Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 12 Ionawr 2021.
Wel, a gaf i gydnabod yn gyntaf yn ddiolchgar y gefnogaeth y mae'r Aelod wedi'i rhoi i Lywodraeth Cymru yn ein bwriad i sefyll dros y Senedd? Rwy'n ymwybodol o'r ffaith bod yr Aelod, rwy'n credu, yn gynnar iawn ar ôl i mi wneud fy natganiad ein bod yn bwriadu gwneud hynny, yn gefnogol iawn. Felly, hoffwn gydnabod hynny os caf.
Mae dwy neu dair agwedd ar gwestiwn yr Aelod. Yn gyntaf, o ran y cyngor yr wyf wedi'i roi i gyd-Aelodau eraill ynglŷn â sail yr honiad, mae'n amlwg y bydd y cyngor yn gyfrinachol yn y ffordd arferol, fel y gŵyr yr Aelod rwy'n siŵr. Ond mae'n amlwg y byddaf eisiau sicrhau y caiff sail yr honiad a'r ymateb gan Lywodraeth y DU eu hystyried yn llawn yn y datganiad a wnaf i'r Aelodau, fel bod gennych chi ddarlun clir o'r bwriad ac o ddadansoddiad y Llywodraeth o'r llythyr, a dderbyniwyd ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, rwy'n credu. O ran amserlen, mae'n amlwg bod gweithdrefn llys, a ddilynir pan ddaw'r amser. Yn amlwg, hoffwn roi syniad o'r amlinelliad o hynny yn y datganiad yr wythnos nesaf, a bwriadaf drwy gydol y broses roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau yn y mater hwn, o gofio ei arwyddocâd i Aelodau ac i'r sefydliad yn gyffredinol.