Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 12 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:41, 12 Ionawr 2021

Wel, o'r cychwyn cyntaf, gwnes i fe'n glir y byddai'r Llywodraeth yma yn cymryd pob cam posibl i amddiffyn pwerau'r Senedd. Rydyn ni wedi gwneud hynny o ran strategaeth gwelliannau yn y Senedd yn San Steffan yn gweithio gyda'r Arglwyddi. Rydyn ni wedi gwneud hynny o ran argymell gwrthod cydsyniad i'r Senedd, fel sydd wedi, wrth gwrs, digwydd. A'r drydedd elfen i'r strategaeth yw cymryd y camau cyfreithiol yr wyf wedi sôn amdanyn nhw eisoes. Fel rwy'n dweud, rydyn ni wedi derbyn llythyr yn ymateb i'r llythyr y gwnes i anfon. Mae hynny'n cael ei edrych arno fe ar hyn o bryd mewn manylder. Ond yr hyn ddywedwn i wrth yr Aelod yw hyn: rwyf wedi darllen y llythyr ac, yn fy marn i, dyw'r cwestiynau roeddwn i'n codi ddim wedi cael eu hateb ac, felly, rwy'n disgwyl y byddwn ni yn cymryd y camau nesaf i gychwyn achos llys, ac rwy'n disgwyl i fod mewn sefyllfa i wneud y datganiad ysgrifenedig i Aelodau'r wythnos nesaf i'w diweddaru nhw ar hynny.