Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd dros dro. Dwi'n dod at y ddadl yma o ddau bersbectif—yn gyntaf fel rhiant sy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd deiet iach a maethlon i'm mhlant i, fel i bob plentyn, ond hefyd, wrth gwrs, o safbwynt sut y gellid defnyddio'r polisi yma fel cyfle i ddiwygio arferion caffael ar yr un pryd er mwyn creu a datblygu cadwyni cyflenwi bwyd lleol, a'r cyfleoedd sy'n dod gyda hynny wedyn i'r sector bwyd a'r economi ehangach.
Mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi amlygu gwendidau sylfaenol yn y system fwyd yn y rhan yma o'r byd, ac mi wnaeth Plaid Cymru ymhelaethu yn sylweddol ar hynny yn ein dadl ni ar fwyd ryw bythefnos yn ôl. Ond, ychwanegwch chi oblygiadau Brexit—ac mae'n debyg y byddwn ni nid yn unig yn gweld caledi economaidd a lefelau diweithdra yn cynyddu, ond mae'n debyg y bydd Brexit hefyd yn arwain at gynnydd mewn prisiau bwyd a heriau o ran cyflenwadau bwyd, yn enwedig bwydydd ffres megis ffrwythau a llysiau—ac mae yna berygl y bydd dibyniaeth ar fanciau bwyd yn cynyddu ac y gwelwn ni'r anghydraddoldeb bwyd sydd eisoes i'w weld yn y wlad yma yn dwysáu, gyda system fwyd ddwy haen yn dod yn nodwedd amlycach o'n cymdeithas ni, sef y sawl sy'n gallu fforddio bwydo eu teuluoedd a'r rhai sy'n methu â gwneud hynny.
Nawr, wrth gwrs, prif ffocws y polisi yma yw sicrhau bod pob plentyn yn cael y bwyd a'r maeth sydd eu hangen arnyn nhw a, thrwy hynny, wella deiet ac iechyd ein plant ar yr un pryd. Rŷm ni'n gwybod bod lefelau gordewdra yn cynyddu yng Nghymru. Rŷm ni'n gwybod hefyd nad yw dros tri chwarter oedolion Cymru yn cael eu pump y dydd o ran bwyta llysiau a ffrwythau. Ond, yn frawychus, mae hynny'n codi i 94 y cant o blant rhwng 11 a 18 oed ddim yn cael eu pump y dydd pan fydd hi'n dod i lysiau a ffrwythau. Yn fwy na hynny, mae llai na thraean o bobl ifanc Cymru yn dweud eu bod yn bwyta dogn o lysiau unwaith y dydd, ac mae hynny'n dod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Nawr, mae afiechydon yn deillio o ddeiet gwael, ac mae hynny'n costio o gwmpas £73 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Felly, mae'n rhaid gwneud mwy i fynd i'r afael â hyn. Byddai sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn derbyn bwyd iach ac am ddim yn yr ysgol yn helpu i atal gordewdra, fel yr oeddwn yn ei ddweud, ond hefyd yn lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.
Ond, fel roeddwn i'n dweud ar y cychwyn, mae yna gyfle fan hyn hefyd i wireddu buddiannau ehangach a mwy pellgyrhaeddol yn sgil polisi o'r math yma. Rŷm ni eisiau gweld cynhwysion y ciniawau ysgol yma yn cael eu darparu o ffynonellau lleol, a fyddai wedyn yn cynnig cyfle pwysig i gefnogi a chryfhau economïau lleol. Byddai defnyddio mwy o lysiau, ffrwythau a chynhwysion lleol ar gyfer prydau ysgol yn helpu i greu marchnad leol newydd i'n ffermwyr ni, ond mi fyddai'n farchnad ragweladwy ac yn farchnad warantedig. Byddai hynny wedyn, wrth gwrs, yn helpu i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol. Mae gormod o gyfoeth yn cael ei golli o'n cymunedau ni, fel rŷm ni'n gwybod, drwy gaffael gan ddarparwyr o bell i ffwrdd. Dwi wedi dweud o'r blaen fod yr economi leol fel bwced â nifer o dyllau yn y bwced hwnnw, gyda'r cyfoeth yn llifo allan o'r gymuned leol. Mae hwn yn gyfle inni roi plỳg yn rhai o'r tyllau hynny a chadw'r pres yna yn cylchdroi oddi mewn i'r economi leol. Mi fyddai hefyd yn help i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, fel y mae un neu ddau wedi cyfeirio ato'n barod. Mi fyddai creu disgwyliad bod cynnyrch, fel llysiau a chig, yn cael ei ddarparu'n lleol yn lleihau milltiroedd bwyd, ac felly'n amlwg yn helpu i dorri allyriadau carbon.
Mi fyddai hefyd yn rhoi hwb sylweddol i'r sector garddwriaethol yng Nghymru. Pe bai safonau bwyd ysgolion, er enghraifft, yn cael eu diwygio i gynnwys dau ddogn o lysiau ym mhob pryd amser cinio, fe allai hynny greu cynnydd o 44 y cant mewn cynhyrchiant garddwriaethol domestig. Rŷm ni'n gwybod bod o leiaf 13 o wahanol fathau o lysiau sy'n cael eu tyfu ym Mhrydain lle byddai'n eithaf hawdd cynyddu eu cynhyrchiant nhw yn sylweddol. Felly, mae'n bolisi digon realistig ac yn bolisi digon cyraeddadwy, a fyddai'n creu swyddi ac ar yr un pryd yn lleihau ein dibyniaeth ni ar fewnforion. Ond dim ond 0.1 y cant o dir amaethyddol Cymru sy'n dir garddwriaethol ar hyn o bryd. Yn ôl Tyfu Cymru, mae Cymru ddim ond yn cynhyrchu digon i ddarparu un chwarter o un dogn o lysiau y dydd i bobl Cymru. Mae mawr angen newid hynny, wrth gwrs. Mae gwaith ymchwil gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru yn dangos y gallai'r dull hwn o weithio greu dwsinau o swyddi amaeth-ecolegol graddfa fawr, neu fwy na 500 o swyddi trwy fentrau amaeth-ecolegol graddfa llai, gydag allbwn ariannol i'r sector o bron i £400 miliwn—sori, £4 miliwn, nid £400 miliwn; byddai hynny'n game changer go iawn.
Ond mae'n rhaid peidio anghofio hefyd, wrth gwrs, y byddai darparu mwy o fwyd iach, lleol yn rhoi cyfle ar yr un pryd i gryfhau ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc am y cysylltiad pwysig yna sydd rhwng eu hysgol a'u hardal leol, gyda busnesau lleol, y sector amaethyddol, a'r amgylchedd naturiol, wrth gwrs, sy'n cefnogi ein system fwyd ni. Bwyta'n iach, cefnogi'r economi leol, dysgu am rwydweithiau a phrosesau bwyd lleol, a chysylltiad hynny gyda'r amgylchedd leol. Pwy feddyliai y gallai newid polisïau yn ymwneud â chinio ysgol, a chynyddu'r lefel o giniawau ysgol am ddim, ddod â buddiannau mor amrywiol, mor aml-haen, a chanolog, wrth gwrs, i'r math o adferiad rŷn ni i gyd am ei weld?