Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 12 Ionawr 2021.
Mae deddfwriaeth fewnol y farchnad, fel y mae, yn tanseilio sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig a mandad y fan hon. Mae'r hyn y mae Boris a'i ffrindiau wedi'i wneud hyd yma wedi peri i hyd yn oed cyn-Weinidogion Torïaidd a Phrif Weinidogion Torïaidd wrthwynebu'n groch oherwydd bydd yn difreinio dinasyddion Cymru ac yn annog chwalu'r DU y maen nhw'n honni ei diogelu. Mae'r ffaith y gwrthodwyd fisâu i gerddorion rhyngwladol Cymru gan Lywodraeth y DU tra bod Boris yn beio Brwsel, neu fod Boris bellach wedi gwanhau amddiffyniadau amgylcheddol ac wedi caniatáu plaladdwyr peryglus yn ôl i'r DU sy'n lladd gwenyn ac ecosystemau yn dweud cyfrolau. Felly, Cwnsler Cyffredinol, gan fod Llywodraeth y DU bellach yn torri eu haddewidion ffug i roi arian Ewropeaidd i'r GIG neu na fydd Cymru ar ei cholled yn ariannol neu y bydd amddiffyniadau amgylcheddol yn parhau, nid yw hyn ond yn golygu ein bod yn dechrau gweld y canlyniadau hynny o adael yn dod i'r amlwg. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r Senedd y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pob llwybr cyfreithiol i sicrhau y gwasanaethir buddiannau gorau Cymru a'n dinasyddion?