Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 12 Ionawr 2021.
Nid wyf yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, felly mae'r hyn yr wyf yn mynd i'w ddweud yn ymwneud mwy o lawer â'r effaith ar fy etholwyr a sut yr wyf yn credu y bydd y gyllideb hon yn gweithio. Mae'n gyllideb anodd iawn, fel y dywedodd Mike Hedges wrthym yn ei gyfraniad da iawn, fel y gwna Mike bob tro. Dywedodd, 'Mae hyn cystal â'r hyn a gewch chi gyda'r arian sydd gennych chi', ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Mae hyn yn anodd iawn. Byddai'n deg dweud bod gennym ni setliad cyllideb siomedig gyda chylch gwario un flwyddyn, a bydd hyn yn cael effaith fawr, nid yn unig ar Lywodraeth Cymru, ond ar lywodraeth leol, ar wasanaethau iechyd, ysgolion a cholegau. Y mae hyn, mae'n rhaid imi ddweud, fel yr oedd Mark Isherwood yn ei ddweud, yn anodd ar ein holl fudiadau trydydd sector a gwirfoddol hollbwysig. Ond rydym yn gorfod gwneud y gorau gyda'r hyn sydd gennym ni yma, gyda setliad cyllideb blwyddyn, gyda chyllideb refeniw graidd ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd fesul unigolyn i lawr 3 y cant o'i chymharu â'r hyn ydoedd yn 2010-2011, a chyllideb gyfalaf sydd wedi gostwng 5 y cant o'i chymharu â'r llynedd. Nid yw hyn yn newyddion da.
Yn anffodus, nid oes gennym ni hyd yn hyn yr eglurder y mae arnom ni ei angen ac yr ydym yn ei haeddu ac yr addawyd i ni ynghylch cyllid ar ôl gadael yr UE. Nid ydym yn gwybod y manylion am y gronfa gydbwyso. A ydym yn mynd i gael yr arian a addawyd inni sydd mor hanfodol i gymunedau fel fy un i, sydd wedi elwa ar y cyllid hwnnw o raglenni'r UE ers cynifer o flynyddoedd? Nid ydym yn gwybod. Ac, wrth gwrs, ar ben hynny, mae gennym ni yr ansicrwydd ynghylch y pandemig a chynllunio ariannol tymor hwy Brexit. Felly, nid yw pennu cynlluniau refeniw a chyfalaf ar gyfer un flwyddyn yn ddelfrydol, ond, fel y dywed Mike, mae hyn cystal â'r hyn a gawn ni gyda'r arian sydd gennym ni ar hyn o bryd a'r sicrwydd a gawsom ni gan Lywodraeth y DU.
Wedi dweud hynny, credaf ei fod yn fater o bennu blaenoriaethau, a chytunaf â'r prif flaenoriaethau sydd wedi'u pennu. Mae'r syniad, ar hyn o bryd, yng nghanol pandemig byd-eang a'r argyfwng sydd gennym ni, yn ymwneud â diogelu iechyd y cyhoedd ac mae'n ymwneud â diogelu swyddi. Ar y sail honno, mae hefyd yn ymwneud â defnyddio'r cyfle hwn i wneud pethau'n wahanol gyda'r dyfodol gwyrddach hwnnw—newidiadau ar gyfer cymdeithas decach a mwy cyfartal. Mae hynny'n golygu gweithio'n agosach at adref, mae'n golygu buddsoddi yng nghanol ein trefi, mae'n golygu rhoi'r cyfleoedd hynny fel nad oes rhaid i bobl gymudo'n bell, y gallant weithio o'u cartrefi eu hunain, gyda buddsoddiad mawr mewn seilwaith digidol, neu o ganol trefi wedi'u hadfywio. Mae'n ymwneud â chreu'r fyddin honno o osodwyr effeithlonrwydd ynni medrus iawn ym mhob cymuned, sy'n cael eu talu'n dda ac yn gwneud gwaith o ansawdd uchel, gan ddarparu nid yn unig cartrefi cynnes a swyddi lleol da, ond ein helpu i fynd i'r afael â'n hargyfwng hinsawdd, yn ogystal â'r argyfwng swyddi.
