Part of the debate – Senedd Cymru am 11:48 am ar 30 Rhagfyr 2020.
Lywydd, ers bron i 100 mlynedd, mae Senedd y DU wedi bod yn poeni ynglŷn â'r posibilrwydd o gamddefnyddio a thanseilio democratiaeth o ganlyniad i gytundebau masnach ryngwladol, a dyna pam y datblygwyd confensiwn, a roddwyd ar waith yn y pen draw yn 2010 gan y Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu. Roedd yn enghraifft o Senedd y DU yn adfer rheolaeth. Roedd hyn, o leiaf, yn rhoi cyfnod o 21 diwrnod i Senedd y DU graffu ar gytundebau masnach, ac os oedd yn teimlo bod angen, i gynnal dadl a phleidlais. Nawr, mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) wedi'i gyflwyno i osgoi craffu democrataidd effeithiol yn San Steffan ac yng ngwledydd y DU, ac mae goblygiadau'r Bil a'r cytundeb yn enfawr. Maent yn effeithio ar y modd yr arferir pwerau yng Nghymru a'r DU, ac maent yn canoli grym enfawr yn nwylo Gweinidogion y Llywodraeth, yn enwedig yn San Steffan. Nawr, mae hyn, yn fy marn i, yn ddirmyg yn erbyn y Senedd, ac mae'n sarhad ar Senedd Cymru a phobl Cymru, gan ei fod yn ein hatal rhag gallu ystyried mater cydsyniad deddfwriaethol. Mae hynny'n tanseilio confensiwn Sewel, ac mae'n tanseilio Deddf Cymru 2017, a roddodd statws deddfwriaethol i Sewel. Felly, mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi mynd i’r afael â hyn yn tanseilio democratiaeth seneddol ledled y DU ymhellach.
Gan ddychwelyd at y Bil a’r cytundeb masnach, yr unig beth y gellid ei ddweud o'i blaid yw ei fod yn darparu lle hanfodol i fusnesau Cymru allu anadlu, gan ganiatáu graddau cyfyngedig o fasnach ddirwystr am yr ychydig flynyddoedd nesaf. Byddai effaith uniongyrchol y dewis arall ar economi Cymru, sef mwy o dariffau a chyfyngiadau ar y ffin, fel y dywedwyd, wedi difetha rhannau cyfan o amaethyddiaeth Cymru a'r economi weithgynhyrchu. Ond ar wahân i hyn, mae'n gytundeb gwael iawn i Gymru a'r DU, ac unwaith eto, mae'n datgelu pa mor ddi-glem yw arweinyddiaeth y Llywodraeth Dorïaidd.
Yn y tymor hir, mae'n newyddion da iawn i'r UE, gan ei fod yn galluogi rhaglen bontio Ewropeaidd ar gyfer adleoli gwasanaethau ariannol a gweithgynhyrchu o'r DU yn raddol, proses a ddechreuodd gyda Brexit sawl blwyddyn yn ôl ac sydd bellach yn cynyddu'n gyflym. Ei effaith ar ein diwydiannau dur a modurol fydd dirywio buddsoddiad newydd yn raddol a’i adleoli. Felly, bydd y cytundeb, ar ei ffurf bresennol, yn parhau'r broses sydd newydd ddechrau o getoeiddio economi'r DU, wrth i borthladdoedd Cymru gael eu hosgoi er mwyn cael cysylltiadau uniongyrchol a dilyffethair rhwng Ewrop ac Iwerddon. Nid yw'r cytundeb yn darparu unrhyw amddiffyniadau tymor hir i hawliau gweithwyr nac i gynnal safonau amgylcheddol a bwyd, ac mewn gwirionedd, mae'n darparu'r union fecanwaith ar gyfer eu diddymu, a dyna a fwriadwyd heb amheuaeth, er mwyn paratoi'r ffordd ar gyfer cytundeb masnach gyda’r Unol Daleithiau. Hefyd, rhaid inni beidio â thwyllo’n hunain y bydd cytundeb masnach Biden yn gwneud unrhyw beth heblaw amddiffyn ac ehangu buddiannau'r Unol Daleithiau, sydd eisoes yn canolbwyntio ar fwy o gydweithrediad â'r UE, pan glywsoch sylwadau Biden ar ôl iddo gael ei ethol, yn gwthio'r DU i is-haen eilradd o ymgysylltiad. Nid yw'n cynnig unrhyw amddiffyniad i'n gwasanaethau cyhoeddus, ac yn benodol y gwasanaeth iechyd gwladol, rhag trefniadau rheibus o'r fath, ac mewn gwirionedd, mae’n paratoi'r ffordd ar gyfer preifateiddio.
Nawr, mae diddymu Erasmus yn gam sydd eisoes wedi’i ddisgrifio fel fandaliaeth addysgol a diwylliannol, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i fynd ati hyd eithaf ei gallu i archwilio’r posibilrwydd o sefydlu ein cytundeb Erasmus Cymru-UE ein hunain.
Nid yw Cymru’n rhan o'r cytundeb hwn—mae'n ôl-ystyriaeth. Mae anwybyddu buddion Cymru wedi’i atgyfnerthu gan y Ddeddf marchnad fewnol, sy'n dod â chonfensiwn Sewel i ben ac yn ailganoli grym mewn nifer fach o ddwylo yn Rhif 10 Stryd Downing, a hyd yn oed yn osgoi Senedd y DU. Felly, yr wythnos hon, rydym wedi gweld taflen asgell dde eithafol sarhaus yn cael ei dosbarthu yn ein cymunedau yn galw am ddiddymu Senedd Cymru. Nawr, mae cefnogaeth asgell dde plaid Dorïaidd Cymru i’r prosiect hwn yno i bawb ei gweld. Dyma'r un bobl a oedd y tu ôl i ymgyrch Brexit—cenedlaetholwyr Eingl-Brydeinig sy'n falch o weld yr Alban yn gadael y DU a Chymru’n cael ei hysbaddu. Pe baent yn llwyddo, byddai’n ddiwedd ar Gymru, a fyddai’n dod yn ddim mwy na rhanbarth yn Lloegr, gan nad diddymu’r Senedd yn unig y mae’r bobl hyn yn dymuno’i wneud, maent am ddiddymu Cymru, gyda chefnogaeth y Torïaid Cymreig, y bydd eu gweithredoedd, mae’n rhaid imi ddweud, yn cael eu cofio fel un o'r enghreifftiau mwyaf o frad yn erbyn y wlad hon.
Lywydd, mae'r cloc yn tician ar ddyfodol y DU, gyda Llywodraeth Dorïaidd nad oes ganddi unrhyw ddiddordeb yng Nghymru. Mae'r Torïaid truenus wedi dod yn gefnogwyr ymraniad y DU, sydd, ymddengys i mi, yn fwy a mwy deniadol ac anochel o fis i fis. Felly, mae'n hanfodol bellach fod sosialwyr, rhyddfrydwyr a phobl flaengar ledled Cymru yn dod ynghyd i gynllunio dyfodol newydd i Gymru ac i wledydd a rhanbarthau eraill y DU, a dywedaf fod yn rhaid inni wneud hyn cyn ei bod yn rhy hwyr.