Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 12 Ionawr 2021.
Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at yr Ysgrifennydd Gwladol ar 16 Rhagfyr i ddweud ein bod ni'n bwriadu cynnig sialens gyfreithiol i'r Bil, fel oedd e ar y pryd hwnnw. Rydyn ni wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw yn y dyddiau diwethaf, ac rydyn ni'n cysidro cynnwys y llythyr hynny ar hyn o bryd. Bydd Llywodraeth Cymru'n cymryd pob cam posibl i amddiffyn y Senedd rhag yr ymosodiad ar ei phwerau sydd yn y Mesur hwn.