Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 12 Ionawr 2021.
Rwy'n sylweddoli bod y datganiad hwn wedi'i gwtogi heddiw oherwydd cyfyngiadau amser, felly byddaf yn gryno. Rydym yn amlwg yn mynd drwy gyfnod heriol iawn fel gwlad, o ran iechyd y cyhoedd ac yn ariannol, fel y mae'r Gweinidog Cyllid newydd gyfeirio ato, ac mae cyfnod heriol yn gofyn am gyllideb sy'n gwneud y mwyaf o bob punt yng Nghymru. Nawr, er gwaethaf barn eithaf negyddol y Gweinidog—ar un adeg, beth bynnag—ynghylch y ffaith bod gwariant refeniw wedi gostwng o'i gymharu â 2010-11, mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi golygu bod gwariant Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'n sylweddol, 4.6 y cant mewn termau arian parod, i dros £22 biliwn.
Rwyf yn credu, wrth ymateb i'r ddadl hon, y byddai'n dda cael rhywfaint o eglurder gan y Gweinidog ynglŷn â'r mater hwn ynghylch cyllid heb ei ddyrannu, sydd wedi'i godi'n gynharach heddiw a thros y dyddiau diwethaf. Nid yw'n glir i mi pam mai dim ond £77 miliwn o ddyraniad cyllid y flwyddyn i ddod sydd eto i'w ddyrannu, ac mae pryderon o hyd nad yw £1 biliwn o gyllid COVID-19 o eleni wedi'i wario ychwaith—fel y dywedais, mater a godwyd yn gynharach. Felly, pe baem yn clywed gan y Gweinidog ynghylch yr hyn sy'n digwydd, byddai hynny'n ddefnyddiol.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'n gyson am gynllun adfer i Gymru, nid yn unig i dywys Cymru drwy bandemig presennol COVID-19, ond hefyd i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen ar Gymru yn y dyfodol, ac i weld newid trawsnewidiol yn y gwasanaethau cyhoeddus hynny. Nawr, gwyddoch ein bod yn siarad llawer yn y Siambr hon—ac, yn wir, y Siambr rithwir hon, ac fe wnaeth y Gweinidog yn gynharach—ynghylch ailgodi'n well ac ailgodi'n wyrddach, ac rwy'n cytuno â phob un ohonyn nhw, ond mae yngan geiriau, wrth gwrs, yn hawdd. Y cwestiwn yw: a yw'r gyllideb hon yn darparu'r chwyldro ariannol a'r cynllun adfer y mae mawr eu hangen ar economi Cymru? Ac rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni aros am yr ateb.
Gan droi at y newidiadau trethiant yn y gyllideb ddrafft, mae ardrethi busnes yma yn parhau i fod yn rhai o'r uchaf yn y DU, gyda busnesau llai yn talu cyfrannau tebyg i fusnesau mwy. Mae treth trafodiadau tir ar gyfer eiddo annomestig yn aros yn ddigyfnewid, o'r hyn y gallaf ei gasglu, tra bod y penderfyniad i newid treth trafodiadau tir ar gyfer tai gwerth rhwng £180,000 a £210,000 yn ôl i'r lefelau cyn y pandemig o 3.5 y cant yn codi pryderon yn y sector tai. Ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog, fel fi, eisiau helpu prynwyr tro cyntaf—rydym ni eisiau helpu pobl i gael troedle yn y farchnad dai—felly hoffwn glywed gennych chi sut y bydd y gyllideb hon yn helpu i gyflawni hynny.