Ond o fewn y gyllideb hon, mae'n rhaid imi ganmol y Gweinidog am ddod o hyd i arian ar gyfer rhai pethau pwysig iawn, yr arian ychwanegol, gyda blaenoriaethu anodd, mae'r £420 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i'w groesawu'n fawr. Byddwn i'n gofyn i'r Gweinidog a all gadarnhau bod y trawsnewid parhaus a wnaethom ei roi ar waith ychydig flynyddoedd yn ôl, gan ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol mwy di-dor at ei gilydd fel ein bod yn cael mwy am ein harian yn dal i gael ei gyflawni ac na chaiff ei golli wrth inni ymdrin â'r pandemig presennol hwn sy'n parhau o hyd.
Croesawaf yn fawr y buddsoddiad, nid yn unig ym maes tai ac adeiladu cartrefi newydd, ond hefyd y buddsoddiad mewn digartrefedd ac yn y gwaith o fynd i'r afael â melltith cysgu allan hefyd. Gwyddom fod dros 4,000 o bobl wedi eu rhoi mewn llety dros dro y llynedd ers mis Mawrth. Dywedodd llawer ohonom ni mor rhyfeddol oedd hynny a'r ymgyrch bolisi a helpodd i gyflawni hynny, nid dim ond y buddsoddiad. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Gweinidogion eraill, nid yn unig ynghylch effaith yr adeiladu tai sy'n digwydd, gan gynnwys creu a chadw swyddi ar yr adeg bwysig hon, ond hefyd ynghylch sicrhau bod y cyllid hwn yn ddigonol i barhau â'r frwydr honno ac ennill y frwydr honno i roi terfyn ar gysgu allan a digartrefedd.
Rwy'n croesawu'r buddsoddiad mewn llywodraeth leol, bydd y £176 miliwn ychwanegol hwnnw'n helpu, yn ddi-os, nid yn unig mewn ysgolion a gofal cymdeithasol, ond yn y gwasanaethau lleol sydd wedi bod yn hollbwysig wrth ymateb i'r pandemig, ond rhaid imi ddweud hefyd, Llywydd, y 10 mlynedd o effaith andwyol cyni ar ein hawdurdodau lleol a'n gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Bydd yn helpu. Ond, wrth gwrs, y cwestiwn tyngedfennol i bob un ohonom ni wrth gynrychioli ein hetholaethau: a oes unrhyw obaith y bydd Llywodraeth y DU yn ein helpu i fynd ymhellach fyth i adfer ein gwasanaethau cyhoeddus y tu hwnt i'r pandemig, y tu hwnt i bontio ar ôl yr UE i'r lefelau yr ydym ni eisiau eu gweld, y lefelau y mae ein hetholwyr yn eu haeddu ar ôl iddyn nhw ddioddef ar ôl 10 mlynedd o gyni?
Rwyf yn croesawu hefyd, Llywydd, y buddsoddiad mewn addysg, y buddsoddiad nid yn unig mewn addysg, ond hefyd o ran ailhyfforddi ac ailsgilio, oherwydd gwyddom y bydd cenhedlaeth o bobl ifanc sy'n ansicr ynghylch amgylchedd eu hysgolion, ond sy'n ansicr ynghylch yr amgylchedd swyddi hefyd yr ydym ni yn ei wynebu ar hyn o bryd gyda'r argyfwng cyflogaeth. Felly, byddwn yn gofyn i'r Gweinidog—y buddsoddiad sydd yn y fan yna, y £12 miliwn i ddal i fyny ar ôl colli addysg, y £6 miliwn ar gymunedau a gwaith a mwy, a'r uwchsgilio a'r ailhyfforddi, a oes unrhyw obaith y byddwn yn gallu gweld mwy yn y blynyddoedd nesaf yn mynd i'r chweched Senedd mewn Llywodraethau yn y dyfodol os cawn yr ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth y DU, os daw mwy o arian i Gymru fel y gallwn ni fuddsoddi mwy yn y sgiliau a'r hyfforddiant hynny i bobl ifanc a fydd eisiau gweld gobaith ar gyfer y dyfodol hefyd?
Yn olaf, a gaf i ddweud, Llywydd, oherwydd nid wyf yn cadw llygad ar yr amser, ac rwy'n siŵr fy mod yn brin o amser nawr—