1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2021.
4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i dorri credyd cynhwysol o fis Ebrill ymlaen? OQ56123
Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig iawn yna. Rydym ni wedi a byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i gynnal y taliad credyd cynhwysol ychwanegol wythnosol o £20 ac i gyhoeddi hyn ar unwaith. Os na fyddan nhw'n gwneud hynny, bydd llawer o aelwydydd yng Nghymru—300,000 ohonyn nhw—yn colli dros £1,000 y flwyddyn. Mae'r ansicrwydd hwn yn achosi lefelau enfawr o bryder i rai o'n teuluoedd mwyaf agored i niwed.
Prif Weinidog, diolchaf i chi am yr ateb yna, ac mae'r ffigurau yn sicr, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, yn syfrdanol, o ran nifer y bobl a fyddai'n dioddef y gostyngiad hwn i'r hyn sydd, fe wyddom, yr incwm sylfaenol iawn y maen nhw ei angen i fodoli.
Rwy'n tybio, wrth gwrs, bod Llywodraeth y DU wedi seilio'r newid hwn ar ryw dystiolaeth bod pobl angen £20 ychwanegol yr wythnos dim ond i oroesi. Yr hyn sydd o ddiddordeb i mi nawr yw pa dystiolaeth y gallen nhw fod wedi ei darparu i'w hysbysu y gall y bobl hynny oroesi bellach ar £20 yn llai o fis Ebrill nesaf ymlaen. Nid wyf i wedi gweld y dystiolaeth. Tybed, Prif Weinidog, a ydych chi wedi gweld y dystiolaeth nad wyf i wedi ei gweld.
Rydym ni'n gwybod bod hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i bob teulu ym mhob rhan o'r DU. Mae'n ymddangos braidd yn annynol i mi gadw'r pwysau hwnnw ar y teuluoedd hynny sy'n ei chael hi'n anodd, mewn pob math o ffyrdd, a'r ansicrwydd y mae'n ei roi iddyn nhw, ymhen dim ond wyth wythnos, efallai y bydd eu harian yn cael ei dorri ymhellach fyth, a'r dewisiadau y mae'n rhaid iddyn nhw eu gwneud bob dydd yn cael eu gosod arnyn nhw. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, pan fyddwch chi'n siarad nesaf â'ch cymheiriaid yn Llywodraeth San Steffan, a allech chi ofyn iddyn nhw ddarparu'r dystiolaeth y mae'n ymddangos sydd ganddyn nhw i leihau'r incwm sylfaenol iawn hwn i'r teuluoedd mwyaf anghenus?
Wel, Llywydd, rwy'n hapus iawn i wneud yr union beth hwnnw. Ym mis Tachwedd, dywedodd y Canghellor y bydd yn gwneud penderfyniad ar y mater hwn yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Ar 8 Ionawr cawsom ateb o'r diwedd i lythyr yr oedd y Gweinidog Cyllid yn y fan yma wedi ei ysgrifennu gyda chymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn ôl ym mis Tachwedd, yn dweud bod y Canghellor yn mynd i aros am fwy o dystiolaeth cyn penderfynu. Wel, pa dystiolaeth sydd ei hangen arno, Llywydd? Mae'n debyg bod yr £20 yr wythnos yn gydnabyddiaeth o bedair blynedd o rewi budd-daliadau i bobl o oedran gweithio a diddymu elfen deuluol credydau treth a chredyd cynhwysol. Os oes angen rhagor o dystiolaeth arnyn nhw, Llywydd, rwy'n hapus i'w ddarparu fy hun.
Dywedaf wrthych chi am eiliad bod staff fy swyddfa etholaethol, yn ogystal â threulio'r cyfnod cyn y Nadolig yn gorfod dosbarthu talebau banc bwyd ar raddfa nad oeddem ni erioed wedi ei weld o'r blaen, ar Noswyl Nadolig cysylltodd teulu un rhiant â ni gyda phump o blant nad oedd ganddyn nhw ddim yn y tŷ, yn llythrennol, i fwydo'r plant hynny dros gyfnod y Nadolig. Mae pobl fy swyddfa i, fel eich rhai chithau i gyd, yn gweithio gartref ac maen nhw'n gorfod gwneud y gorau y gallan nhw o dan yr amgylchiadau hynny, a threuliasant Noswyl Nadolig yn rhedeg o gwmpas yn ceisio gwneud yn siŵr bod gan y pum plentyn hynny rywbeth i'w fwyta dros y Nadolig. Yn y pen draw, darparodd busnes lleol gwych y bwyd yr oedd ei angen arnyn nhw a llwyddwyd i'w gael atyn nhw.
Ond, Llywydd, ni allaf ddweud wrthych chi pa mor ddig y mae'n fy ngwneud, yn yr unfed ganrif ar hugain, bod gennym ni system sy'n gadael plant yma yng Nghymru yn y sefyllfa honno. Doedden nhw ddim yn y sefyllfa honno drwy ddamwain; roedden nhw yn y sefyllfa honno oherwydd bod polisi cap teuluol y Llywodraeth hon wedi gadael y teulu hwnnw yn yr amgylchiadau hynny. Mae'n bolisi creulon—polisi creulon—sy'n trosglwyddo canlyniadau ymddygiad rhieni i blant. Rwy'n hapus iawn i ddarparu'r dystiolaeth honno i Weinidogion y DU y tro nesaf y caf i gyfle, ac i ddweud wrthyn nhw bod y teuluoedd hynny angen gwybod nawr—nawr—na ofynnir iddyn nhw ymdopi gyda £1,000 yn llai ar ôl diwedd mis Mawrth eleni.
