Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 12 Ionawr 2021.
Diolch, Llywydd. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb yna a roddodd i'm cyd-Aelod, Dai Lloyd. Diolch iddo hefyd am wneud cynlluniau i gyflwyno'r her hon yn erbyn darpariaethau annerbyniol y Ddeddf mewn cysylltiad â datganoli, yr oeddwn i, wrth gwrs, wedi'i annog i'w wneud ym mis Medi. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae newydd ei ddweud o ran y datganiad ysgrifenedig y gallwn ei ddisgwyl yr wythnos nesaf. Ond tybed a fyddai mewn sefyllfa, naill ai nawr neu bryd hynny, i allu rhannu mwy o fanylion gyda ni yn y Senedd am y cynlluniau hyn. Byddai gennyf ddiddordeb dysgu am y sail ar gyfer yr her gyfreithiol, o ystyried bod y Ddeddf wedi'i llunio mewn modd sy'n ceisio atal cyflwyno her o'r fath, pa ddarpariaethau y mae'n bwriadu eu herio'n benodol. Hoffwn wybod hefyd beth yw'r amserlen dan sylw, o ystyried bod etholiad ar y gweill a hefyd y gallai Deddf y farchnad fewnol, ar ei ffurf bresennol, ei gwneud hi'n anodd i'r Senedd nesaf basio deddfwriaeth bwysig, megis lleihau'r defnydd o blastig untro. Felly, a gaf i ofyn, a yw'r Cwnsler Cyffredinol mewn sefyllfa i allu rhannu'r wybodaeth honno heddiw, neu, yn wir, yn y datganiad yr wythnos nesaf? Neu a oes rhesymau cyfreithiol pam na all wneud hynny ar hyn o bryd, os gwelwch yn dda?