5. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2021-2022

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 12 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:15, 12 Ionawr 2021

Diolch am y datganiad ar y gyllideb, sydd wrth gwrs yn dod mewn amgylchiadau anodd tu hwnt. Os ydym ni'n edrych ar y flwyddyn ryfeddol sydd wedi bod, mae hi wedi dod yn gliriach nag erioed, efallai, fod y cyfyngiadau mae Trysorlys y Deyrnas Unedig yn eu rhoi ar Lywodraeth Cymru a'i gallu i gynllunio ymlaen yn broblem ddifrifol iawn i ni yma yng Nghymru, a'r rhwystredigaethau o gwmpas hynny ydy nodwedd ffisgal fwyaf amlwg y pandemig yma heb os.

O edrych ar y gyllideb ddrafft o'n blaenau ni, mae yna nifer o bethau i'w croesawu, yn sicr, o ran gwariant. Os edrychwn ni ar rai o'r ffigurau pennawd: y £40 miliwn ychwanegol i'r grant cymorth tai; yr £20 miliwn i gefnogi teithio llesol dwi'n ei gefnogi a'i groesawu; dros £20 miliwn i ymateb i bwysau demograffeg ar addysg chweched dosbarth ac addysg bellach, sydd yn hanfodol; arian i gefnogi diwygiadau cwricwlwm, i wasanaethau iechyd meddwl cymunedol ac mewn ysgolion. Mae yna symiau sylweddol—rhyw £274 miliwn—wedi'u neilltuo ar gyfer y rhwydwaith rheilffordd a metro, er y buasai'n dda, os caf i ofyn hyn yn gynnar fel hyn, cael manylion gan y Gweinidog am sut y bydd hynny'n cael ei wario. 

Hefyd, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn sicr yn croesawu penderfyniad y Llywodraeth ar y dreth trafodion tir. Mae impact ail gartrefi ar ein cymunedau ni yn fater y mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu'n hir arno fo. Mi barhawn ni i wneud hynny. Dwi'n falch bod y Llywodraeth yn barod i drafod efo ni, ac yn trafod efo ni ar hyn o bryd, yr ystod o gamau rydym ni eisiau eu gweld yn cael eu cymryd i warchod ein marchnad dai ni, tu hwnt i'r newidiadau treth trafodion tir. Yn wir, mae angen gweithredu brys ar hyn, a dwi'n gwneud yr apêl yna eto i'r Gweinidog. 

Llywydd, gaf i droi at yr arian sydd wedi dod fel arian canlyniadol—arian consequential—i Gymru ar gyfer delio efo'r pandemig yn benodol? Cyn gwneud hynny, gaf i bwyntio allan bod pob gwlad annibynnol yn gallu gwneud ei phenderfyniadau ei hun ynglŷn â chynyddu gwariant ar adeg eithriadol fel yma? Does gan Gymru ddim yr hawl i gynyddu gwariant ar iechyd, er enghraifft. Rydym ni ond yn gallu cael arian ychwanegol i ddelio efo heriau iechyd y pandemig yma pan fo Lloegr yn penderfynu gwario mwy ac rydym ni'n cael arian canlyniadol. Mae hynny'n amlwg yn annerbyniol. Mae o'n wir ar gyfer pob maes o wariant cyhoeddus hefyd, wrth gwrs, ac mae'n bwysig bod pobl yn deall hynny, achos mae'n ddadl gwbl greiddiol o blaid annibyniaeth i Gymru, a does gennym ni prin ddim pwerau benthyg chwaith, a fuasai'n cynnig opsiwn arall o ran hyblygrwydd.

Ond yn ôl at y defnydd o'r arian canlyniadol yna sydd wedi dod i Gymru, yn y Pwyllgor Cyllid mi eglurodd y Gweinidog Cyllid sut bod £766 miliwn o arian canlyniadol wedi cael ei roi i'r Llywodraeth. Mae rhyw 10 y cant, dwi'n meddwl, o hynny—£77 miliwn—wedi cael ei glustnodi. Rŵan, nid fy ngwaith i ydy amddiffyn y Llywodraeth, ond dwi'n credu bod y Llywodraeth yn iawn i fod yn ofalus iawn wrth glustnodi'r arian yma a gwneud yn siŵr bod arian wrth gefn, os leiciwch chi, yn cael ei gronni i'w wario dros y flwyddyn nesaf. Mae yna bandemig sy'n taflu heriau newydd atom ni dro ar ôl tro, ac mae angen cronfa i allu troi ati hi, yn enwedig o ystyried ein diffyg hyblygrwydd ffisgal, fel dwi wedi cyfeirio ato fo. Dwi'n gweld y Ceidwadwyr yn dadlau y dylid clustnodi'r holl arian. Dwi ddim yn credu bod hynny'n beth synhwyrol i'w wneud ar y pwynt yma ac efallai y dylen nhw drio perswadio eu meistri nhw yn Llundain i roi setliad gwell i Gymru. Felly, ydy, mae'r Llywodraeth yn iawn i gronni arian. Ond, wedi dweud hynny, gadewch imi roi fy het ymlaen fel llefarydd iechyd Plaid Cymru am funud hefyd.

Dwi yn eiddgar iawn i weld sut mae'r £689 miliwn sy'n weddill yn cael ei dargedu'n effeithiol, yn enwedig pan mae'n dod at y rhaglen frechu. Does yna ddim sgimpo i fod ar y rhaglen honno. Ond mae hefyd, wrth gwrs, angen i ni fod â golwg clir, rŵan, ar y cyfnod ar ôl y pandemig a'r gwaith ailadeiladu sydd yna i'w wneud. Rydym ni angen sicrhau bod cronfa adfer werdd gynhwysfawr ac uchelgeisiol yn cael ei rhoi mewn lle. Efallai y gall y Gweinidog ddweud i ba raddau y gall peth o'r arian canlyniadol gael ei ddefnyddio i'r diben hwnnw.

Gair eto, i gloi, am yr hyn y gwnes i gyfeirio ato fo ar y dechrau, sef y rhwystredigaeth ar y cyfyngiadau sy'n cael eu gosod ar Lywodraeth Cymru gan Drysorlys y Deyrnas Unedig. Bydd y Gweinidog yn gwybod yn iawn o'r hyn dwi wedi bod yn galw amdano fo ers dechrau y cyfnod clo cyntaf, ac mi wnaf ei ailadrodd eto: mae'n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig godi, o leiaf dros dro, y cyfyngiadau sydd wedi'u gosod ar allu Llywodraeth Cymru i fenthyg, i dynnu arian i lawr o'r gronfa wrth gefn ac i allu defnyddio arian cyfalaf ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd. Rhowch y pwerau inni edrych ar ôl pobl Cymru. Dydy'r Trysorlys yn dal ddim wedi ymateb yn bositif i hynny, felly gawn ni ddiweddariad, os gwelwch yn dda, ar lle rydym ni arni o ran y trafodaethau hynny? Mi oeddem ni angen gweithredu brys ar ddechrau'r pandemig ac mi fydd angen gweithredu brys a'r hyblygrwydd i allu gweithredu ar frys pan awn ni i mewn i'r mode adfer. Dydy'r grant ddim yn ddigonol ac mae gwendidau'r setliad ffisgal wedi dod i'r amlwg hefyd. Mae angen ailhafalu ein heconomi a chodi plant allan o dlodi a chefnogi'n busnesau ni a hefyd, wrth gwrs, cydnabod cyfraniad amhrisiadwy ein gweithwyr ar y rheng flaen.