'r Aelodau. Dylwn fod wedi rhoi dwy funud lawn ichi ar ôl i'r gloch gael ei chanu, ac ofnaf mai dim ond 20 eiliad a gawsoch. Felly, rwy'n ymddiheuro i'r rhai sydd allan o wynt, ac ni fyddaf yn cosbi unrhyw un a gyrhaeddodd ychydig yn hwyr oherwydd fy nghamgymeriad. Suzy Davies.