Fel y soniodd y Gweinidog yn ei datganiad, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £5.2 biliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â COVID-19 dros y naw mis diwethaf, ar ben codiadau blaenorol. Felly, credaf fod y blwch gwariant wedi'i dicio'n glir, ond credaf mai'r hyn sy'n dal i fod yn ddiffygiol i ryw raddau yw dull mwy creadigol wedi'i dargedu i gyflawni cynllun adfer i Gymru, a chredaf mai dyna yw ein hamcan hirdymor fel Senedd
Felly, mae arnom ni angen cyllideb a fydd yn galluogi Cymru i ailgodi'n well a sicrhau dyfodol mwy disglair. Oes, mae'n rhaid i'r broses o fynd i'r afael â newid yr hinsawdd fod yn ganolog i hyn. Hoffai'r Ceidwadwyr Cymreig weld y system drafnidiaeth well y soniodd y Gweinidog amdani, ac, wrth gwrs, mae'r pandemig wedi dangos nad oes angen i ni fod mor ddibynnol ar seilwaith trafnidiaeth ffisegol yn y dyfodol ag yr ydym ni wedi bod yn y gorffennol, gyda mwy o bobl yn gweithio gartref. Ond ni all hynny ond gweithio yn y tymor canolig a'r tymor hir os caiff seilwaith band eang Cymru ei uwchraddio, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
O ran busnes, er bod cymorth ariannol yn y gyllideb hon i'w groesawu, mae'n hanfodol ein bod yn cael cymorth i fusnesau'n gyflym. Effeithiodd y flwyddyn diwethaf yn arbennig o wael ar sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, fel y gwyddom ni i gyd, ac yn sicr nid ydym ni eisiau gweld unrhyw gronfa rhyddhad economaidd yn cael ei chyflwyno'n wael, fel grant datblygu cam 3, lle gwelsom y grant datblygu wedi'i atal oriau ar ôl ei agor, oherwydd nifer yr ymgeiswyr.
Felly, hoffwn i'r Gweinidog ystyried dulliau mwy arloesol o gefnogi busnesau yng Nghymru. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gweld buddsoddiadau yn ein busnesau bach a chanolig eu maint, sylfaen ein heconomi, ond mae'n hawdd beirniadu, onid yw, ac rwy'n cydnabod hynny. Beth yw'r dewisiadau eraill? Wel, gallwn gynnig rhaglen datblygu cymunedol COVID, parthau heb ardrethi busnes, a allai gynnwys tair blynedd o ardrethi am ddim, gan ganiatáu iddyn nhw fuddsoddi yn eu gweithlu. Felly, byddwn yn annog y Gweinidog i ystyried yr holl gyfleoedd hyn wrth i ni fynd rhagddom ni i geisio adeiladu economi fwy creadigol a deinamig wrth i'r cyfyngiadau symud lacio.
Rydych chi wedi sôn eich bod yn buddsoddi £5 miliwn, Gweinidog, i uwchsgilio ac ailhyfforddi gweithwyr incwm isel, ond a yw'n wir y bu toriad mewn termau real i rai cynlluniau addysg cyflogwyr? Rwy'n meddwl am y gyllideb cyflogadwyedd a sgiliau hefyd, sydd fel petai wedi cael ei thorri. Felly, onid yw hynny'n wrthgynhyrchiol? A beth am doriadau i'r gyllideb datblygu seilwaith economaidd, gan gynnwys toriadau mewn termau real i weithrediadau seilwaith TGCh? Os ydym ni eisiau ailgodi'n well ac ailgodi'n wyrddach, yna mae angen i ni sicrhau bod y seilwaith gwyrdd hwnnw yn bodoli.
Ac yn olaf, Llywydd, os oes gennyf rywfaint o amser, gan droi at gyfraddau treth incwm Cymru, rydych chi wedi ailadrodd y bydd cyfraddau treth incwm Cymru yn aros yr un fath ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon, felly mae hynny'n galonogol. Fodd bynnag, nid oes gennym ni sicrwydd o hyd na fydd y dreth honno'n newid ar ôl yr etholiad. Rwy'n siŵr na fyddwch yn dweud wrthym ni heddiw, oherwydd mae hynny i gyd ar y gweill ym maniffesto Llafur Cymru, rwy'n siŵr, ond pe gallem ni gael rhywfaint o arweiniad ynghylch pryd y gallwn ni ddisgwyl cyhoeddiadau am newidiadau treth yn y dyfodol. Mae hwn yn faes newydd ac arloesol i Lywodraeth Cymru, ac mae'n bwysig ein bod yn llwyddo gyda hyn ar y dechrau, fel nad ydym yn ceisio dal i fyny yn nes ymlaen. Ond, ie, gadewch i ni ailgodi'n wyrddach ac ailgodi'n well.