Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 12 Ionawr 2021.
Diolch i Helen Mary Jones am godi'r tri maes pryder penodol hynny y prynhawn yma. Felly, diffygion mewn ysgolion, adnewyddu ysgolion yng nghyd-destun ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a'r broses ar gyfer ymgynghori ar unrhyw newidiadau yn ystod y cyfnod presennol o gyfyngiadau a chyd-destun y pandemig. Y tro hwn, rwy'n gofyn i Helen Mary anfon llythyr at y Gweinidog Addysg, er mwyn iddi allu ymateb i bob un o'r pryderon hynny, oherwydd maen nhw'n feysydd eithaf manwl a chymhleth ac efallai y byddai'n dda gallu cyfeirio at y canllawiau perthnasol ac yn y blaen y tro hwn.