Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 12 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:40, 12 Ionawr 2021

Diolch am yr ateb yna, achos, wedi'r cwbl, gwnaeth y Senedd hon wrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Ddeddf yma. Wfftio hynny wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rydyn ni'n colli pwerau, colli arian a cholli rheolaeth dros ein harian. Nid yw gwrthod cydsyniad wedi helpu o gwbl. Felly, sut fyddwch chi'n sicrhau na fyddwn yn colli pwerau ac arian yn gyfreithiol wrth herio'r Ddeddf marchnad fewnol yma? A pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael efo Llywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd hefyd wedi gwrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Ddeddf yma?