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi hwb o £7.4 biliwn i'r system les yn 2021, gan gynnwys y cynnydd dros dro o £20 yr wythnos i lwfans safonol credyd cynhwysol ac elfen sylfaenol credyd treth gwaith. Yn yr un ffordd â Llywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU yn parhau i adolygu ei holl fesurau coronafeirws wrth i sefyllfa'r pandemig newid. Fel y cadarnhaodd Prif Weinidog y DU unwaith eto yr wythnos diwethaf, mae ymestyn y cynnydd i gredyd cynhwysol y tu hwnt i fis Ebrill yn dal i gael ei adolygu. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau wedi datgan:
Fel y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud drwy gydol yr argyfwng hwn, bydd yn parhau i asesu'r ffordd orau o gynorthwyo teuluoedd incwm isel, a dyna pam y byddwn ni'n edrych ar y cyd-destun economaidd ac iechyd yn y flwyddyn newydd.
Nid oes ganddi felly gynlluniau i dorri credyd cynhwysol o fis Ebrill ymlaen. Fodd bynnag, o ystyried eich cyfrifoldebau datganoledig, sut ydych chi'n ymateb i alwadau Sefydliad Bevan, Cyngor ar Bopeth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru i Lywodraeth Cymru sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer cynlluniau budd-daliadau a chymorth a weinyddir yng Nghymru?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn ceisio bod yn ddiffynnydd ar ran Llywodraeth y DU yn hyn o beth; nid yw'n gwneud dim lles iddo o gwbl. Nid yw parhau i'w adolygu yn dda i ddim i'r teuluoedd hynny yn fy etholaeth i sy'n dibynnu ar yr £20 hwnnw bob wythnos i roi bwyd ar y bwrdd i'w plant. Nid adolygiad sydd ei angen arnyn nhw, Mr Isherwood; maen nhw angen gwybod bod yr arian yn dod iddyn nhw. Gofynnodd Alun Davies gwestiwn i mi yn gynharach, Llywydd, am y lol y mae gwleidyddion Ceidwadol yn ei ledaenu am yr £1 biliwn y dywedir sydd gan Lywodraeth Cymru ac y byddwn yn ei ddefnyddio yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol hon. Mae gan y Trysorlys £25 biliwn yn ei gronfa coronafeirws wrth gefn. Pam na wnawn nhw wneud penderfyniad a dweud wrth y teuluoedd hynny sy'n dibynnu arno bod yr arian hwnnw yn dod iddyn nhw? Dyna'r hyn yr hoffwn i ei weld.
Er fy mod i'n rhannu rhywfaint o'r dicter amlwg a gwirioneddol y mae'r Prif Weinidog yn ei deimlo am y ffordd y mae'r system fudd-daliadau yn effeithio ar bobl yma yng Nghymru, hoffwn awgrymu i'r Prif Weinidog bod rhywbeth y gallai ei wneud ar ran rhai o'r teuluoedd hynny. Mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn amcangyfrif bod oddeutu 70,000 o blant yng Nghymru y mae eu teuluoedd yn derbyn credyd cynhwysol ac eto nad ydyn nhw'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog heddiw, pe byddai Llywodraeth y DU yn gwneud y penderfyniad i ddiddymu'r cynnydd o £20—ac fel y Prif Weinidog, rwy'n gobeithio yn fawr na fyddan nhw'n gwneud hynny ac y byddan nhw'n rhoi sicrwydd i deuluoedd—ond os byddan nhw'n gwneud hynny, a yw'r Prif Weinidog yn derbyn bod rhywbeth wrth gwrs y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud, ar ran y teuluoedd hynny o fewn ei phwerau datganoledig, sef rhoi hawl i'r plant hynny a'r teuluoedd hynny gael prydau ysgol am ddim?
Diolchaf i Helen Mary Jones am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, mae'n un pwysig. Bydd yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd o ran gwneud yn siŵr bod prydau ysgol am ddim ar gael i fuddiolwyr presennol trwy gydol gwyliau'r ysgol, nid yn unig tan ddiwedd 2020 bellach, ond ar gyfer 2021 i gyd. Mae'r polisi y mae'r Aelod yn ei argymell yn un y byddai'n rhaid edrych arno yn ofalus iawn. Rhoddaf y costau iddi: os tybiwn fod gan y 70,000 o deuluoedd hynny un plentyn yr un, yna byddai hynny'n costio £33 miliwn i ni. Os tybiwn bod ganddyn nhw ddau o blant yr un, byddai'n costio £67 miliwn i ni, a phe byddem ni'n credu bod ganddyn nhw, ar gyfartaledd, dri phlentyn yr un, byddai'n costio £101 miliwn i ni. Mae hynny'n arian difrifol iawn yn wir o dan yr amgylchiadau yr ydym ni ynddyn nhw, a bydd yn rhaid dod o hyd i'r arian hwnnw o rywle arall, oherwydd nid oes arian yn eistedd o gwmpas yn Llywodraeth Cymru yn gwneud dim. Felly, rwy'n credu bod dadl i'w gwneud—wrth gwrs bod—ac rwyf i wedi ei gweld yn cael ei gwneud gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant ac eraill. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod nad yw'n ddewis rhwng gwneud hynny a gadael i bopeth arall barhau; mae'n ddewis rhwng gwneud hynny a rhoi terfyn ar rywbeth arall sy'n sicr yn angenrheidiol ac yn bwysig i lawer o ddinasyddion eraill Cymru.